Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cerrig milltir cyfathrebu babanod a phlant bach

'Edrych arnaf i yn dy gopïo di'

O'r adeg y caf fy ngeni, bydda i'n gwneud cyswllt llygad ac yn copïo dy fynegiant. Dyma un o'r ffyrdd cyntaf y bydda i'n dysgu sut i gyfathrebu.

'Fy ngwên gyntaf'

Pan fydda i tua chwe wythnos oed, efallai y bydda i'n gwenu am y tro cyntaf.

'Fy chwerthiniad cyntaf'

Rhwng tri a chwe mis oed, mae'n siŵr y bydda i'n dechrau chwerthin. Bydd clywed fy chwerthiniad heintus yn ein helpu i greu cysylltiad hyd yn oed yn well a bydd siarad a rhyngweithio â mi yn rhoi mwy o bleser.

‘Mam, edrych arnaf i!’

Pan fydda i tua chwe mis oed, bydda i'n dechrau defnyddio synau i gael dy sylw; drwy gŵan neu chwerthin.

‘Ma ma ma, Da da da’

Pan fydda i'n tua wyth mis oed, mae'n siŵr y bydda i'n dechrau preblan. Y synau ailadroddus y bydda i'n eu gwneud yw fy ymgais gyntaf ar siarad ac maent yn rhoi cyfle i mi ymarfer fy ngheg.

'A wnest ti ddweud fy enw?'

Pan fydda i tua wyth neu naw mis oed, bydda i'n dechrau adnabod fy enw ac ymateb iddo.

'Fy ngair cyntaf!'

Pan fydda i tua 12 mis oed, efallai y bydda i'n dweud fy ngair cyntaf. A phan fydda i tua 13 mis oed, efallai y bydda i'n defnyddio hyd at chwe gair.

'Rwyf wedi cyrraedd 50 o eiriau!'

Pan fydda i tua 18 mis oed, bydda i wedi ehangu fy ngeirfa i tua 50 o eiriau. Mae hon yn adeg yn fy mywyd lle mae'n bosibl y byddwch yn sylwi ar gynnydd mawr yn fy ngeirfa; mae'n amser cyffrous i mi wrth i mi ychwanegu mwy a mwy at fy ngeirfa.

'Fy mrawddeg gyntaf!'

Ar ryw adeg rhwng 18 a 24 mis oed, bydda i'n llunio fy mrawddeg gyntaf. Efallai na fydd yn gywir yn ramadegol nac yn hawdd ei deall, ond mae'n rhan bwysig o'm datblygiad iaith. Cofiwch ddal ati i ddarllen, siarad a rhyngweithio â'ch plentyn oherwydd bydd hyn yn ei helpu i barhau i ehangu ei eirfa a'i ddealltwriaeth o ramadeg, geiriau ac iaith.

(Addaswyd o Words for Life, nd)