Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Crynodeb o'r cwrs

Cynlluniwyd y cwrs hwn i archwilio meysydd eang o ddiddordeb ar gyfer y sawl sy'n gweithio gyda phlant ar hyn o bryd neu a hoffai weithio gyda phlant. Nid yw'r cwrs yn eich cymhwyso fel cynorthwyydd addysg: nid oes unrhyw ofynion a nodir yn genedlaethol ar gyfer dod yn gynorthwyydd addysgu – mae pob awdurdod lleol neu ysgol yn amlinellu ei ofynion/gofynion penodol (TES, 2015). Fodd bynnag, bydd y bathodyn (a'r datganiad o gyfranogiad) yn ddefnyddiol ar gyfer eich CV ac fel sail ar gyfer trafodaeth mewn cyfweliad.

Datblygu a rheoli perthnasau

Roedd Adran 1 yn defnyddio astudiaethau achos er mwyn edrych ar ddatblygiad cydberthnasau o'r blynyddoedd cynnar i'r ysgol uwchradd a sut y gall cynorthwywyr addysgu chwarae rôl bwysig wrth reoli'r cydberthnasau hyn, yn enwedig pan fydd plant yn symud o un lleoliad i un arall. Cawsoch eich cyflwyno i ddamcaniaethwyr enwog ar gydberthnasau, fel John Bowlby a Mary Ainsworth, cyn dysgu am Jean Piaget a Lev Vygotsky, ac y mae eu syniadau yn dal i fod yn bwysig ar gyfer datblygiad plentyn. Nid y rhain yw'r unig ddamcaniaethwyr sydd wedi cyfrannu at ddamcaniaeth datblygiad plentyn, ond maent yn fan cychwyn defnyddiol. Yn yr adran hon, buoch hefyd yn ystyried pa mor bwysig yw meithrin cydberthnasau â rhieni a chael 'rhieni fel partneriaid'.

Annog darllen

Yn Adran 2 buoch yn edrych ar ddarllen, llythrennedd, sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen, a sut y gellir datblygu darllen ar gamau gwahanol o addysg. Cawsoch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol, fel y 'bwlch darllen' a'r 'bwlch rhwng y rhywiau'. Mae'r 'bwlch darllen' yn ymwneud ag anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad mewn darllen, ac mae'r 'bwlch rhwng y rhywiau' yn codi cwestiynau ynghylch pam y mae rhai bechgyn yn fwy amharod i ddarllen ac yn datblygu'n arafach na rhai merched.

Rheoli ymddygiad

Roedd Adran 3 yn canolbwyntio ar reoli ymddygiad, yn enwedig sut i reoli ymddygiad mewn ystafell ddosbarth mewn ffordd gadarnhaol. Roedd pwyslais yr adran hon ar gynnwys plant wrth hyrwyddo ymddygiad da ac ar wobrwyo yn hytrach na chosbi. Buoch yn ystyried gwaith Rudolph Dreikurs ar 'nodau camymddwyn' a ffyrdd amgen o fynd i'r afael â sefyllfa heriol. Buoch yn edrych ar y defnydd o siartiau gwobrwyo fel enghraifft o ymddygiadaeth a'r feirniadaeth a geir o'r dull hwn o reoli ymddygiad.

Anghenion arbennig

Roedd Adran 4 yn sôn am helpu plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA). Roedd yr adran hon yn archwilio rhywfaint o'r derminoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer disgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Roedd yn edrych ar adroddiad y llywodraeth ar AAA a beth yw ystyr ymarfer cynhwysol. Cawsoch gyfle i fyfyrio ar y graddau y mae eich ymarfer eich hun yn gynhwysol.

Deilliannau dysgu

Roedd y deilliannau dysgu cyffredinol ar gyfer Cefnogi datblygiad plant yn ategu'r pedair adran hyn. Gobeithio eich bod:

  • wedi cael cipolwg ar safbwyntiau amrywiol plant o'r blynyddoedd cynnar drwodd i'r ysgol uwchradd
  • yn gallu myfyrio ar brofiad ac ymarfer personol, nodi cryfderau a gwendidau, a chymhwyso hyn at y materion y dewch ar eu traws yn eich ymarfer
  • yn deall sut mae rhai damcaniaethau yn ceisio egluro datblygiad plentyn
  • yn myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu, y sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol.