Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Adferiad

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 y ffordd i adferiad

Mae'r cysyniad o adferiad yn cydnabod bod yr unigolyn sydd â phroblemau iechyd meddwl am gael bywyd ystyrlon a boddhaus, a'r unigolyn ei hun sy'n diffinio beth yw ystyr ystyrlon a boddhaus. Gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, gofalwyr a chyd ddefnyddwyr gwasanaethau, mae'r unigolyn yn symud ymlaen i gyflawni ei nodau.

Yn ei daflen ffeithiau ar adferiad, mae Rethink [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , elusen iechyd meddwl fawr a sefydliad ymgyrchu, yn disgrifio bod adferiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • gweithio tuag at eich nodau
  • cael gobaith ar gyfer y dyfodol
  • rhywbeth rydych yn ei gyflawni drosoch eich hun
  • mae'n broses barhaus
  • cymryd cyfrifoldeb dros fywyd rhywun.
(Ffynhonnell: addaswyd o Rethink, 2014)

Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar beth sy'n realistig i bob unigolyn.