Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Gwella lles corfforol

Mae bod yn iach yn gorfforol yn hynod o bwysig. Mae cael corff iach yn golygu y gallwch ddelio â heriau bob dydd, brwydro yn erbyn salwch a gweithredu'n dda, gan eich galluogi i wneud y pethau rydych am eu gwneud. Gellir osgoi llawer o gyflyrau iechyd corfforol, a, thrwy fod yn llwyr ymwybodol o'r problemau posibl, gallwch gael dewis go iawn o ran p'un a ydych am ystyried y wybodaeth a gweithredu er mwyn newid pethau.

Mae deiet cytbwys ac ymarfer corff rheolaidd yn ddechrau da i ofalu am eich iechyd corfforol. Gall gofalu am eraill fod yn flinedig a llafurus, gan arwain at flinder cyson, syrthni a difaterwch cyffredinol (dim amynedd) a all effeithio ar waith, cydberthnasau a sawl maes arall ar fywyd. Gall hyn hefyd atal eich cymhelliant ar gyfer dechrau ar unrhyw gynlluniau er mwyn gwella eich ffordd o fyw, felly mae gofalu am eich iechyd corfforol yn gam cyntaf ardderchog ar gyfer gofalu am feysydd eraill o'ch bywyd.

Mae iechyd corfforol da yn rhywbeth y gall pawb ei gyflawni, ni waeth beth yw'r man cychwyn. Gyda chymaint o wybodaeth (gwrthgyferbyniol yn aml) yn y cyfnod hwn lle mae pobl yn ymwybodol o'u iechyd, byddai o fudd i ni gael canllawiau synhwyrol.

Mae gwefan carers.uk yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ofalu am eich iechyd corfforol os ydych yn gofalu am eraill. Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol p'un a ydych yn gofalu am anwyliaid gartref neu'n gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Rhai o'r problemau corfforol sy'n wynebu gofalwyr fwyaf yw diffyg cwsg, poen cefn a niwed i'w cefn.

Os nad ydych yn cael digon o gwsg, efallai y byddwch wedi blino drwy'r amser, yn syrthio i gysgu yn ystod y dydd, yn cael trafferth canolbwyntio a gwneud penderfyniadau, ac yn teimlo'n isel. Gall diffyg cwsg yn yr hirdymor hefyd gynyddu eich risg o gael pwysedd gwaed uchel, diabetes a gordewdra.

Gall codi a symud y person rydych yn gofalu amdano, a'i helpu i wisgo amdano roi straen ar eich cefn. Fodd bynnag, gall gwybod sut i ddiogelu eich cefn helpu i'w gadw mewn cyflwr da. Os ydych yn ofalwr cyflogedig, mae'n ofyniad cyfreithiol i chi gael hyfforddiant a chymorth gyda thasgau codi a chario. Gall gofalwyr di-dâl hefyd fanteisio ar hyfforddiant, felly os ydych yn gorfod codi'r person rydych yn gofalu amdano yn rheolaidd, ei helpu i eistedd neu sefyll, neu ei helpu i mewn ac allan o'i wely, dylai eich grŵp cymorth lleol neu gyngor allu dweud wrthych am gyfleoedd hyfforddiant o ran sut i godi a symud yn fwy diogel er mwyn lleihau'r risg o niwed i'ch cefn. Neu, efallai y gall eich nyrs ardal neu dîm cymorth cymuned ddangos ffyrdd o godi a symud yn fwy diogel. Gofynnwch i'ch meddyg am ragor o wybodaeth.

Mae llawer o wasanaethau eraill a all eich helpu yn eich rôl ofalu ac wrth ofalu am eich iechyd eich hun. Mae'r rhain yn cynnwys therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, cynghorwyr ymataliaeth a deietegyddion.