Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Y model biomeddygol

Y ffordd fwyaf cyffredin o ddeall problemau iechyd meddwl yw drwy eu hystyried yn salwch yn yr un modd ag y caiff problemau iechyd eraill, fel clefyd cardiofasgwlaidd neu ddiabetes, eu hystyried yn salwch. Mae llunwyr polisïau yn ein hannog i wneud hyn. Yn sail i'r model biomeddygol mae'r gred bod gan salwch meddwl achos y gellir ei drin ac, mewn sawl achos, y gellir gwella'r claf.

Mae gan y model biomeddygol ei fanteision:

  • Mae'n cynnig esboniadau o salwch meddwl sy'n rhoi tawelwch meddwl i lawer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl oherwydd y gall fod yn gam cyntaf tuag at adferiad.
  • Gall cael diagnosis ac enwi cyflyrau helpu i roi tawelwch meddwl i bobl bod yr hyn maent yn ei brofi yn 'real' ac yn cael ei rhannu gan eraill.
  • Mae'n lleddfu symptomau fel rhithweledigaethau, curiad calon cyflym neu boeni parhaus fel bod yr unigolyn yn dechrau teimlo'n well.
  • Mae'n sicrhau mynediad i gymorth a all helpu i leddfu rhai o'r pethau sy'n poeni'r unigolyn, fel methu â mynd i siopa.

Fodd bynnag, mae'r model biomeddygol yn seiliedig ar y dybiaeth ganlynol:

  • bod achos y salwch meddwl yn bodoli o fewn yr unigolyn felly mae ffocws y driniaeth ar symptomau corfforol
  • ceir ffocws ar beth sy'n normal fel bod safbwyntiau meddygol yn penderfynu beth nad yw'n normal.

Mae gan y model biomeddygol ddiffygion y gallai model cyfannol ei egluro.

Mae model cyfannol o iechyd meddwl yn ystyried elfennau ysbrydol, seicolegol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol ein bywydau. Hynny yw, mae'n ystyried ein person a phopeth am ein bywyd yn gyffredinol.