Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Beth yw sgiliau rhyngbersonol?

Rydym yn defnyddio ein sgiliau rhyngbersonol i gyfathrebu a rhyngweithio â phobl. Yn aml, gall cael sgiliau rhyngbersonol da arwain at berthynas dda â'n teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn arbennig. Byddwn yn defnyddio ein sgiliau rhyngbersonol ym mhopeth a wnawn. Fodd bynnag, ni chafodd y sgiliau hyn eu haddysgu i ni mewn ystafell ddosbarth. Fel arfer, byddwn yn eu dysgu yn ein bywyd bob dydd drwy weld eraill yn eu defnyddio'n llwyddiannus.

Dyma rai enghreifftiau o sgiliau rhyngbersonol:

  • y gallu i fynegi eich hun yn glir ac yn hyderus
  • bod yn ymwybodol o iaith y corff a mynegiannau'r wyneb
  • gwrando ar bopeth y bydd eraill yn ei ddweud gydag empathi
  • bod yn barod i gydweithredu a gweithio fel rhan o dîm
  • deall rheolau ymddygiad ymhlyg
  • gallu bod yn bendant heb fychanu'r person arall a heb i chi ymddangos yn ddig ac ymosodol
  • bod yn gyfrifol ac yn brydlon
  • gallu siarad ar ran eraill sy'n llai abl i wneud hynny drostynt eu hunain, neu eu helpu (eiriolaeth).

Mae'n cymryd amser ac ymarfer i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da. Po fwyaf y byddwch yn rhyngweithio â phobl eraill a pho fwyaf y cewch eich amlygu i amrywiaeth eang o brofiadau, y mwyaf tebygol y byddwch o ddatblygu'r rhinweddau pwysig hyn. Un o'r sgiliau rhyngbersonol pwysicaf sydd ei angen arnoch fel rhan o'ch rôl fel gofalwr yw gallu cydweithredu a gweithio fel rhan o dîm. Yn aml, bydd y bobl rydych yn gofalu amdanynt yn cael help gan amrywiaeth eang o bobl ac asiantaethau, ac mae cyfathrebu da yn allweddol i fod yn rhan o dîm sy'n gweithio'n dda.

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn ystyried y bobl sy'n rhan o dimau, a sut mae'r timau hynny'n gweithio. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fyfyrio ar eich profiadau eich hun o fod yn rhan o dîm.

Gweithgaredd 7

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Mae Marie yn ofalwr cyflogedig, sy'n gweithio i asiantaeth. Darllenwch ei stori ac yna atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Astudiaeth achos: Marie

Rwyf wedi bod yn brysur iawn ers i mi ddechrau gweithio i'r asiantaeth. Rwyf wedi gwneud llawer o waith gyda Leonard Cheshire fel gofalwr yn y cartref. Rwy'n teimlo fy mod wedi sefydlu enw da ar gyfer dibynadwyedd gan nad wyf yn hoffi siomi fy nghleientiaid. Mae fy mhlant yn eithaf bodlon i ofalu amdanynt eu hunain cyn ac ar ôl yr ysgol ac maent yn ddigon hen i adael yn ddiogel. Rwy'n meddwl y byddent yn hoffi i mi fod yno yn amlach, ond rwy'n dweud wrthyn nhw, os ydynt am gael y pethau ychwanegol, bod yn rhaid iddynt fod yn barod i wneud mwy o amgylch y tŷ a bwyta prydau parod. Does dim ots ganddyn nhw gan eu bod yn cael dewis beth i'w fwyta!

Mae rheolwr yr asiantaeth yn dweud mai fi yw un o'i gweithwyr gorau ac mae llawer o'r bobl rwy'n gofalu amdanynt yn rheolaidd yn fy adnabod bellach ac yn holi amdanaf os nad wyf yno. Mae'n gwybod y byddai'n well gen i gael gwaith parhaol, ond mae'r asiantaeth yn talu mwy, neu fel arall byddwn yn gweithio i Leonard Cheshire yn barhaol.

