Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Beth yw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn amrywio i bawb, ond yn y bôn mae'n ymwneud â faint o amser a ffocws a rowch i'ch gwaith o gymharu ag agweddau eraill yn eich bywyd. Dyna pam y gwnaethom ddweud ar ddechrau'r pwnc hwn nad yw cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd yn bodoli!

Wrth gwrs, bydd yn rhaid i lawer o ofalwyr di-dâl drefnu gwaith cyflogedig o amgylch eu cyfrifoldebau gofalu, sy'n golygu ei bod yn anoddach fyth sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd. Yn naturiol, mae blaenoriaethau pawb yn newid yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ac felly mae'r cydbwysedd yn newid hefyd.

Gweithgaredd 4

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud

Darllenwch yr astudiaeth achos isod a myfyrio arni cyn ateb y cwestiynau dilynol.

Astudiaeth achos: Penbleth Edward

Mae Edward yn rheolwr marchnata ar gyfer elusen plant. Nid yw'n briod ac mae'n byw gyda'i bartner, Mark, sy'n gweithio fel ymgynghorydd TG hunangyflogedig. Mae Mark wedi bod yn dechrau colli ei gof ac mae ei hwyliau wedi bod yn amrywio ers peth amser, ac roedd y cwpwl o'r farn mai straen oedd yn achosi hyn, ond, yn ddiweddar, cafodd y newyddion ei fod wedi datblygu arwyddion cynnar dementia ac y byddai ei gyflwr yn dirywio'n gyflym. Gwyddai'r cwpwl y byddai hyn yn cael effaith anferth ar y ffordd maent yn byw eu bywydau a'u bod am baratoi ar gyfer sut y byddant yn ymdopi, yn enwedig y gofal diwedd oes y bydd ei angen ar Mark.

Mae Edward wrth ei fodd â'i swydd ac mae'n cael llawer o foddhad drwyddi. Ond mae hefyd am allu gofalu am Mark wrth i'w gyflwr waethygu a phan fydd angen gofal a chymorth rheolaidd arno. Maent yn gwybod y bydd pethau'n anodd i'r ddau ohonynt ond maent am wneud y gorau o'r amser sydd ganddynt ar ôl mewn ffordd gadarnhaol.

Pa gamau y gall Edward a Mark eu cymryd i addasu i'r newidiadau yn eu cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a sicrhau eu bod yn dal i fyw bywydau cadarnhaol a boddhaus?

Ysgrifennwch frawddeg am:

  1. Pa gymorth rydych chi'n meddwl y gallai fod angen i Edward ei gael gan ei gyflogwr?
  2. Pa gymorth ymarferol y gallai Edward a Mark ei gael?
  3. Beth y gall Edward ei wneud i gadw ei deimladau o hunanwerth a gwerth os bydd yn dod yn ofalwr llawn amser?
  4. Beth y gall Edward a Mark ei wneud i sicrhau bod diwedd rôl ofalu Edward a'i gyfnod o ddychwelyd i'r gwaith mor gadarnhaol â phosibl?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

1. Cymryd amser o'r gwaith a gweithio hyblyg

Nid yw dod yn ofalwr yn golygu gwneud penderfyniad rhwng gweithio a gofalu mwyach. Mewn sawl sefyllfa, mae'n bosibl gwneud y ddau os byddwch am wneud hynny.

Dyma rai o opsiynau Edward ar gyfer cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, neu newid y ffordd mae'n gweithio er mwyn ei alluogi i barhau i weithio yn ogystal â gofalu;

  • amser brys i ffwrdd i ofalu am ddibynnydd
  • gweithio oriau hyblyg
  • absenoldeb tosturiol
  • gwyliau di-dâl
  • toriad gyrfa/gwyliau di-dâl estynedig.

2. Help ymarferol wrth ofalu

Mae help ymarferol yn hanfodol er mwyn i Edward allu gofalu am ei les ei hun a cael yr egni i barhau i ofalu. Mae help ymarferol yn cynnwys cael asesiad gofalwr, a fydd yn edrych ar rôl Edward fel gofalwr a beth sydd ei angen arno i fod yn effeithiol, yn cynnwys sut mae gofalu yn effeithio ar ei waith. Gellir cael hyn o adrannau gwasanaethau cymdeithasol lleol.

Gall Mark fod yn gymwys i gael gofal cymunedol os bydd angen help arno i fyw o ddydd i ddydd fel symudedd, coginio, ymolchi neu wisgo amdano.

Bydd teulu a ffrindiau am helpu Edward a Mark ond efallai na fyddant yn gwybod beth i'w wneud. Dylent ofyn am help gyda phethau ymarferol penodol, fel siopa neu goginio, a bydd hyn yn helpu pobl i wybod pa gymorth i'w gynnig.

Gallai Mark ac Edward gysylltu â sefydliadau fel y ganolfan gofalwyr leol, neu Carers UK. Gallent gysylltu ag elusennau dementia neu eu heglwys, mosg neu synagog lleol os oes ganddynt ffydd grefyddol.

3. Iechyd Edward

Bydd angen i Edward gymryd gofal o'i les ei hun os bydd yn dod yn ofalwr llawn amser i Mark yn y pen draw. Bydd cymryd egwyl reolaidd yn ei helpu i gadw ei gydbwysedd emosiynol a pharhau i fod yn gryf. Wrth gwrs, nid yw bod yn ofalwr llawn amser bob amser yn golygu na allwch weithio, ac unwaith y bydd wedi dod i arfer â'i ddyletswyddau gofalu, gall Edward benderfynu meddwl sut y gall gydbwyso ei yrfa â'i rôl ofalu yn well. Mae gyrfa Edward yn bwysig iddo ac mae'n rhoi ymdeimlad o gysylltedd, boddhad deallusol a theimlad o allu dylanwadu a chael ei werthfawrogi. Bydd deall yr anghenion hyn yn ei helpu i sicrhau cydbwysedd cadarnhaol rhwng gwaith a bywyd a fydd yn addas iddo ef ac i Mark.

4. Cynllunio ar gyfer bywyd a diwedd oes

Bydd rôl ofalu Edward yn dod i ben yn y diwedd, oherwydd bydd cyflwr Mark naill ai'n gwaethygu i'r graddau lle na ellir gofalu amdano yn ei gartref mwyach neu bydd ei fywyd yn dod i ben. Er bod Mark yn alluog o hyd, bydd yn gallu gwneud cynlluniau a phenderfyniadau am ei ddymuniadau ar gyfer y dyfodol a'i ofal yn y dyfodol. Bydd angen iddo ef ac Edward fod yn ddigon hyblyg i wneud y gorau o'r adegau da, yn enwedig pan fyddant yn digwydd yn llai aml. Pan fydd y cam hwn wedi cyrraedd, bydd angen i Edward ymdopi â'r newid syfrdanol hwn, a rheoli ei gyfnod o ddychwelyd i'r gwaith. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd Edward yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn raddol dros gyfnod o amser sydd, unwaith eto, yn ystyried ei anghenion ac yn ei alluogi i ailsefydlu ei gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.