Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Beth rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon

  • I feddwl am rywfaint o'r ymddygiadau annymunol y gall plant a phobl ifanc eu harddangos yn yr ystafell ddosbarth, a'r rhesymau posibl dros yr ymddygiad hwn. Gwnaethoch ddechrau drwy nodi eich enghreifftiau eich hun o ymddygiadau annymunol, cyn meddwl am yr hyn sy'n gwneud ymddygiad yn annymunol. Yna, aethoch ymlaen i ystyried pedwar nod Rudolph Dreikurs o gamymddwyn a defnyddio astudiaethau achos i herio eich ffordd o feddwl ynghylch sut y gallech ymdopi â senarios bywyd go iawn.
  • Dulliau o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Un o rolau allweddol y cynorthwyydd addysgu yw helpu'r athro a galluogi'r plant i ymddiddori mewn dysgu. Cyflwynwyd dau ddull gweithredu gwahanol iawn ar gyfer hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth; siartiau gwobrwyo a thargedau CAMPUS, ac arfer adferol.
  • Bod llawer o resymau dros broblemau ymddygiad ymysg plant, a bod problemau iechyd meddwl yn un ohonynt. Gwnaeth astudiaeth achos yn canolbwyntio ar orbryder eich cymell i feddwl am symptomau ymddygiadol a all fod yn achos pryder a chyflwynodd bwysigrwydd gwrando ar blant.
  • Ble i ddod o hyd i ragor o adnoddau. Mae rheoli ymddygiad yn bwnc eang ac felly mae'r adran hon yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio pan fydd eu hangen arnoch.

Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau'r amrywiaeth o weithgareddau yn yr adran hon a'u bod wedi codi eich ymwybyddiaeth o gymhlethdod rheoli ymddygiad plant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn gobeithio eu bod wedi eich cyflwyno i rai syniadau ac arferion a all fod yn newydd i chi.