Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Y llythyr eglurhaol

Eich llythyr eglurhaol yw eich cyfle i farchnata eich hun. Mae'n cyflwyno eich cais ac yn tynnu sylw at y prif ffactorau sy'n eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd. Y llythyr hwn gaiff ei ddarllen gyntaf fel arfer, felly gwnewch yn siŵr y bydd y darllenydd am ddysgu mwy amdanoch.

Dylai ychwanegu at eich cais yn hytrach nag ailadrodd yr hyn sydd ar y ffurflen gais neu'r CV. Dylech gynnwys llythyr eglurhaol bob amser oni fydd y cyflogwr yn dweud wrthych am beidio â gwneud hynny. Yn aml, mae ffurflenni cais yn rhoi cwmpas rhesymol i chi werthu eich hun ac efallai mai dim ond llythyr eglurhaol byr y bydd ei angen. Fel arfer, bydd angen mwy o gyflwyniad ar gyfer CV.

Gwneud cais am swydd mewn rhestr o swyddi gwag neu ateb hysbyseb

Nodwch deitl y swydd (gan gynnwys unrhyw rif cyfeirnod) a dywedwch ble a phryd y gwnaethoch weld y swydd wag. Nodwch eich pwyntiau gwerthu cryfaf, fel gradd berthnasol, cymhwyster priodol a phrofiad cysylltiedig. Pwysleisiwch sut y gall y sefydliad elwa o'ch cyflogi chi. Ychwanegwch rai manylion eraill i bwysleisio pa mor addas ydych, heb ddyblygu'r hyn sydd ar y ffurflen gais.

Gwneud cais ar hap

Er mwyn gwneud cais ar hap, mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch achos mewn llythyr, gyda'ch CV fel arfer. Dylech nodi'n glir y math o waith y byddech yn hoffi ei wneud, eich cymwysterau a'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Rydych yn ceisio darganfod a oes unrhyw swyddi gwag, neu p'un a fydd swyddi gwag yn codi yn y dyfodol agos. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i chi roi'r argraff eich bod yn rhywun y byddai'n ddefnyddiol i'r cyflogwr wybod amdano.

Os oes swydd wag, bydd hyn – os caiff ei wneud yn dda – yn golygu eich bod yn rhywun y dylai'r cyflogwr ei weld. Felly nodwch yn glir pwy ydych, ymhle rydych wedi'ch lleoli a beth rydych yn ei astudio, ac yna tynnwch sylw at y pwyntiau perthnasol yn y CV fel profiad gwaith, diddordebau a gweithgareddau. Dywedwch pam eich bod am weithio i'r sefydliad penodol hwnnw, a phryd y gallech ddechrau. Peidiwch â gwastraffu eich amser chi, neu amser sefydliad, drwy gyflwyno ceisiadau ar hap os na chânt eu derbyn.

Drafftio eich llythyr

  • Teipiwch eich llythyr neu defnyddiwch brosesydd geiriau (er, weithiau, bydd cyflogwr yn gofyn am lythyr wedi'i ysgrifennu â llaw).
  • Os ydych yn postio eich cais, defnyddiwch bapur plaen maint A4 o ansawdd da.
  • Sicrhewch fod y llythyr yn gryno – dim mwy nag un ochr papur A4 fel arfer.
  • Rhowch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a'r dyddiad ar frig cornel dde uchaf y llythyr ac, ar yr ochr chwith, rhowch enw, teitl swydd a sefydliad y person rydych yn ysgrifennu ato.
  • Cyfeiriwch eich llythyr at un person drwy nodi ei enw a theitl ei swydd. Gall staff y switsfwrdd fod o gymorth mawr o ran darparu'r wybodaeth hon os nad yw ar gael fel arall.
  • Wrth ysgrifennu at unigolyn penodol, dylech orffen gydag 'Yn gywir'. Dylech hefyd orffen gyda'r geiriau hynny os oes rhaid i chi ddefnyddio 'Annwyl Syr neu Fadam'.
  • Dylai arddull y llythyr fod yn broffesiynol ond ceisiwch osgoi defnyddio ymadroddion mawreddog fel 'I beg to remain'.
  • Sicrhewch fod eich sillafu a'ch gramadeg yn gywir a'ch bod wedi mynegi eich hun yn glir.
  • Gofynnwch i rywun arall ei ddarllen – peidiwch â dibynnu ar beiriant gwirio sillafu eich cyfrifiadur, gallai fod yn seiliedig ar reolau sillafu'r Unol Daleithiau.
  • Printiwch eich enw yn glir o dan eich llofnod.
  • Gallwch ddefnyddio eich llythyr eglurhaol i roi gwybodaeth ychwanegol fel rhesymau am newid anarferol mewn gyrfa, neu i dynnu sylw at agweddau ar eich CV sy'n hynod bwysig yn eich barn chi.
  • Os oes unrhyw amgylchiadau arbennig nad ydynt wedi'u cwmpasu yn y ffurflen gais neu'r CV, fel anabledd a sut rydych yn goresgyn anawsterau posibl, soniwch amdanynt yn y llythyr.
  • Cadwch gopi o'ch llythyr. Os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth ymhen pythefnos neu dair wythnos, anfonwch lythyr dilynol byr neu ffoniwch y sefydliad i wneud yn siŵr bod y llythyr wedi cyrraedd.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 7 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.