Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.1 Paratoi eich CV

Bydd y ffordd rydych yn mynd ati i drefnu a chyflwyno gwybodaeth amdanoch chi eich hun a'ch gweithgareddau yn anfon negeseuon allweddol ynghylch pa mor addas ydych fel darpar gyflogai. Byddwch yn barod i dreulio cryn dipyn o amser yn llunio ac yn ailddrafftio dogfen effeithiol. Rydych am wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich hun mewn ffordd gadarnhaol a gonest. Felly, wrth baratoi eich CV, mae angen i chi ofyn rhai cwestiynau allweddol i chi eich hun:

  • Ym mha faes rwyf am weithio?
  • Pa gyflogwyr neu sefydliadau rwyf yn cysylltu â nhw?
  • Pa negeseuon rwyf am eu cyfleu amdanaf i fy hun, fy nghryfderau a'm rhinweddau?
  • Pa brofiadau y dylwn eu pwysleisio?
  • Sut gallaf sicrhau bod arddull fy CV yn gweddu i'r math o sefydliad/au rwy'n ei anfon ato/atynt, yn ogystal â'r gwaith rwyf am ei wneud?