Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Beth yw ystyr iechyd meddwl?

Mae'n ddefnyddiol ar y cam hwn i ystyried beth yw ystyr y term 'iechyd meddwl'. Yn 2014, diffiniodd Sefydliad Iechyd y Byd iechyd meddwl fel 'a state of wellbeing in which an individual realises his or her own abilities [and] can cope with the normal stresses of life'. Gall iechyd meddwl gwael fod yn gysylltiedig â newid, sefyllfaoedd llawn straen neu ffordd o fyw, yn ogystal â chwmpasu ffactorau seicolegol neu fiolegol. Mae'r term 'lles emosiynol' yn gyfystyr â lles meddwl (yr Adran Iechyd, 2011) a dyma'r term a ddefnyddir amlaf ym maes darpariaeth gofal plant gan ymarferwyr ac mewn dogfennau polisi gofal plant.

Mae Deddf Plant 2004 yn nodi'r cyfrifoldebau sydd gan awdurdodau lleol a'u partneriaid i gydweithredu er mwyn hyrwyddo lles plant (mae hyn yn cynnwys eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol yn benodol).