Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi rhai egwyddorion neu ganllawiau y dylid eu defnyddio i asesu galluedd. Mae'n nodi sut y dylid rheoli galluedd person sy'n derbyn gofal.

Crynhoir yr egwyddorion hyn isod.

  • Rhaid tybio galluedd, oni nodir nad oes gan berson alluedd (h.y. y peth cyntaf y dylid ei wneud yw tybio y gall rhywun wneud penderfyniadau).
  • Ni ddylid trin person fel rhywun na all wneud penderfyniad oni fydd pob cam ymarferol i'w helpu i wneud hynny wedi'u cymryd heb lwyddiant.
  • Ni ddylid trin person fel na all wneud penderfyniad dim ond am ei fod yn gwneud penderfyniad annoeth.
  • Dylai unrhyw benderfyniadau a wneir neu gamau gweithredu a gyflawnir sy'n gysylltiedig â galluedd fod er budd gorau'r person sy'n derbyn gofal.
  • Dylid gwneud unrhyw benderfyniadau neu gyflawni unrhyw gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â galluedd mewn ffordd sy'n cyfyngu cyn lleied â phosibl ar hawliau a rhyddid person i weithredu. (Byddwch yn dysgu mwy am arfer lleiaf cyfyngol yn ddiweddarach yn yr adran hon.)

Gweithgaredd 2

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Er mwyn eich helpu i ddeall sut y caiff yr egwyddorion hyn eu cymhwyso, darllenwch yr astudiaeth achos gryno isod. Pam y byddech yn dod i'r casgliad bod gan y person sy'n ganolog i'r astudiaeth achos, Desmond, alluedd neu nad oes ganddo alluedd?

Astudiaeth achos: Desmond

Tra'r oedd allan yn siopa, casglodd Desmond ei bensiwn a rhoddodd ei hanner i werthwr Big Issue. Yna, daeth o hyd i het liwgar a gwisgodd hi i fynd i'r archfarchnad lle prynodd fwyd wedi'i brosesu a mwynhaodd goffi cryf gyda phedwar siwgr.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, dywedodd cymydog wrth ferch Desmond na ddylid gadael iddo fynd allan ar ei ben ei hun gan ei fod wedi gwneud ffŵl ohono'i hun a'i bod yn amlwg na allai ofalu amdano'i hun yn iawn.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'n ymddangos i'r cymydog a sylwodd ar ymddygiad Desmond yn gynharach y diwrnod hwnnw dybio na allai ofalu amdano'i hun fel y dylai. Gallech ddadlau ynghylch pa mor ddoeth oedd penderfyniadau Desmond, ond nid yw hyn o reidrwydd yn dangos nad oes ganddo'r galluedd i wneud penderfyniadau. Ar y cam hwn, nid oedd unrhyw ymgais wedi'i gwneud i weld a allai Desmond ddeall unrhyw bryderon am ei ymddygiad, cadw gwybodaeth am unrhyw bryderon, meddwl pam roedd ei gymydog yn bryderus na chyfathrebu ei farn ei hun ar beth roedd yn ei wneud.

Ni fyddai cyfyngu ar deithiau Desmond i'r dref o reidrwydd yn gweithredu er budd gorau iddo gan y byddai'n ei amddifadu o'r cyfle i weithredu'n annibynnol ac yn ei atal rhag gwneud yn ôl ei ddymuniad. Pe byddai ei ferch ac eraill yn parhau i gael pryderon am ymddygiad Desmond, gallent ofyn am asesiad o'i alluedd.

Byddwch yn dysgu mwy am asesu galluedd yn y gweithgaredd nesaf.

Gweithgaredd 3

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud

Darllenwch yr astudiaeth achos ac atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Senario

Dychmygwch fod Kevin, eich ffrind, yn galw heibio i ofyn i chi ei helpu i fynd â'i wraig, Caroline, i'r ysbyty ar gyfer apwyntiad mewn clinig cof. Mae'n dweud bod Caroline bellach yn gwrthod mynd i'r ysbyty ac mae Kevin yn meddwl y byddai'n fwy tebygol o fynd petaech chi'n mynd gyda hi. Pan fyddwch yn cwrdd â Caroline yn eu tŷ, rydych yn gweld bod Kevin eisoes wedi tynnu'r car allan o'r garej. Mae'n adrodd sut y gwnaeth helpu Caroline i ymolchi, a dewis dillad priodol a gwisgo amdani, gan nodi ei fod wedi ei hatgoffa am yr apwyntiad yn y clinig cof tra'n gwneud pob un o'r rhain.

Mae Kevin yn atgoffa Caroline eto wrth iddo ei helpu i wisgo ei hesgidiau a chôt. Rydych yn nodi sut mae'n ei hatgoffa'n dyner ynghylch mynd i'r ysbyty a faint o amser y bydd yn ei gymryd. Rydych yn awgrymu y gallent fynd am goffi wedyn.

1. Ym mha ffyrdd rydych chi'n credu y gellid effeithio ar alluedd Caroline?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gan fod yr apwyntiad mewn clinig cof, mae'n debygol bod Caroline yn cael problemau â'i chof. Os bydd yn cael anhawster â'i chof byrdymor, efallai na all gadw gwybodaeth am yr apwyntiad ysbyty. Mae'n debyg bod gallu Caroline i ddeall bod ganddi'r apwyntiad ysbyty a pham y mae wedi'i drefnu wedi'i atal, a gall wrthwynebu mynd i'r clinig yn yr ysbyty.

2. Pa gymorth y gallech ei gynnig i Kevin?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gallech nodi sut mae Kevin yn amyneddgar yn cymryd camau ymarferol i helpu Caroline i ddeall a mynd i'r apwyntiad. Er enghraifft, mae Kevin yn ailadrodd y wybodaeth am yr apwyntiad ysbyty sawl gwaith. Efallai y gallech ailadrodd y wybodaeth y mae Kevin eisoes wedi'i rhoi i Caroline a gafael yn ei llaw, tra bydd Kevin yn paratoi i fynd i mewn i'r car. Byddai geiriau o gysur, efallai, yn helpu i roi tawelwch meddwl i Caroline y byddai er budd gorau iddi fynd i'r apwyntiad.