Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Mae rhyngweithio ag oedolion yn gam pwysig yn y broses o ddatblygu sgiliau cyfathrebu babi

Mae astudiaethau wedi nodi pum ffordd benodol y mae rhieni yn siarad â'u plant. Y rhain a gafodd yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ddatblygiad y plant, a'u gallu geiriol hirdymor:

  • siarad, defnyddio geirfa eang yn gyffredinol fel rhan o fywyd bob dydd
  • ceisio bod yn ddymunol, canmol a chydnabod a rhai gorchmynion negyddol
  • dweud pethau wrth y plant, gan ddefnyddio iaith sy'n cynnwys llawer o wybodaeth
  • rhoi dewisiadau i'r plant, gan ofyn am eu barn yn hytrach na dim ond dweud wrthynt beth i'w wneud
  • gwrando, gan ymateb iddynt yn hytrach nag anwybyddu'r hyn y maent yn ei ddweud neu roi gorchmynion.
Os byddwch yn siarad â phlant mewn ffordd galonogol, hyddysg a chadarnhaol, byddwch yn eu helpu i ddatblygu sgiliau hollbwysig siarad a gwrando. Y sgiliau hyn sy'n helpu'r plant i ddatblygu iaith a dysgu sut i ddarllen.