Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.2  Cyfwelwyr

Isod rhestrir y pedwar prif fath o gyfwelwyr y gallech ddod i gysylltiad â nhw. Peidiwch â gadael i'ch stereoteipiau eich hun o'r cyfwelydd effeithio ar eich techneg yn y cyfweliad. Cofiwch, pan fo rheolwyr yn cynnal cyfweliadau, maent yn chwarae rôl yn unol â set o reolau cymdeithasol, ac efallai na fyddant yn dod drosodd yn gyfan gwbl fel nhw eu hunain. Gall eu safbwyntiau fod yn wahanol yn dibynnu ar eu swyddogaeth:

  • Rheolwyr adnoddau dynol/recriwtio: maent yn gymwys ac yn brofiadol ac yn aml yn graff ac yn sensitif iawn. Maent yn gweithredu fel sgriniwr mewnol; caiff eu barn eu gwerthfawrogi gan eraill. Maent yn debygol o ganolbwyntio ar bersonoliaeth a sut mae person yn 'gweddu' i'r sefydliad. Gall fod ganddynt stôr o wybodaeth am ddiwylliannau cwmnïau.
  • Pennaeth grŵp neu adran: arbenigwr technegol â phrofiad rheoli ehangach. Bydd yn siarad siop ac yn trafod problemau ac atebion o fewn fframwaith sefydliadol ehangach. Gall fod ganddo gwestiynau safonol, gall gyfeirio at bethau yn y CV. Eich cymhwysedd proffesiynol a'r gydberthynas rhyngoch sy'n bwysig iddo/iddi.
  • Rheolwr llinell neu wneuthurwr penderfyniadau: bydd yn ceisio asesu eich ffordd o weithio. Eich cymhelliant, eich cyflawniadau a'ch uchelgais personol sy'n bwysig iddo/iddi. Bydd yn ystyried sut fyddech yn cyd-fynd â gweddill y tîm. Efallai y bydd yn rhaid iddo/iddi eich 'gwerthu' i gydweithwyr ar lefel uwch. Bydd yn ddifrifol ond yn ymlaciedig ar yr un pryd; efallai y bydd yn ceisio 'gwerthu'r' swydd.
  • Rheolwr gyfarwyddwr neu sylfaenydd cwmni: gall wyro oddi ar y pwnc a mynd ati i sôn am hanes hir y cwmni. Cydweddu diwylliannol sy'n bwysig iddo/iddi; gallai fod yn edrych am weledigaeth gyffredin. Efallai y bydd yn chwilio am rywun fydd yn cwestiynu pethau neu'n gweithredu fel asiant newid. Bydd yn ceisio barn gan bob un o'r rheini sy'n dod i gysylltiad â chi.

Gallech fynd ati i ddarllen yr holl lyfrau sydd erioed wedi cael eu hysgrifennu am sut i wneud yn dda mewn cyfweliad a pheidio â bod yn dda o hyd. Mae'n hollbwysig eich bod yn mynd ati i ymarfer. Nid yw hyd yn oed profiad fel cyfwelydd yn golygu y bydd y perfformiad yn un caboledig. Yn aml, gall y profiad hwnnw arwain at fwy o bryder. Bydd y modd y byddwch yn cyfleu eich hun drwy eich sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu yn penderfynu p'un a fyddwch yn llwyddiannus ai peidio wrth siarad â darpar gyflogwyr.

Dysgwch gymaint ag y gallwch am dechnegau cyfweld a byddwch yn barod i ymdopi â nhw:

  • Darllenwch am y broses.
  • Meddyliwch am y cyfweliad a chynlluniwch ar ei gyfer. Ceisiwch ragweld cwestiynau neu sefyllfaoedd a gweithio atebion posibl allan.
  • Ewch ati i ymarfer drwy chwarae rôl gyda phartner, cynghorydd gyrfaoedd neu gydweithiwr, neu defnyddiwch recordiadau sain neu fideo. Bydd y ffordd rydych yn swnio yn hollbwysig.
  • Ewch ati i ymarfer siarad ar y ffôn i ffrind a gofynnwch pa argraff rydych yn ei gwneud. Defnyddiwch recordiwr llais i ymarfer rhai atebion a gwrandewch ar eich hunan yn feirniadol.
  • Gofynnwch am sylwadau gan bartner, cysylltiadau rhwydwaith neu gyfwelwyr sydd wedi'ch gwrthod.
  • Dysgwch drwy arsylwi pobl eraill – cymerwch rôl cyfwelydd gyda phartner.
  • Ewch ati i fyfyrio ar eich profiad. Gwerthuswch eich perfformiad a defnyddiwch yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn eich cyfweliad nesaf.