Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut mae'r dechnoleg gynorthwyo yn gweithio?

Cyhyd â bod gan ddarn o gyfarpar signal uwchgoch neu signal radio mewn amgylchedd byw'n annibynnol, gall rhywun ag anabledd ddefnyddio'r ddyfais. Gellir defnyddio plwg wedi'i addasu i drosi dyfeisiau a reolir yn syml fel lampau bwrdd, a gaiff eu rheoli gan signal uwchgoch.

Yn achos drysau, ffenestri, llenni, bleinds a ffitiadau goleuadau, y ffordd orau o ymgorffori'r dechnoleg yw yn ystod y broses o adeiladu eiddo.

Gellir ffitio dyfeisiau yn ôl-weithredol, ac er ei bod yn bosibl nad yw'r gwaith gwifro ychwanegol ar y waliau yn ddeniadol iawn, mae'n well cael technoleg na pheidio â'i gael.

Noder: Ni chaiff technoleg amgylcheddol sy'n effeithio ar yr adeilad ei hariannu gan ddarparwyr technoleg gynorthwyol y GIG. Fodd bynnag, yn achos unedau byw â chymorth, yn dibynnu ar y lleoliad, gall y Gwasanaethau Cymdeithasol asesu'r amgylchedd byw a gwneud addasiadau i ddiwallu anghenion y claf.

Gellir cael mynediad i gyfarpar drwy ddyfais reoli yn yr un ffordd ag y byddai person abl ei gorff yn troi'r teledu ymlaen gyda dyfais rheoli o bell. Bydd pa fynediad sydd hawsaf i'r unigolyn yn dibynnu ar y math o ddyfais rheoli a'r switsh a ragnodir. Pan fydd pobl yn dweud nad yw technoleg gynorthwyol yn gweithio iddyn nhw, hygyrchedd yw'r broblem fel arfer. Er enghraifft, bydd y drws neu'r ffenestr yn agor ac yn cau o bell ond nid yw'r dull o agor ar gyfer y person hwnnw wedi'i asesu'n gywir ac mae'n achosi problemau.

Mae llawer o ddyfeisiau rheoli a switshis ar y farchnad, a gall y dewis fod yn frawychus. Bydd angen i bobl sy'n dewis dyfeisiau cynorthwyol ystyried eu cyflwr a ph'un a ydynt yn debygol o ddirywio, er mwyn sicrhau mai'r ddyfais a ddewisir yw'r un fwyaf priodol ar eu cyfer.

Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich annog i ddechrau meddwl am fuddiannau technoleg gynorthwyol.

Gweithgaredd 6

Timing: Dylech neilltuo tua 5 munud

Darllenwch yr astudiaeth achos isod ac yna atebwch y cwestiwn sy'n dilyn.

Astudiaeth achos: Ray Grocott a'i beiriant Freeway

Mae Ray Grocott yn byw yn un o wasanaethau preswyl Leonard Cheshire Disability. Mae ffigur 5 yn dangos Ray a'i wraig Diane, a pheiriant Freeway Ray. Mae Ray yn defnyddio dyfais Freeway, sy'n ei alluogi, er enghraifft, i reoli goleuadau, lampau, teledu a radio, ac agor drysau a ffenestri sydd wedi'u cysylltu â'i Freeway. Gan na all afael yn y ddyfais, gall ddefnyddio switsh y gellir ei gweithredu drwy ba bynnag symudiad y gall yr unigolyn ei wneud; er enghraifft, symud y pen, gên, bys, troed ac ati.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 5 Ray a Diane, a'r Possum Freeway 2

Sylweddolodd Diane bŵer y dechnoleg pan oedd ar y ffôn gyda Ray un gyda'r nos. Dywedodd wrtho, 'Mae yna raglen wych ar BBC1’. Ond pan ddechreuodd ei hegluro i Ray, clywodd lais yn y cefndir, 'Ydych chi'n barod, Ray..., Lamp..., BBC1' a gwnaethant wylio'r rhaglen gyda'i gilydd.

Mae Diane yn teithio gryn dipyn ar gyfer ei gwaith ac yn gwrando ar lyfrau sain. Mae bellach yn rhannu ei llyfrau sain gyda Ray a all eu defnyddio pan fydd am wneud hynny. Mae hyn wedi rhoi pynciau sgwrs newydd iddynt.

Mae Ray yn mynd adref ar benwythnosau. Mae North West Assistive Technology, darparwr technoleg gynorthwyol y GIG, wedi dyblygu system Ray yn ei gartref ei hun. Pan fydd yn deffro yn y nos gall droi ei olau a'r teledu ymlaen heb ddeffro Diane, sy'n gwneud bywyd yn llawer gwell iddi hi.

Dywedodd Diane: 'Mae'r Possum Freeway 2 wedi newid bywyd Ray. Byddai ei golli nawr fel colli gallu arall.'

A dywedodd Val Kirk, Therapydd Cynorthwyol yn Hill House (cartref gofal Leonard Cheshire Disability): 'Mae cael eich grymuso i adfer annibyniaeth y mae unigolion wedi'i cholli oherwydd salwch dirywiol wedi gwella eu lles cyffredinol.’

Sut ydych chi'n meddwl bod technoleg gynorthwyol wedi bod o fudd i Ray a'i wraig?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai eich bod wedi meddwl am y canlynol:

  • Mae'r dechnoleg wedi cynyddu annibyniaeth Ray, gan roi mwy o reolaeth iddo dros ei fywyd.
  • Mae wedi gwella cydberthynas Ray a Diane gan ei bod yn eu galluogi i rannu gweithgareddau ac mae ganddynt fwy i siarad amdano.
  • Gan fod y dechnoleg wedi'i dyblygu yn ei gartref, gall Ray fod yn annibynnol yn ei gartref ac mae hyn, yn ei dro, yn gwella bywyd Diane drwy roi noson well o gwsg iddi.