Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Arwyddion bod marwolaeth gerllaw

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn parhau i ddilyn Frank a Grace yn ystod diwrnodau olaf Frank. Mae gan wefan y Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol dudalen ar Arwyddion bod marwolaeth gerllaw [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Drwy allu adnabod yr arwyddion hyn, gellir helpu perthnasau ac anwyliaid i baratoi am yr hyn sydd i ddod ac i ffarwelio.

Gweithgaredd 6

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Rhan 1

Darllenwch restr y Cyngor Gofal Lliniarol Cenedlaethol o arwyddion bod rhywun yn agosáu at farwolaeth.

Wrth i farwolaeth agosáu, efallai y byddwch yn gweld rhai o'r newidiadau canlynol, neu fod un ohonynt:

  • Newidiadau corfforol

    Gyda phobl hŷn, gall y croen fynd yn denau ac yn welw, gyda smotiau iau/afu yn ymddangos ar y dwylo, y traed a'r wyneb. Gall y gwallt hefyd deneuo ac efallai y bydd y person yn lleihau o ran corffolaeth. Efallai y bydd y dannedd yn newid lliw neu'n datblygu staeniau tywyll.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Gall dwylo ddangos newidiadau corfforol wrth i bobl heneiddio
  • Byd llai

Bydd byd allanol y person yn dechrau lleihau tan na fydd y person sy'n marw am adael y tŷ neu ei wely mwyach ac efallai na fydd am siarad llawer. Efallai y bydd ei hwyliau, ei gymeriad a'i ymddygiad yn newid. Er enghraifft, gall rhai pobl fynd yn fwy pryderus. Efallai y bydd eraill a fu'n anffyddwyr am archwilio dysgeideithiau crefyddol neu ysbrydol.

  • Cysgu mwy

Bydd y person yn dechrau cysgu am gyfnodau hir. Gall hyn fod yn ofidus i berthnasau, ond mae'n bwysig deall y gall hyd yn oed yr ymdrech gorfforol leiaf i rywun sy'n agosáu at farwolaeth fod yn flinedig iawn, ac am y tro caiff pob ymdrech ei rhoi i aros yn fyw. Yn agosach at y diwedd, efallai y bydd y person sy'n marw yn mynd i mewn ac allan o ymwybyddiaeth fwyfwy.

  • Llai o archwaeth bwyd

Bydd archwaeth bwyd yn lleihau gan fod y corff yn gwybod nad oes angen tanwydd arno mwyach i'w gadw i fynd felly, yn aml, bydd pobl sy'n marw yn colli eu harchwaeth i fwyta neu yfed. Gallant ddechrau colli pwysau, yn gyflym weithiau. Mae'n bwysig peidio â gorfodi bwyd na diod ar rywun nad yw am ei gael mwyach.

  • Mynegiant

Efallai y bydd newidiadau o ran mynegiant lle gall y person ddechrau siarad am 'adael', 'hedfan', 'mynd adref', 'cael ei gasglu', 'mynd ar wyliau' neu fynd ar ryw fath o daith. Efallai y bydd hefyd yn dechrau dangos gwerthfawrogiad twymgalon o'u gofalwyr a'u teulu fel ffordd o baratoi ar gyfer dweud ffarwel.

  • Gofynion arbennig

Efallai y bydd gan y person ofynion arbennig, fel gofyn am rywbeth arbennig, bod am ymweld â lle penodol, neu fod am gael ei amgylchynu â'i hoff flodau. Efallai y bydd am glywed cerddoriaeth benodol, cael lluniau o'r teulu gerllaw neu gysylltu â rhywun a fu'n bwysig yn ei fywyd. Gall fod yn anodd cyflawni rhai ceisiadau arbennig, yn enwedig os ydynt yn anarferol neu'n anghyfreithlon fel dull dewisol o waredu'r corff. Byddai'n ddefnyddiol trafod ceisiadau anarferol neu anghyfreithlon â gweithiwr proffesiynol a allai egluro beth y gellir ei wneud, a pha opsiynau amgen y gellid eu hystyried.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 Efallai y bydd y rhai sy'n derbyn gofal yn gofyn am gael gweld lluniau o'r teulu

Rhan 2

Darllenwch am ddiwrnodau olaf Frank cyn ateb y cwestiynau sy'n dilyn.

