Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Y bwlch rhwng y rhywiau: gwir neu gau

Edrychwch eto ar y nodiadau a wnaethoch ar eich profiad eich hun o ddarllen.

Un o'r cwestiynau oedd 'A yw merched yn darllen mwy na bechgyn, yn eich barn chi?'. Mae eich profiadau chi eich hun yn sylfaen dda ar gyfer deall plant, ond mae'n bwysig osgoi cyffredinoli.

Mae llawer wedi'i ysgrifennu ynghylch 'y bwlch rhwng y rhywiau' mewn addysg gynradd. Mae rhyw yn cwmpasu'r amrywiaeth o nodweddion sy'n gysylltiedig â'r gwahaniaethau cymdeithasol rhwng dynion a merched. Ceir tystiolaeth o waith ymchwil sy'n ategu'r farn bod gwahaniaeth rhwng cyflawniad mewn bechgyn a merched.

Mae bechgyn yr ystyrir eu bod yn ddarllenwyr gwan yn treulio llai o amser yn darllen neu'n osgoi darllen, gan sicrhau eu bod yn cynnal credadwyedd ymysg eu cyfoedion. Mae merched yn hapus i gael eu gweld yn darllen llyfrau haws a chael help gan ddarllenwyr profiadol. Drwy dreulio llai o amser yn darllen, mae bechgyn ar ei hôl hi o gymharu â'u cyfoedion, felly mae'r broblem yn gwaethygu.

Mae rhai merched yn dewis deunydd darllen mwy heriol i'w hunain. Ymysg y llyfrau cyfoes ar gyfer merched yn y blynyddoedd cynradd uchaf mae cyfres Tracy Beaker gan Jacqueline Wilson. Mae'r rhain, ynghyd â'r llu o straeon fampirod, fel y Twilight Saga gan Stephanie Meyer, yn denu cynulleidfa o ddarllenwyr galluog cyn cyrraedd y glasoed. Mae merched hefyd yn fwy parod i rannu a thrafod llyfrau, yn aml gan greu grwpiau darllen yn debyg i'r rhai sy'n boblogaidd ymysg oedolion.

Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau, gwnaed ymdrechion i unioni'r fantol. Er enghraifft, roedd cyfres deledu ar y BBC yn 2010, Extraordinary School for Boys, yn archwilio ffyrdd gwahanol o annog bechgyn 11 oed mewn ysgol gynradd i ddysgu drwy ddefnyddio cysyniadau risg ac antur.

Drwy fynd â'r bechgyn allan o'r ystafell ddosbarth a'u hannog i ddysgu drwy weithgareddau corfforol, roedd y gyfres yn ceisio manteisio ar y math hwnnw o ddysgu a'i sianelu i gyfeiriad dysgu mewn ystafell ddosbarth. Arweiniwyd hyn gan Gareth Malone, a oedd hefyd yn herio'r rhagfarn 'nad yw bechgyn yn canu' (The Choir: Boys Don’t Sing, a ddarlledwyd yn 2008). Dywedodd Gareth 'Os yw'r ysgol yn teimlo fel lle y gall bechgyn gymryd risgiau a gwthio eu hunain a herio eu hunain go iawn, yna bydd ganddynt fwy o ddiddordeb’.