5.2 Llenwi eich ffurflen
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cwblhau ffurflen gais:
- Cwblhewch bob rhan o'r ffurflen. Os nad yw cwestiwn yn gymwys i chi, ysgrifennwch 'Dd/G' neu 'Ddim yn gymwys' i ddangos nad ydych wedi'i anwybyddu.
- Os nad oes digon o le ar gyfer gwybodaeth ffeithiol (e.e. 'rhowch enwau, cyfeiriadau a dyddiadau pob cyflogwr blaenorol'), atodwch ddalen ar wahân, oni nodir na ddylech atodi unrhyw bapurau eraill.
- Os nad oes digon o le ar gyfer gwybodaeth am ddiddordebau cyffredinol (e.e. 'Beth fu'r ffactorau sylweddol yn eich bywyd hyd yn hyn'), blaenoriaethwch y wybodaeth a sicrhewch eich bod yn ei chadw o fewn y gofod a ganiateir.
- Sicrhewch eich bod yn ateb pob rhan o bob cwestiwn (e.e. 'Beth rydych yn ei wneud yn eich amser rhydd, beth rydych yn ei gyfrannu atynt a beth rydych yn ei gael allan ohonynt?').
- Peidiwch â llenwi adrannau â gormod o destun – mae'n eu gwneud nhw'n anodd eu darllen. Gall cynllun clir helpu, felly ystyriwch ddefnyddio pwyntiau bwled, penawdau pwnc wedi'u tanlinellu ac ati, i egluro eich pwyntiau. Mae gallu ysgrifennu mewn ffordd gryno yn dangos eich sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
- Wrth ateb cwestiynau estynedig (â sawl rhan) neu gwestiynau anodd, meddyliwch am y canlynol:
- beth rydych yn mynd i'r ddweud (deall diben y cwestiwn)
- pwy fydd yn ei ddarllen (rhywun nad yw'n eich adnabod ond a fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'ch dyfodol)
- sut rydych yn mynd i'w gyfleu (cyflwyno darlun cywir ohonoch chi eich hun)
- pam rydych yn ei ddweud (dangos bod gennych y rhinweddau, y diddordebau a'r sgiliau y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt).
- Sicrhewch fod eich pwyntiau yn berthnasol, yn ddiddorol ac yn bersonol (cyfeiriwch at 'fi', nid 'ni'). Rhowch dystiolaeth a byddwch yn benodol (e.e. 'Bûm yn gweithio fel cynorthwyydd dosbarth gwirfoddol am dair blynedd' yn hytrach na 'Rwy'n hoff iawn o blant'). Mae'n bosibl y gall y sgiliau rydych wedi'u datblygu mewn un cyd-destun gael eu trosglwyddo i gyd-destun arall, a bydd cyflogwyr yn edrych am dystiolaeth eich bod yn gwybod hynny, e.e. delio ag aelodau o'r cyhoedd, gweithio dan bwysau, trin arian, gweithio oriau anghyffredin.
- Defnyddiwch iaith gadarnhaol.
- Sicrhewch nad yw eich cofnod o gyflogaeth yn cynnwys unrhyw fylchau na ellir eu hesbonio. Os ydych wedi bod yn ddi-waith, dywedwch hynny, ond soniwch am unrhyw waith rhan amser neu waith gwirfoddol a wnaethoch yn ystod y cyfnod hwnnw.
- Ewch ati i deilwra eich ymateb i gyd-fynd â'r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Os ydych yn gwneud cais am swydd sy'n gysylltiedig â chwrs rydych wedi'i gwblhau, rhowch fwy o fanylion am y cwrs nag y byddech yn ei wneud pe na bai'n berthnasol iawn.
- Defnyddiwch yr adran 'unrhyw wybodaeth arall' i dynnu sylw at weithgareddau a rhinweddau na chânt eu cwmpasu mewn mannau eraill ar y ffurflen.
- Byddwch yn argyhoeddiadol, yn gadarnhaol ac yn onest. Gall gwybodaeth anghywir mewn un adran godi amheuon ynghylch rhannau eraill o'r ffurflen.
- Gofynnwch i'ch canolwyr am ganiatâd cyn rhoi eu henwau, a sicrhewch eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl iddynt fel eu bod yn gallu ysgrifennu geirdaon cefnogol.
Mae hefyd yn bwysig canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn hytrach nag unrhyw beth na allwch ei wneud. Wrth ysgrifennu cais, dylech ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol a mynd ati i werthu eich sgiliau a'ch galluoedd. Rhaid i chi fod yn onest, ond disgwylir i chi hepgor unrhyw ddiffygion, e.e. dylech fyth nodi nad oes gennych unrhyw brofiad perthnasol. Lle'r darpar gyflogwyr yw dod i'r casgliad hwnnw o'r wybodaeth a roddir.
Gweithgaredd 8
Mae'r rhain yn gwestiynau go iawn sy'n ymddangos mewn ffurflenni cais a ddefnyddir gan gwmnïau mawr:
- Ar dudalen gyntaf y cais hwn, gwnaethoch nodi eich bod yn ffafrio swydd benodol. Eglurwch pam y dylem eich dewis o flaen ymgeiswyr eraill.
- Amlinellwch unrhyw weithgareddau a gynlluniwyd neu a drefnwyd gennych. Dywedwch wrthym am yr hyn a wnaethoch a sut y gwnaethoch gyflawni canlyniadau.
- Ysgrifennwch ddarn byr amdanoch chi eich hun. Dylech gynnwys manylion fel eich cyflawniadau a'ch cyfrifoldebau; y bobl, y digwyddiadau neu'r profiadau sydd wedi dylanwadu arnoch; eich uchelgeisiau a'ch dyheadau.
Beth dylech ei gynnwys yn eich atebion? Nodwch eich syniadau cyn darllen y sylwadau.
Sylwadau
- Dangoswch eich bod yn deall yr hyn y mae'r swydd yn ei olygu a'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Nodwch bwyntiau allweddol a rhowch dystiolaeth o'ch cofnod.
- Cofiwch gwmpasu 'cynlluniwyd', 'trefnwyd', 'yr hyn a wnaethoch' a 'chanlyniadau'.
- Bydd yr adran hon yn dweud mwy wrthynt amdanoch chi fel unigolyn nag unrhyw ran arall o'r ffurflen. Dylech allu cyfiawnhau pob gair rydych wedi'i gynnwys. Bydd angen i chi dreulio tipyn o amser yn ysgrifennu fersiynau drafft ac yn mireinio eich ateb.