Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Nodi sgiliau

Mae Katie wedi nodi'r ffaith ei bod yn mwynhau ei rôl fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch ac nid oes ganddi unrhyw ddyhead i fod yn athro. Mae'r sgiliau sy'n ofynnol i fod yn gynorthwyydd addysgu yn cyd-fynd â'r rhai sy'n ofynnol i fod yn athro, er eu bod yn wahanol, ac mae ganddi gydberthynas dda â'r athrawon yn ei hysgol.

Gweithgaredd 3

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Pan fyddwch yn mynd i gyfweliadau bydd disgwyl i chi roi tystiolaeth o'ch sgiliau felly mae'n strategaeth dda i ystyried hyn ymlaen llaw.

Sgiliau penodol

Nodwyd bod y sgiliau a'r rhinweddau canlynol yn ofynnol er mwyn gweithio fel cynorthwyydd addysgu cynradd, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn berthnasol mewn mathau eraill o waith gyda phlant a phobl ifanc:

  • sgiliau meithrin;
  • sgiliau gwrando;
  • y gallu i weithio dan bwysau;
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm;
  • dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion plentyn;
  • parodrwydd i ddysgu;
  • gallu i addasu;
  • amynedd ac ymdeimlad o degwch.

Ceisiwch nodi un neu ddwy o'r sgiliau hyn yn eich rôl bresennol. Gallai hyn fod yn rôl fel cynorthwyydd addysgu, wedi eich cyflogi mewn ysgol neu gallai fod yn rôl fwy anffurfiol, fel gwirfoddolwr neu o fewn y teulu. Myfyriwch ar ba rai o'r rhain sy'n bwysig yn eich gwaith a meddyliwch sut y byddech yn rhoi tystiolaeth ohonynt pe byddai rhywun yn eich holi amdanynt mewn cyfweliad.

Ceisiwch osgoi cymryd eich sgiliau cyflogadwyedd yn ganiataol, e.e. drwy ddweud 'wel, mae'n dod yn naturiol'. Er mwyn bod yn llwyddiannus mewn ceisiadau am swyddi a chyfweliadau, mae'n hanfodol eich bod yn gallu cydnabod y sgiliau sydd gennych a'u disgrifio'n effeithiol.

(Y Brifysgol Agored, 2016, wedi'i addasu o'r wefan Childhood and youth studies qualification

Gadael sylw

Rydych yn tueddu i gymryd y sgiliau sydd gennych yn ganiataol. Rydych yn defnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hyn bob dydd heb fod yn ymwybodol ohonynt o reidrwydd.

Mae gan Katie fwy o gyfle i weithio'n unigol â disgyblion unigol na'r athro. Mae ganddi gynlluniau i ddatblygu ei sgiliau yn gweithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig ac mae wedi cymryd cam tuag at ddechrau hyfforddi yn y maes hwn. Mae Katie yn myfyrio'n rheolaidd ar ei rôl ac yn adolygu ei hanghenion o ran hyfforddiant.

Nid oes angen i chi fod mewn cyflogaeth er mwyn dechrau meddwl am y sgiliau rydych eisoes wedi eu datblygu mewn cydberthnasau â phlant ar gamau gwahanol o'u datblygiad. Efallai y byddwch yn gweld eich bod wedi datblygu rhai o'r sgiliau trosglwyddadwy a restrir yng Ngweithgaredd 3 ac y bydd y rhain o fudd i chi os byddwch yn penderfynu gweithio gyda phlant.

Gobeithio y bu'r cyfle hwn i fyfyrio ar eich dysgu a'ch ymarfer yn ddefnyddiol ac y byddwch yn ei gynnwys yn eich ymarfer fel proses barhaus o gofnodi ac adolygu.