Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Aflonyddu a bwlio

Gall pob plentyn wynebu problemau sy'n effeithio ar ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol, neu ddatblygiad academaidd, ar ryw adeg yn ei yrfa yn yr ysgol. Gall hyn fod am bob math o resymau. Er enghraifft, gall plant ifanc iawn ei chael hi'n anodd gwahanu oddi wrth eu rhieni a setlo i fywyd yn yr ysgol, neu efallai y bydd personoliaeth plentyn yn effeithio ar ba mor hawdd (neu anodd) y bydd yn ei chael i wneud ffrindiau.

Efallai y bydd plant sydd ar y sbectrwm awtistig yn ei chael hi'n anodd ymateb i arwyddion cymdeithasol a llafar, ac efallai nad ydynt yn deall beth sy'n briodol o ran ymddygiad cymdeithasol. Gall y ddau beth hyn ddylanwadu ar sut mae plant eraill yn ymateb i blentyn sydd ag AAA, ac i'r gwrthwyneb.

Yn y pwnc hwn, rydym yn canolbwyntio ar fwlio ac erledigaeth fel problem sy'n aml yn berthnasol iawn i blant ag AAA. Er bod plant ag AAA yn amrywio'n fawr iawn, mae rhai themâu cyffredin a all effeithio ar ba mor dda y mae'r plentyn yn ymdopi yn yr ysgol, a pha mor debygol ydyw y bydd yn cael ei fwlio.

Gweithgaredd 4

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Rhestrwch dair her y gall plant ag AAA eu hwynebu yn yr ysgol a sut y gall y rhain effeithio ar y plentyn ac ar ei ddatblygiad, gan arwain at fwlio neu erledigaeth. Rydym wedi rhoi un her i chi i gychwyn.

Defnyddiwch y blwch ymateb am ddim i restru'r tair her rydych yn eu nodi a sut y gallai pob her effeithio ar y plentyn a'i ddatblygiad gan arwain at fwlio neu erledigaeth.

Tabl 1 Heriau y gallai plant ag AAA eu hwynebu yn yr ysgol
Her neu broblemSut y gallai effeithio ar y plentyn a'i ddatblygiad, gan arwain at fwlio neu erledigaeth
Nid yw'n arddangos ymddygiad sy'n briodol i'w oedran

Cydberthnasau. Efallai y bydd plant eraill yn ei chael hi'n anodd uniaethu â'r plentyn ag AAA.

Efallai y bydd yn rhaid tynnu'r plentyn o'r sefyllfa os bydd ei ymddygiad yn tarfu ar eraill.

Efallai bod y plant eraill yn ystyried bod y plentyn yn anaeddfed ac yn tynnu ei goes neu'n ei wawdio o ganlyniad i hynny.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Dengys tystiolaeth bod plant a phobl ifanc ag AAA yn llawer mwy tebygol o gael eu bwlio neu eu herlid na'r rhai nad oes ganddynt AAA (Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015a). Mae llawer o blant ag AAA yn cael trafferth cyfathrebu'n effeithiol â phlant eraill yn eu dosbarth; gall hyn, yn ei dro, effeithio ar eu gallu i feithrin cydberthnasau â'u cyfoedion, neu weithio mewn grwpiau bach ar dasg. Hefyd, gall anawsterau cyfathrebu olygu bod y plentyn yn ei chael hi'n anodd deall beth sy'n ofynnol ganddo, neu ystyr y dasg, a gall hyn beri rhwystredigaeth i blant eraill ac yn golygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn negyddol tuag at y plentyn ag AAA.

Am ragor o wybodaeth am faterion a all arwain at fwlio neu erledigaeth, edrychwch ar y ddogfen Preventing bullying [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] gan Y Gynghrair Gwrthfwlio, sydd hefyd ar gael yn y rhestr darllen pellach ar ddiwedd y pwnc hwn.