Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Ydych chi'n gwrando neu'n aros i siarad?

Mae gwrando yn rhan allweddol o'r broses gyfathrebu ac er mwyn gwneud hyn yn dda, mae angen i chi edrych yn ogystal â gwrando. Ydych chi'n cofio pan wnaethom ni siarad am gyfathrebu gweledol yn yr adran gyntaf?

Fel arfer, gallwn brosesu gwybodaeth yn gyflymach na'i drosglwyddo yn ymateb ar lafar, felly mae perygl y bydd ein meddwl yn dechrau crwydro. Mae a wnelo gwrando gweithredol â mynd ati i ganolbwyntio at ddiben penodol ac mae'n rhan hanfodol o weithgareddau fel cwnsela neu fynd i gyfarfodydd ac adolygiadau am y bobl rydych yn eu helpu. Er mwyn gwrando'n weithredol, mae angen i chi nodi a chadarnhau meddyliau llafar y person arall, yn ogystal ag ystyried ei negeseuon dilafar.

  • Am ba hyd y byddwch chi'n gwrando ar y person arall cyn torri ar draws?
  • Pa mor gyflym mae eich meddyliau eich hun yn cymryd drosodd a'ch bod yn dechrau meddwl am ba gwestiwn i'w ofyn neu sut i ateb hyd yn oed cyn i'r person arall orffen siarad?
  • Ydych chi'n torri ar draws y person er mwyn rhoi eich barn eich hun neu er mwyn gorffen ei frawddegau cyn iddo orffen?