Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Agosáu at farwolaeth

Un o nodau gofal diwedd oes yw bod y person yn cael marwolaeth dda. Os yn bosibl, y person sy'n marw fydd yn penderfynu beth yw ystyr marwolaeth dda. Nawr, byddwch yn dilyn yr astudiaeth achos am Frank a Grace. Rhannwyd yr astudiaeth achos hon yn weithgareddau ar wahân fel y gallwch eu dilyn wrth baratoi ar gyfer marwolaeth Frank. Yn y rhan gyntaf byddwch yn dysgu mwy am sgyrsiau anodd.

Gweithgaredd 5

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Rhan 1

Darllenwch ddyfyniad a addaswyd o Finding the Words o'r Rhaglen Gofal Diwedd Oes Genedlaethol (yr Adran Iechyd, 2011). Mae'n ymwneud â'r pryderon y gallai pobl a gofalwyr eu cael ar ddiwedd oes.

Pryderon allweddol y gallai pobl a gofalwyr eu cael ar ddiwedd oes

  • Cydberthnasau

Oes rhywun fy angen fel partner/rhiant/mab/merch neu ffrind o hyd?

  • Dirfodol/ysbrydol

Pam fi?

Pam nawr?

Beth ydw i wedi'i wneud i haeddu hyn?

  • Corfforol/symptomau

A fyddaf mewn poen neu a fyddaf yn cael unrhyw symptomau corfforol eraill fel anymataliaeth, colli pwysau?

A fyddaf yn colli rheolaeth ar weithredoedd fy nghorff?

  • Seicolegol

A fydd yn newid sut y bydd pobl yn fy ngweld?

A fyddaf yn cael fy allgau/osgoi?

A ddylwn i ddweud wrth bobl? Sut?

A fyddaf yn colli rheolaeth ar fy meddwl?

Ydw i wir yn credu fy mod yn mynd i farw?

  • Triniaeth

A fydd yn achosi unrhyw sgil-effeithiau annymunol?

A fydd yn ymestyn fy mywyd?

A fyddaf yn gallu ymdopi?

  • Ymarferol

Pa drefniadau ariannol sydd eu hangen arnaf?

Pwy fydd yn gofalu am y plant/anifeiliaid anwes/rhieni/perthnasau?

  • Cymdeithasol/cymorth

Pwy fydd yn gofalu amdanaf?

Pa help ychwanegol sydd ar gael?

  • Marw

Faint o amser?

Pa mor sâl fydda i?

Sut brofiad fydd hyn?

(Ffynhonnell: Yr Adran Iechyd, 2011)

Rhan 2

Nawr, darllenwch yr astudiaeth achos am Frank a Grace ac atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Astudiaeth achos: Frank a Grace Taylor

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Frank a Grace yn cofleidio

Mae Frank (64) a Grace Taylor (62) yn agos iawn. Maent wedi bod yn briod am dros ddeugain mlynedd. Mae Frank yn beiriannydd sifil sydd wedi ymddeol ac mae wedi bod yn cael gofal lliniarol ar gyfer canser y coluddyn ers dros flwyddyn. Mae bellach yn cael gofal diwedd oes. Mae ganddo diwmorau eilaidd drwy ei gorff. Prin iawn yw'r cofnod o'i gyflwr iechyd cyn ei ddiagnosis gan mai anaml y byddai'n ymweld â'i feddyg teulu. Roedd yn hoffi prydau oedd yn cynnwys cig yn bennaf ac yn yfed gwirodau yn gymedrol ar y penwythnos. Mae Grace wedi cael triniaeth ar gyfer iselder yn ddiweddar.

Dros y mis diwethaf, mae Frank wedi gwanhau’n raddol. Mae Grace yn benderfynol o gymryd rhan lawn yn ei ofal. Cafwyd cryn drafod manwl am ei farwolaeth agos. Mae'r amser i gael 'sgwrs anodd' wedi cyrraedd er mwyn holi Frank a Grace beth sy'n bwysig iddynt tuag at ddiwedd ei oes.

Lluniwyd cynllun gofal manwl i Frank gyda'r nod o'i gadw gartref yn unol â'i ddymuniadau ef a Grace. Cafodd help gyda gofal personol gan ofalwyr o asiantaeth leol, a byddai nyrs gymunedol/cartref yn ymweld bob dydd i ofalu am elfennau mwy technegol ei ofal yn cynnwys rheoli ei feddyginiaethau.

  1. Pa fathau o bethau fyddech chi am eu trafod gyda rhywun sy'n wynebu diwedd ei oes?
  2. Sut fyddech chi'n codi'r materion hyn gyda Frank a Grace?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae rhai cwestiynau sy'n briodol ar gyfer y person y mae ei fywyd yn dod i ben a dylid gofyn cwestiynau eraill i'w deulu neu ffrindiau. Drwy ofyn cwestiynau i bobl eraill, gallech gael gwybodaeth a fyddai'n eich galluogi i roi gofal o ansawdd da sy'n canolbwyntio ar y person; hynny yw, gofal sydd o ansawdd da ym marn y person sy'n agosáu at farwolaeth. Weithiau, gall fod yn anodd i bobl neu eu perthnasau ddweud wrthych beth sy'n bwysig iddynt. Mae'n hanfodol eich bod yn sensitif, yn ddiffuant ac yn dosturiol ar adegau o'r fath.