2.3 Cydbwyso adnoddau defnyddiol yn erbyn cyfyngiadau
Nawr edrychwch eto ar y cyfyngiadau a'r adnoddau a restrwyd gennych yng Ngweithgaredd 4. Gwnaethoch fwy na thebyg nodi rhai ffactorau a fyddai'n eich helpu i symud i'r cyfeiriad rydych am fynd iddo a ffactorau eraill y mae angen i chi ddod o hyd i ffordd o'u hamgylch. Nawr, mae angen i chi ystyried pob un o'ch nodau o safbwynt yr holl adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol neu'r cyfyngiadau a allai beri rhwystr i chi. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu gyda hyn.
Gweithgaredd 5
Edrychwch yn gyntaf ar yr enghraifft yn Nhabl 2. Cafodd ei lunio gan rywun a oedd eisiau gwneud cais am ddyrchafiad. Caiff pob cyfyngiad ei nodi yn erbyn adnodd defnyddiol, gan roi darlun cytbwys o'r sefyllfa.
Adnoddau | Cyfyngiadau |
Cefnogaeth rheolwr llinell | Ymateb cydweithwyr |
Uchelgais personol/penderfyniad | Symudedd cyfyngedig |
Yn barod i gymryd cyfrifoldeb | Ychydig iawn o brofiad o reoli pobl |
Profiad ym maes rheoli prosiectau | Dim profiad o reoli cyllidebau |
Nawr, dychwelwch at y templed a phwyswch a mesur yr adnoddau a'r cyfyngiadau ar gyfer y nod(au) a restrwyd gennych yng Ngweithgaredd 3. Pa nodau yw'r rhai pwysicaf? Tynnwch sylw atynt.
Pa gamau gweithredu fyddai'n eich helpu i wneud y gorau o'r adnoddau a restrwyd gennych? A beth fyddai'n eich helpu i leihau effeithiau'r cyfyngiadau?
Rydych wedi rhestru'r camau gweithredu y gallwch eu cymryd er mwyn cyflawni eich nodau. Nawr dylech ddwyn y camau gweithredu a'r adnoddau at ei gilydd, gan restru'r adnoddau a all eich helpu i gymryd pob cam. Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 3, lle rhestrwyd 'dim profiad o reoli cyllidebau' fel problem.
Camau gweithredu | Adnoddau |
|
|
Nawr gwnewch hyn ar gyfer pob un o'r camau gweithredu a restrwyd gennych yn y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Gadael sylw
Dylai fod gennych ddarlun clir nawr o'r hyn rydych wir ei eisiau a pha syniadau rydych am eu datblygu. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r prif ffynonellau cymorth a'r problemau y mae angen i chi fynd i'r afael â nhw.
Rydych nawr wedi cwblhau Adran 2 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.