Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Gofal lliniarol i blant

Mae materion penodol os yw plant yng nghanol dull gofal lliniarol. Efallai bod gan y plant gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd lle nad oes gobaith rhesymol o iachâd ac a fydd yn arwain at farwolaeth. Neu, efallai bod gan y plentyn gyflwr sy'n bygwth bywyd lle gall triniaeth i geisio iachâd fod yn ymarferol ond y gall fethu, fel wrth roi llawdriniaeth ar diwmor.

Bydd gofalu am unrhyw blentyn sydd â chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd neu sy'n bygwth bywyd, ac y disgwylir iddynt farw, yn effeithio ar y teulu cyfan, o'i rieni, brodyr a chwiorydd, i aelodau ehangach o'r teulu. Efallai y bydd rhieni yn ei chael hi'n anodd derbyn y bydd eu plentyn yn marw ac efallai na fydd brodyr neu chwiorydd iau yn deall enbydrwydd yr hyn sy'n digwydd.

Yn ogystal â'r anghenion emosiynol llethol, mae angen i lawer o rieni gael help gyda chymorth ymarferol, y gallant fod heb gael amser i'w ystyried. Efallai y bydd angen cyfarpar arbennig yn y tŷ neu'r ysgol a all ymdopi ag anghenion penodol y plentyn. Dylai'r pwyslais fod ar ganfod beth y gall y plentyn ei wneud, ac nid ar beth na all ei wneud.

Fel gydag oedolion, mae gofal lliniarol ar gyfer plentyn hefyd yn cwmpasu gofal diwedd oes. Yn y rhan nesaf, byddwch yn astudio gofal diwedd oes fel rhan o ddull gofal lliniarol.