Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Anghenion addysgol arbennig (AAA)

Mae gan blant a phobl ifanc ag AAA anawsterau dysgu neu anableddau sy'n ei gwneud yn anoddach iddynt ddysgu o gymharu â'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o'r un oed. Efallai y bydd angen i'r plant a phobl ifanc hyn gael help ychwanegol neu wahanol i'r hyn a roddir i eraill.

Os nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf eich plentyn, a yw hynny'n golygu bod ganddo anhawster dysgu? Mae'r gyfraith yn dweud nad oes gan blant a phobl ifanc anawsterau dysgu dim ond am nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, er, wrth gwrs, efallai y bydd gan rai o'r plant a phobl ifanc hyn anawsterau dysgu hefyd.

Bydd gan lawer o blant a phobl ifanc AAA o ryw fath ar ryw adeg yn ystod eu haddysg. Gall darparwyr blynyddoedd cynnar (er enghraifft, meithrinfeydd neu warchodwyr plant), ysgolion prif ffrwd, colegau a sefydliadau eraill helpu'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc i lwyddo drwy wneud rhai newidiadau i'w hymarfer neu gymorth ychwanegol. Ond bydd angen i rai plant a phobl ifanc gael help ychwanegol ar gyfer rhywfaint o'u hamser mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyfer eu holl amser mewn addysg a hyfforddiant.

Efallai y bydd angen i blant a phobl ifanc ag AAA gael help ychwanegol oherwydd amrywiaeth o anghenion.

Cyfathrebu a rhyngweithio – er enghraifft, pan fydd gan blant a phobl ifanc anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n ei gwneud yn anodd iddynt wneud synnwyr o iaith neu ddeall sut i gyfathrebu'n effeithiol ac yn briodol ag eraill

Gwybyddiaeth a dysgu – er enghraifft, pan fydd plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymder arafach nag eraill o'r un oedran â nhw, pan fyddant yn cael anhawster deall rhannau o'r cwricwlwm, yn cael anawsterau gyda sgiliau trefnu a chofio, neu anhawster penodol sy'n effeithio ar ran benodol o'u perfformiad dysgu fel llythrennedd neu rifedd

Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl – er enghraifft, pan fydd plant a phobl ifanc yn cael anhawster wrth reoli eu cydberthnasau â phobl eraill, pan fyddant yn mynd i'w cragen, neu os byddant yn ymddwyn mewn ffyrdd a all eu hatal nhw a phlant eraill rhag dysgu, neu sy'n cael effaith ar eu hiechyd a'u llesiant

Anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol – er enghraifft, plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg a/neu eu clyw, neu angen corfforol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael cymorth parhaus a chyfarpar ychwanegol

Efallai bod gan rai plant a phobl ifanc AAA sy'n cwmpasu mwy nag un o'r meysydd hyn.

Anableddau

Gall fod gan lawer o blant a phobl ifanc sydd ag AAA anabledd hefyd. Caiff anabledd ei ddisgrifio yn y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor (blwyddyn neu fwy) ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, namau synhwyraidd fel y rhai sy'n effeithio ar olwg a chlyw, a chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes neu epilepsi.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi'r canlynol mewn perthynas â darparwyr blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau, lleoliadau addysgol eraill ac awdurdodau lleol:

  • ni ddylent wahaniaethu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn erbyn plant a phobl ifanc anabl, aflonyddu arnynt na'u herlid
  • rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol, yn cynnwys darparu gwasanaethau cymorth ategol (er enghraifft, arwyddion cyffyrddol neu ddolenni sain), fel nad yw plant anabl a phobl ifanc dan anfantais o gymharu â phlant a phobl ifanc eraill. Gelwir y ddyletswydd hon yn 'rhagflaenol' – mae angen i bobl feddwl ymlaen llaw ynghylch beth y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc anabl
(Yr Adran Addysg, 2014b)