Un o'r pethau gorau am fod yn aelod o staff asiantaeth yw nad ydych yn rhan o holl wleidyddiaeth y swyddfa, ac ar adegau gall rhai o'r gofalwyr eraill fod yn sarhaus iawn, yn enwedig amdanom ni bobl yr asiantaeth. Nid ydynt yn meddwl ein bod yn gweithio mor galed â nhw, nac yn malio am y bobl sy'n derbyn gofal gennym.

Mae'n anodd dod o hyd i amser i ddod i adnabod pobl eraill, ac mae'n ymddangos bod gan bob un ohonynt ffrindiau yn barod, felly efallai nad ydyn nhw am gymysgu â phobl yr asiantaeth – wn i ddim. Weithiau, rwy'n teimlo eu bod yn fy nghasáu am fy mod yn cael mwy o gyflog na nhw am wneud yr un gwaith, ond rwy'n dweud wrthyn nhw y gallen nhw adael a dechrau gweithio i'r asiantaeth hefyd. Dydw i ddim yn deall pam nad ydyn nhw'n gwneud hynny os yw'r arian mor bwysig.

Nawr, ceisiwch restru'r holl dimau y mae Marie yn rhan ohonynt, a nodwch beth yw ei rôl ym mhob tîm.

  • Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i Marie ynghylch gweithio ym mhob tîm?
  • Ydych chi wedi gweithio fel rhan o dîm? A oedd yn dîm llwyddiannus? Os felly, beth oedd yn gwneud iddo weithio'n dda?
  • Os nad oedd yn llwyddiannus, allwch chi feddwl pam nad oedd yn gweithio'n dda?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae hwn yn weithgaredd defnyddiol er mwyn adolygu eich dealltwriaeth o'r syniadau yn yr adran hon am sgiliau rhyngweithiol.

Mae Marie yn rhan o dri thîm: yr asiantaeth, Leonard Cheshire a'i theulu.

Yn nhîm yr asiantaeth, mae Marie yn rhan o rwydwaith cymorth ar gyfer gwasanaethau eraill.

Yn nhîm Leonard Cheshire, rhaid i Marie fod yn hyblyg, gan gyflawni pa bynnag rôl y bydd gofyn iddi ei chyflawni, ond nid yw'n perthyn i'r tîm ehangach, am nad ydynt yn ystyried ei bod yn un ohonynt.

Yn nhîm ei theulu, Marie sydd â'r rôl o arwain y tîm, ac mae'n dyrannu tasgau i aelodau eraill o'r tîm (a'i phlant) ac yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni.

Cyngor am weithio ym mhob tîm

Gallai Marie ddatblygu dealltwriaeth well o dîm yr asiantaeth y mae rhan ohono, a sut mae hynny'n helpu'r timau eraill, fel Leonard Cheshire.

Neu, gallai ddechrau meithrin dealltwriaeth well o'r perthnasau yn y grŵp lle mae'n treulio llawer o'i hamser (tîm Leonard Cheshire) a'i lle yn hyn o beth.

Gallai Marie hefyd edrych ar y newidiadau yn y rolau o fewn ei theulu nawr ei bod yn gweithio oriau hwyr, a ph'un a yw ei phlant yn teimlo eu bod yn rhan o dîm. .

Wrth i chi fyfyrio ynghylch bod yn rhan o dîm, mae'n debygol eich bod wedi nodi cyfathrebu da fel y rheswm pam y mae eich tîm yn gweithio'n dda. Mae'n debygol eich bod wedi cael cyfarwyddiadau clir a bod pawb yn deall beth yr oedd angen iddynt ei wneud. Neu efallai bod cyfathrebu gwael wedi golygu nad oedd pobl wir yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonynt, neu eu bod wedi camddeall cyfarwyddiadau nad oeddent yn glir. Efallai eich bod wedi ystyried p'un ai chi a arweiniodd y gweithgaredd neu p'un a oeddech yn hapus i chwarae rôl gefnogi. Efallai nad oeddech o'r farn bod eich rhan chi yn bwysig, ond wrth edrych yn ôl ar y gweithgaredd, efallai eich bod yn gweld nawr bod gan bawb ran i'w chwarae mewn tîm.