1 Gwneud penderfyniadau
Yn amlwg, mae'n rhaid i chi fod yn realistig ynghylch yr hyn sy'n bosibl, gan fod bywyd yn gosod cyfyngiadau ar bob un ohonom, ond nid yw llawer o bobl yn cyflawni'r cyfan y gallant ei gyflawni am nad ydynt yn glir ynghylch yr hyn y maent am ei wneud a sut i wneud penderfyniadau. Mae'n bwysig anelu at yr hyn rydych ei eisiau a bod yn ymwybodol o'r hyn y gellir ei gyflawni go iawn ar yr un pryd. Un ffordd o ystyried yr amrywiaeth o opsiynau yw edrych ar eich nodau ochr yn ochr â'r cyfyngiadau sydd arnoch a'ch adnoddau.Rheoli eich sefyllfa
Pa bryd bynnag rydych mewn sefyllfa lle nad ydych yn hapus, mae gennych bedwar opsiwn sylfaenol. Wrth ystyried yr opsiynau hyn, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor.
Er enghraifft, efallai eich bod yn glir eich meddwl eich bod am newid swyddi yn yr hirdymor ond, yn y byrdymor, efallai y gallech 'newid eich hun' er mwyn gwneud pethau'n haws a chychwyn ar hyfforddiant ar yr un pryd a fydd yn rhoi cymwysterau perthnasol i chi yn y tymor canolig.
- Gweithio i sicrhau newid: ceisiwch newid y sefyllfa er mwyn sicrhau ei fod yn agosach i'r hyn yr hoffech iddi fod. Os ydych wedi ceisio gwneud hyn a'ch bod wedi bod yn aflwyddiannus, mae'r tri opsiwn arall ar gael i chi.
- Newid eich hun: meddyliwch am eich agweddau eich hun, eich ymddygiad, eich uchelgeisiau, eich sgiliau, eich ffordd o fyw ac ati, ac ewch ati i ystyried sut y gallai eich sefyllfa wella petaech yn newid un ohonynt.
- Byw gydag ef: mae hyn yn golygu llawer mwy na 'rhoi i fyny gydag ef'. Mae angen strategaeth arnoch er mwyn sicrhau bod yr agweddau ar y sefyllfa nad ydych yn eu hoffi yn cael eu lliniaru cymaint â phosibl a'ch bod yn gwneud y gorau posibl o'r agweddau hynny rydych yn eu hoffi. Er enghraifft, gallech roi mwy o egni i mewn i weithgareddau y tu allan i'r gwaith os nad ydych yn hapus yn y gwaith, newid y ffordd rydych yn gweithio er mwyn sicrhau eich bod yn gorfod delio â llai o elfennau problemus, neu dreulio mwy o amser yn gwneud y pethau rydych yn eu mwynhau a chwtogi ar y rhai nad ydych yn eu mwynhau.
- Gadael: dewch o hyd i ffordd adeiladol o symud ymlaen neu allan o'r sefyllfa, swydd, cydberthynas neu broblem.
Gweithgaredd 2
Ystyriwch y pedwar opsiwn a restrir uchod. Nodwch sut y gallai pob un ohonynt eich helpu i symud ymlaen o'r sefyllfa annymunol rydych ynddi ar hyn o bryd yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor.
Rydych nawr wedi cwblhau Adran 1 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.