Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Bwlio

Beth yw bwlio? Diffiniad yr Adran Addysg yw'r un canlynol (2011):

Ystyr bwlio yw ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, a gaiff ei ailadrodd dros amser, sy'n brifo unigolyn neu grŵp arall yn gorfforol neu'n emosiynol, a hynny'n fwriadol.

Y geiriau a'r ymadroddion allweddol i'w nodi yn y diffiniad hwn yw:

  1. ymddygiad gan unigolyn neu grŵp
  2. ailadroddwyd
  3. brifo unigolyn neu grŵp arall yn fwriadol
  4. yn gorfforol
  5. yn emosiynol.

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod plant ag AAA yn wynebu risg benodol o gael plant eraill yn galw enwau arnynt, yn eu gwawdio ac yn eu gwrthod neu eu hallgáu. Gall y rhain gael effaith ddirfawr ar hunan-barch plentyn.

Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Gan ddefnyddio'r pum gair ac ymadrodd allweddol uchod, gwnewch nodiadau ar sut mae stori Jax yn cyfateb i'r diffiniad o fwlio.

Astudiaeth achos: Jax, 14 oed

'Wn i ddim a yw erioed wedi digwydd i chi? Dechreuodd pan ddaeth Justine i mewn i'n dosbarth. Dywedodd Justine ei bod am fod yn ffrind i mi. Roedd yn iawn ar y dechrau ond yna dechreuodd hi a rhai o'r plant eraill yn y dosbarth chwerthin am ben pethau a wyddwn i ddim beth oedd yn ddoniol. Roedd ganddynt gyfrinachau yr oeddent yn gwrthod eu rhannu â mi. Gwnaethon nhw ddechrau dwyn fy mhethau ac esgus fy mod wedi eu colli nhw. Gwnes fy ngorau i ymuno â nhw a gwneud fel yr oedden nhw'n ei ddweud, ond yna byddent yn mynd i ffwrdd hebddo i.

Byddent yn esgus fy helpu gyda'm gwaith, ond yna byddent yn sgriblan arno neu'n chwerthin pan fyddwn yn ei gael yn ôl gyda llawer o gywiriadau. Gwnaethon nhw ddechrau anfon negeseuon testun cas ata i. Gwnaethon nhw droi pawb yn fy erbyn i. Doeddwn i ddim am ddweud wrthi hi – ond daeth fy Mam i wybod pan ddywedais wrthi hi am ei bod wedi dod o hyd i mi yn crïo yn fy ystafell.

Byddwn i'n gwrthod mynd i'r ysgol. Aeth Mam i'r ysgol a siaradodd â Miss Ratcliffe ond dywedodd nad oedden nhw, yr athrawon, wedi gweld dim ac na allen nhw wneud dim yn ei gylch. Roeddwn yn teimlo'n isel iawn. Aeth fy Mam i'r ysgol a gwylltiodd am fy mod yn colli cymaint o ysgol. Gwnaethon nhw gasglu pawb at ei gilydd a newid fy nosbarth. Cefais i fentor newydd hefyd. Mae pethau'n well nawr, ond dydw i dal ddim yn siarad â Justine – doedd hi ddim yn ffrind go iawn.'

(Addaswyd o Bond et al., 2001)
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

  • Ymddygiad gan unigolyn neu grŵp -– y bwli yn stori Jax oedd Justine.
  • Ailadroddwyd – digwyddodd yr ymddygiadau ar fwy nag un achlysur. Chwarddodd Justine ac eraill am ben Jax, gan ddwyn ei phethau, lledaenu sïon amdani, anfon negeseuon testun cas a throi pobl eraill yn ei herbyn.
  • Brifo unigolyn arall neu grŵp yn fwriadol – parhaodd Justine a'r plant eraill â'u gweithredoedd er ei bod yn debygol eu bod yn gwybod eu bod yn peri loes.
  • Ffisegol – bu Justine a'r plant eraill yn dwyn pethau, sy'n weithred ffisegol. Roedd Jax yn gwrthod mynd i'r ysgol yn ganlyniad ffisegol a achoswyd gan emosiwn.
  • Emosiynol – roedd Jax wedi cynhyrfu'n llwyr. Mae'n disgrifio sut y daeth ei mam o hyd iddi'n crïo ac nad oedd am ddweud wrth ei mam beth oedd yn digwydd yn yr ysgol.

Mae'n amlwg y gall bwlio achosi llawer o straen a phryder i blant a phobl ifanc, yn cynnwys plant a phobl ifanc ag AAA. Roedd canlyniad llwyddiannus i Jax. Cafodd gefnogaeth gan yr ysgol drwy ei symud i ddosbarth arall a rhoi mentor iddi siarad ag ef.

Gall pobl ifanc sy'n cael eu bwlio ddechrau teimlo'n isel a dechrau meddwl am hunanladdiad neu geisio gwneud hynny. Mae stori Jax yn enghraifft o fwlio y byddai llawer ohonom yn ystyried ei fod yn nodweddiadol; gallai plant a phobl ifanc ystyried ei fod yn enghraifft o heidio yn erbyn rhywun arall ac yn aml nid ydynt yn sylweddoli y gallai gweithgarwch o'r fath arwain at ganlyniad difrifol.