Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cynlluniau gofal uwch

Trafodaeth strwythuredig yw cynllun gofal manwl gyda chleifion a'u teuluoedd neu ofalwyr am eu dymuniadau a'u meddyliau ar gyfer y dyfodol. Mae'n galluogi'r canlynol:

  • cynllunio a darparu gofal gwell er mwyn eu helpu i fyw a marw yn y lleoliad a'r dull o'u dewis
  • egluro dymuniadau, anghenion a dewisiadau pobl
  • darparu gofal i gyflawni'r dymuniadau, yr anghenion a'r dewisiadau hynny
  • sgyrsiau pwysig ond syml a all newid arfer a grymuso cleifion
  • cyfathrebu manwl rhwng cleifion a'u teuluoedd a'u hanwyliaid.
(Ffynhonnell: addaswyd o ddogfen Gold Standards Framework Centre, 2015)

Mae galluogi cynllunio gofal manwl yn un ymyrraeth y gallwch ei gwneud gyda Frank a Grace. Fodd bynnag, ni ellir cynllunio ar gyfer pob sefyllfa sy'n codi. Un enghraifft yw briwiau pwyso neu ddolurion. Weithiau, mae'n anodd osgoi datblygiad briwiau pwyso yn ystod gofal diwedd oes oherwydd newidiadau i'r croen sy'n cyd-fynd â heneiddio, methiant y system gylchredol a datblygiad clefydau. Er hyn, mae mesurau y gellir eu cymryd i warchod a thrin ardaloedd sy'n arbennig o agored i ddoluriadau. Mae hyn yn wir gyda Frank.