Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Gofal lliniarol

Triniaeth yw gofal lliniarol sy'n lleddfu ond nad yw'n gwella clefyd neu salwch. Ni ddylai gofal lliniarol gyflymu marwolaeth y person na'i hoedi. Mae'n canolbwyntio ar les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y person sy'n marw, a'r rhai sy'n agos ato. Yn aml, fe'i defnyddir i olygu gofal diwedd oes ond, fel y byddwch yn dysgu yn ddiweddarach, mae gofal diwedd oes yn rhan o ofal lliniarol ac felly nid yw yr un fath â gofal lliniarol.

Gweithgaredd 1

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud

Treuliwch rai munudau yn meddwl am beth yw ystyr 'gofal lliniarol' yn eich barn chi. Efallai y bydd yn haws i chi fyfyrio ar brofiad rhywun rydych yn ei adnabod a fu farw'n ddiweddar neu rywun sy'n cael gofal lliniarol ar hyn o bryd. Os nad oes gennych brofiad o ofal lliniarol ar gyfer rhywun rydych yn ei adnabod, ystyriwch beth ddylai fod yn eich barn chi.

Rhannwch eich meddyliau yn bedwar maen prawf:

  1. Corfforol: sut yr effeithir ar ei gorff?
  2. Seicolegol: beth mae'n meddwl amdano a sut mae hyn yn effeithio ar ei emosiynau?
  3. Cymdeithasol: a oes ganddo fywyd cymdeithasol neu a yw'n cwrdd â ffrindiau a theulu?
  4. Ysbrydol: a yw am drafod ystyr bywyd neu unrhyw ffydd y gall fod yn perthyn iddi?

Defnyddiwch y blwch isod i gofnodi eich meddyliau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Rydych yn gwybod o baragraff cyntaf y pwnc hwn bod gofal lliniarol yn cynnwys lles corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y person sy'n marw, a'r rhai sy'n agos ato.

Gallai'r agweddau corfforol ar ofal lliniarol gynnwys unrhyw feddyginiaeth a dulliau o leddfu poen a ragnodir i'r person, a newidiadau i'r corff oherwydd oedran, salwch neu anweithgarwch. Byddai'r gofal lliniarol yn canolbwyntio ar gysur corfforol y person: mae bod gartref neu mewn ysbyty yn ystyriaeth allweddol, ac mae rheoli poen a hylendid yn bwysig i urddas person.

Mae agweddau seicolegol yn cwmpasu effeithiau gwybyddol (meddwl) ac emosiynol sy'n bwysig yn ystod gofal lliniarol. Efallai y bydd y person yn ofni'r broses o farw, yn ofni beth i'w ddisgwyl ar ôl iddo farw, yn poeni sut y bydd ei gymar neu ei deulu yn ymdopi neu efallai bod ganddo ddadleuon hirsefydlog y mae am eu datrys. Byddai gofal lliniarol yn canolbwyntio ar gyfathrebu, yn enwedig sgyrsiau anodd (ceir rhagor o wybodaeth am sgyrsiau anodd yn Adran 1, Cyfathrebu da [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ); cael gwybodaeth a gwrando'n astud ar yr hyn mae'r person am ei gael mewn perthynas â threfniadau angladd, er enghraifft, neu unrhyw gymynroddion.

Mae'r agweddau cymdeithasol ar ofal lliniarol yn cynnwys cael gwybod pa bobl yr hoffai'r person sy'n derbyn gofal eu gweld neu a oes rhai pethau yr hoffai'r person ei wneud. Gallai dull gofal lliniarol sicrhau bod anwyliaid y person sy'n derbyn gofal yn cael eu hysbysu.

Yn aml, bydd ysbrydolrwydd yn gudd yn ein diwylliant ond nid yw'n golygu nad yw'n bodoli. Dylid rhoi'r cyfle i'r person sy'n derbyn gofal fynegi ei ysbrydolrwydd, p'un a yw hynny drwy grefydd sefydledig neu drwy ran llai ffurfiol, ond pwysig, o gredoau'r person sy'n derbyn gofal.

Mae'n bwysig cofio nad yw gofal lliniarol wedi'i gyfyngu i bobl sydd â chanser, fel y credir yn aml. Gallai fod yn ddull a ddefnyddir ar gyfer pobl o bob oed ac sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, o glefyd anadlol i ddementia.

Un o'r amcanion allweddol yw gwella ansawdd bywyd y person sy'n marw a'r sawl sy'n agos ato. Nawr, byddwch yn ystyried sut y gellir sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl iddo.