Astudiaeth achos: Frank a Grace

Bellach, mae'n well gan Frank aros yn ei wely y rhan fwyaf o'r amser lle mae fwyaf cyfforddus. Mae gofalwyr yn ymweld ag ef deirgwaith y dydd i roi gofal personol iddo. Mae hyn yn cynnwys ei symud er mwyn osgoi difrodi meinweoedd mewn mannau pwyso. Rhoddwyd blaenoriaeth i'w gysur corfforol. Ar un adeg, credwyd ei fod yn dargadw wrin ond ers hynny mae wedi gwlychu ei wely sawl gwaith. Roedd hefyd yn ymddangos fel pe bai mewn poen ac roedd yn griddfan yn ei gwsg wrth geisio symud.

Gan ei bod yn amlwg bod Frank yn cael trafferth llyncu, roedd angen gyrrwr chwistrell arno er mwyn sicrhau bod y dull o leddfu poen gan ddefnyddio morffin yn effeithiol. Yn ystod archwiliad rheolaidd ar fannau sy'n agored i niwed, datgelwyd bod y croen ar waelod ei asgwrn cefn yn edrych yn goch ac yn sych iawn. Mae Grace yn teimlo'n euog am hyn gan ei bod bob amser yn gwylio ac yn monitro'r gofalwyr yn symud Frank yn ei wely.

Roedd Frank wedi bod yn y gwely am wyth diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Grace yn cadw llygad am unrhyw ddirywiad yn ei gyflwr. Cynyddwyd ei feddyginiaeth felly roedd yn gysglyd y rhan fwyaf o'r amser. Roedd yn mynd i mewn ac allan o ymwybyddiaeth. Pan oedd Frank yn effro am rai munudau, roedd yn ymddangos yn ddryslyd ac nid oedd Grace yn siŵr a oedd yn gwybod pwy oedd hi. Roedd yn mwmian ond roedd ei leferydd yn aneglur felly allai Grace ddim deall beth roedd yn ei ddweud.

Er hyn, roedd yn ymddangos fel petai'n edrych ar rywbeth. Sylwodd Grace fod y cyfnodau o fod yn anymwybodol yn cynyddu. Roedd Frank yn anadlu'n fas ac roedd ei frest yn swnio'n gaeth. Wrth afael yn ei law, sylwodd Grace ei fod yn oer. Erbyn adeg ei farwolaeth, roedd Frank wedi bod yn anymwybodol ers 24 awr. Nid oedd wedi cael unrhyw hylif na maeth yn y cyfnod hwn.

  • Sut y dangosodd Frank arwydddion fod ei farwolaeth gerllaw?

Ailddarllenwch yr arwyddion a'r astudiaeth achos os oes angen, a gwnewch nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gallai'r ffaith mai yn ei wely y mae Frank fwyaf cyfforddus fod yn arwydd ei fod yn agosáu at farwolaeth. Gall adnabod arwyddion o farwolaeth helpu i wneud ei ddiwrnodau a'i oriau olaf mor gyfforddus â phosibl.

Caiff llawer o'r eitemau yn 'Arwyddion bod marwolaeth gerllaw' eu hadlewyrchu ym mhrofiad Frank a Grace. Byddech wedi bod yn ymwybodol o rai o'r newidiadau corfforol: croen Frank, er enghraifft, a'r ffaith bod ei fyd yn lleihau.

Roedd Frank yn cysgu mwy ond gallai hyn fod wedi bod cymaint i wneud â'i feddyginiaeth ag â'i farwolaeth agos. Mae'n debygol bod ganddo lai o archwaeth bwyd. Gan ei fod yn gysglyd, gallai ei fwydo fod wedi golygu ymyriadau corfforol pellach a fyddai'n ei wneud yn llai cyfforddus.

Nid oedd yn ymddangos bod gan Frank unrhyw geisiadau arbennig ar gyfer ei funudau olaf, er na allwn fod yn siŵr. Roedd yn ymddangos fel petai am ddweud rhywbeth. Gallai'r newid yn ei edrychiad, a'r ffaith ei fod yn chwilio am rywbeth, awgrymu dyhead i wneud cais arbennig.