Rhagor o wybodaeth (dewisol)
Symptomau, arwyddion ac achosion straen [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] : mae'r erthygl hon gan HelpGuide yn cynnwys gwybodaeth am arwyddion a symptomau straen ac awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen a sefyllfaoedd sy'n achosi straen.
Os ydych wedi'ch cyflogi fel gofalwr, mae gennych hawliau i'ch helpu i sicrhau cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, fel gweithio hyblyg, amser o'r gwaith ar gyfer achosion brys sy'n cynnwys dibynyddion, cyfnod rhieni a rennir a gwyliau blynyddol â thâl. Mae gan y wefan Teuluoedd sy'n Gweithio lawer o wybodaeth er mwyn helpu teluoedd sy'n gweithio i sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
A Pocket Guide for Employees: Balancing Work and Being a Carer: canllaw yw hwn a ysgrifennwyd gan Liz Morris gyda Susanne Jacobs ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio (2012). Mae'r canllaw yn cynnig help a chymorth ymarferol er mwyn galluogi gofalwyr i gydbwyso gwaith cyflogedig â'u cyfrifoldebau gofalu.