Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3 Pan fyddwch wedi cwblhau'r ffurflen

Mae'n arfer da gwneud y canlynol cyn cyflwyno eich ffurflen:

  • Darllenwch drwyddi'n fanwl er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau sillafu neu wallau gramadegol; yn ddelfrydol, gofynnwch i rywun arall fwrw golwg drosti yn hytrach na dibynnu ar wiriwr sillafu. Sicrhewch fod yr arddull a ddefnyddiwyd gennych yn gyson (e.e. eich defnydd o ragenwau personol).
  • Cymerwch gipolwg ar y cyflwyniad. Os yw'n bosibl, gofynnwch i rywun arall fwrw golwg dros eich cais cyn i chi ei anfon er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr a'i fod yn gadarnhaol.
  • Gwnewch nodyn o'r swydd rydych wedi gwneud cais amdani, enw a chyfeiriad y person yr anfonwyd y ffurflen ato/ati, a'r dyddiad y cafodd ei hanfon.
  • Os gofynnir i chi anfon y ffurflen gais yn y post, defnyddiwch amlen o faint addas (fel amlen A4 gyda darn o gardbord i'w atgyfnerthu) er mwyn sicrhau na chaiff y ffurflen ei phlygu. Anfonwch y ffurflen drwy bost dosbarth cyntaf bob amser. Os ydych yn cwblhau cais ar-lein, byddwch yn derbyn neges e-bost fel arfer pan gaiff ei derbyn.
  • Gwnewch gopi o'r ffurflen a gwblhawyd gennych er mwyn i chi ei hailddarllen cyn y cyfweliad. Bydd hefyd yn gwneud y broses o fynd i'r afael â ffurflenni eraill ychydig yn llai diflas. Yn aml, gallwch ddefnyddio'r un deunydd, gyda rhywfaint o waith golygu, ar gyfer sawl cais.
  • Anaml iawn y dewch o hyd i ffurflen gais sy'n gweddu'n berffaith i'ch cefndir a'ch profiad. Bydd angen i chi addasu eich atebion i'r cwestiynau a ofynnir.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 5 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.