Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Gofal neu gymorth – beth yw'r gwahaniaeth?

Mae gwahaniaeth cynnil ond pwysig iawn rhwng gofalu am rywun a'i helpu, a all olygu'r gwahaniaeth rhwng bod yn 'iawn' a byw i'w llawn botensial.

Gofalu am rywun

Er ein bod yn defnyddio'r term 'gofalu am rywun' drwy gydol y cwrs hwn, ac mai dyma'r term a ddefnyddir amlaf ar gyfer gofalu am rywun, mae'r gofal symlaf yn cynnwys helpu rhywun gyda'i anghenion o ddydd i ddydd. Un enghraifft o ofalu am rywun fyddai 'Hoffech chi gael cwpanaid o de?' a'r ateb fyddai 'Hoffwn'. Yna bydd y gofalwr yn gwneud cwpanaid o de a'i roi i'r unigolyn. Ar yr wyneb, mae hyn yn edrych fel gofal da ond pa ran sydd gan y person sy'n derbyn gofal yn y dasg hon?

Helpu rhywun

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Helpu person i fwydo ei hun

Os mai 'gofalu am rywun' yw'r gofyniad sylfaenol, mae 'helpu rhywun' yn mynd i'r lefel nesaf. Mae'n ymwneud â grymuso pobl i gymryd mwy o reolaeth dros y pethau lleiaf yn eu bywydau neu hyd yn oed ran fach o rywbeth bach; pethau y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Yn y bôn, mae'n golygu gweld pob 'angen gofal' fel cyfle i helpu'r person rydych yn gofalu amdano i wneud dewisiadau, datblygu sgiliau a chymryd mwy o ran wrth greu ei ganlyniadau ei hun. Byddai hyn yn broses raddol, gan helpu'r person i arwain bywyd mwy boddhaus, gam wrth gam.

Beth am fynd yn ôl i'n henghraifft o'r cwpanaid o de? Rydych wedi gofyn 'Hoffech chi gael cwpanaid o de?' a'r ateb oedd 'Hoffwn'. Y cam ychwanegol yw helpu'r unigolyn i gyflawni cynifer â phosibl o'r camau o wneud y te drosto'i hun. Efallai mai dim ond rhoi'r bag te yn y cwpan y bydd yn gallu ei wneud ond mae'n ddechrau. Efallai y gallai hefyd droi'r tegell ymlaen ac estyn y llaeth o'r oergell. Bydd yn cymryd mwy o amser ond bydd yn fwy gwerth chweil i'r unigolyn na dim ond cael cwpanaid o de. Mae'n wir y gall gwneud cwpanaid o de fod yn beth caredig i'w wneud ond nid os na fydd y person byth yn cael y cyfle i wneud un i chi.

Pam y mae'n bwysig gwahaniaethu

Heb roi help i'r bobl rydym yn gofalu amdanynt i gael eu grymuso, ni chânt lawer o gyfle i ddatblygu'n barhaus ym mhob agwedd ar eu bywyd. Drwy eu helpu hyd yn oed yn y tasgau lleiaf, maent yn gwneud cynnydd bob dydd – gallai olygu dau gam ymlaen, un cam yn ôl, neu efallai y bydd ond yn digwydd dros gyfnod hir o amser, ond y peth pwysig yw ei fod yn gwneud cynnydd.

O ran darparu gofal, mae'n bwysig oherwydd mai dyma'r llwybr 'anoddaf' i staff a gofalwyr ei ddilyn. Mae'n golygu mwy o amynedd, mwy o feddwl, mwy o gyfranogiad a mwy o amser. Ond mae cymryd mwy o ran yn natblygiad rhywun yn cynnwys gofalwyr yn fwy, ac mae'n werth chweil gweld y person rydych yn gofalu amdano yn cyflawni rhywbeth newydd neu'n gallu gwneud rhywbeth yr arferai allu ei wneud pan oedd angen llai o ofal arno. Mae'n golygu canlyniadau gwell i staff a gofalwyr a'r bobl maent yn eu helpu.

Fel gofalwyr, rydym yn tueddu i wneud pethau ar gyfer y bobl rydym yn eu helpu am ein bod yn tanbrisio eu galluoedd neu am ei fod yn gyflymach. Ond ydych chi am wneud bywyd yn rhy hawdd i'r bobl rydych yn eu helpu, gyda gormod o opsiynau dianc? Pam y byddent yn gwneud yr ymdrech os byddwch chi'n gwneud popeth?

Gall y dull gweithredu hwn olygu y byddwch yn dweud wrth y bobl rydych yn eu helpu beth ddylai ddigwydd yn hytrach na rhoi'r dewis iddynt. Onid fel hyn y byddwn yn trin ein plant nes iddynt ddechrau creu a byw eu bywydau eu hunain? A gall y sawl na allant gyfathrebu yn yr un ffordd gael eu dal ac yn aml byddant yn dod o hyd i ffordd arall o wrthryfela yn eu dyhead am unigoliaeth. Gall hyn fynegi ei hun mewn ymddygiad heriol neu wrthgymdeithasol.

Gweithgaredd 5

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Darllenwch yr astudiaeth achos isod a rhowch eich hun yn esgidiau Betty. Nawr atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Astudiaeth achos: Betty

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Betty

Gwraig weddw yn ei 70au yw Betty a fu'n byw'n annibynnol nes iddi gael strôc yn ddiweddar. Mae ei lleferydd a'i sgiliau gwybyddol wedi gwella'n dda ond mae wedi colli'r defnydd o'i braich dde ac mae'n sigledig ar ei thraed. Mae gan Betty deulu ond nid ydynt yn byw gerllaw ac mae'n cael help drwy wasanaeth gofal yn y cartref preifat.

Mae Betty'n mynd yn rhwystredig pan na all wneud popeth yr arferai allu eu gwneud, ac nid yw'n meddwl bod gan y gofalwr amser i wrando arni a chanfod beth sydd ei angen arni: 'Mae'n mynd ymlaen â'i gwaith ac yn symud ymlaen at y cwsmer nesaf’.

  • Sut fyddech chi'n teimlo yn esgidiau Betty?
  • Sut gallai'r gofalwr alluogi Betty i fod yn fwy annibynnol a gwneud y pethau mae am eu cael mewn bywyd?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae Betty eisoes wedi dweud nad yw'n meddwl bod gan y gofalwr amser i wrando arni felly efallai ei bod yn meddwl ei bod yn creu trafferth. Ond gall teimladau eraill gynnwys rhwystredigaeth o orfod bod yn ddibynnol ar bobl eraill – efallai ei bod yn ddig bod hyn wedi digwydd iddi. Mae Betty wedi bod yn annibynnol erioed, felly efallai ei bod yn ddig gyda hi ei hun am na all wneud popeth yr arferai ei wneud.

Gallai'r gofalwr gymryd amser i gael gwybod am deimladau Betty a'r ffordd y byddai'n hoffi cael help. Gallent weithio ar gynllun gofal fel y byddai unrhyw un sy'n helpu Betty yn gwybod sut y byddai'n hoffi cael ei thrin, a beth sy'n bwysig iddi hi ac ar ei chyfer hi er mwyn sicrhau ei bod yn cael diwrnod da.

Drwy adael i Betty wneud y rhannau o'r tasgau y gall ymdopi â nhw ei hun, byddai'n teimlo'n fwy annibynol ac yn llai dibynnol ar eraill.