5 Ffurflenni cais
Mae ffurflenni cais o bob lliw a llun ar gael. Caiff rhai ohonynt eu cynllunio i recriwtio pobl ar gyfer swyddogaeth benodol neu gynllun hyfforddi. Defnyddir y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi yn y sefydliad (e.e. Ymddiriedolaeth y GIG). Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau mawr bellach yn rhoi eu ffurflenni ar-lein, a all arbed amser a chostau postio.
Pa bynnag fformat a ddefnyddir, mae'r egwyddorion ar gyfer cwblhau ffurflenni cais yn debyg iawn. Os gofynnir i chi gyflwyno ffurflen gais, peidiwch ag anfon CV. Yn aml – ond nid bob amser – nodir bod modd i chi amgáu CV hefyd. Os byddwch yn gwneud hynny, ni ddylai ailadrodd yr hyn sydd ar eich ffurflen. Defnyddiwch eich CV yn effeithiol i gynnwys neu bwysleisio gwybodaeth sy'n berthnasol yn eich barn chi ac na ofynnir amdani ar y ffurflen.
Cofiwch am y pwyntiau canlynol pan fyddwch yn cwblhau ffurflen gais:
- Diben ffurflen gais wedi'i chwblhau, fel CV neu lythyr, yw sicrhau cyfweliad.
- Eich nod yw darbwyllo'r cyflogwr ei fod yn werth cyfweld â chi – eich bod yn ymddangos yn ymgeisydd addas ar gyfer y swydd, ac yn fath o berson y mae'r sefydliad eisiau ei gyflogi.
- Yr unig wybodaeth fydd gan y sawl sy'n dewis amdanoch fydd yr hyn rydych wedi'i roi iddynt yn eich cais ysgrifenedig. Pwysleisiwch y pethau cadarnhaol a gadewch iddyn nhw sylwi ar y pethau negyddol. Darbwyllwch nhw fod angen iddynt eich gweld.
- Cofiwch y gall y ffordd y caiff y wybodaeth ei chyflwyno fod mor bwysig â'r cynnwys.
- Mae llawer o gyflogwyr mwy o faint yn gofyn i chi gwblhau cais ar-lein.
Wrth gwblhau ffurflenni ar-lein, efallai na fydd rhai o'ch profiadau yn ffitio'n daclus i'r categorïau a ddarperir. Awgrymir eich bod yn cysylltu â'r cyflogwr i gael cyngor ar sut i fynd i'r afael â hyn.
Os nad ydych wedi bwrw golwg dros ffurflenni cais cyflogwyr ers peth amser, efallai y cewch eich synnu gan natur dreiddgar rhai o'r cwestiynau a ofynnir, ac nid dim ond ar gyfer swyddi uwch. Rhoddir rhai cwestiynau sampl yn ddiweddarach yn yr adran hon.
Cofiwch fod cyflogwyr yn aml yn derbyn nifer fawr o ffurflenni. Mae hyn yn golygu y gallant dreulio cyn lleied â dau funud yn darllen drwy eich ffurflen – felly mae'n hanfodol eich bod yn gwerthu eich hunan yn effeithiol.