Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Symud o'r blynyddoedd cynnar i ysgol gynradd

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod codi safonau llythrennedd yn un o'i phrif flaenoriaethau. Amlygodd adroddiad 'Barod i Ddarllen' y ffaith fod plant tlotaf Cymru sy'n dechrau ysgol gynradd eisoes ar ei hôl hi o ran sgiliau iaith.

Activity 3

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Darllenwch y dyfyniad a addaswyd isod o'r TES (Times Educational Supplement) ar-lein ynghylch y 'bwlch darllen' mewn ysgolion cynradd ac yna atebwch y cwestiynau sy'n dilyn. Ymgyrch i ddod â'r bwlch darllen 'gwarthus' mewn ysgolion cynradd i ben

Ffigur 2 Plentyn yn darllen llyfr

Bydd tua 1.5 miliwn o blant yn y DU yn gadael yr ysgol gynradd yn cael trafferth darllen erbyn 2025 oni chymerir camau gweithredu brys, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan grŵp ymgyrchu a sefydlwyd i ddileu anllythrennedd.

Mae'r ymchwil yn dangos bod y DU yn cymharu'n anffafriol â gwledydd eraill yn Ewrop o ran gallu i ddarllen. Cyfeiriwyd at yr anghydraddoldeb hwn mewn gallu i ddarllen fel y 'bwlch darllen'.

Gallai economi'r DU fod £32bn yn waeth ei byd os na chaiff camau gweithredu eu cymryd i sicrhau bod plant 11 oed yn gadael yr ysgol gynradd yn ddarllenwyr mwy galluog.

Mae un o bob pedwar plentyn sy'n cael ei fagu mewn tlodi yn gadael yr ysgol gynradd yn methu â darllen yn dda.

'Ym Mhrydain, mae addysg gynradd i blant wedi bod yn orfodol ers o leiaf 150 mlynedd,' meddai'r Fonesig Julia Cleverdon, cadeirydd ymgyrch Darllena. Datblyga.

'Er hyn, mae'n gywilyddus bod miloedd o blant yn gadael yr ysgol gynradd bob blwyddyn yn methu â darllen yn ddigon da i fwynhau darllen a gwneud hynny er pleser, er gwaethaf ymdrechion gorau athrawon ledled y DU.

Gadael sylw

  • Beth yw ystyr 'y bwlch darllen', yn eich barn chi’?
  • Pam mae'r DU ar safle mor isel yn y tablau cynghrair rhyngwladol, yn eich barn chi?

O'r dyfyniad o'r TES rydych newydd ei ddarllen, mae'n ymddangos bod y 'bwlch darllen' yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond gallant gynnwys ffactorau fel:

  • mynediad cyfyngedig at lyfrau yn y teulu
  • rhieni heb yr amser na'r adnoddau i ddarllen i blant.

Os byddwn yn ymwybodol bod problem, gallwn gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r her.

Mae hyn yn golygu cael rhieni, cynorthwywyr addysgu, athrawon a'r holl staff cymorth eraill i gydweithio a rhannu eu harbenigedd – hynny yw,  chi.

Dyma ddwy enghraifft o gydweithredu'n gadarnhaol: