8.3 Cyn eich cyfweliad
Dyma rai pethau y dylech feddwl amdanynt cyn eich cyfweliad:
- Ymchwiliwch i'r swydd a'r cyflogwr yn drylwyr ymlaen llaw. Os yw'n bosibl, ceisiwch ddod o hyd i rywbeth am y bobl sy'n eich cyfweld.
- Adolygwch eich CV neu ailddarllenwch eich ffurflen gais.
- Ystyriwch pam eich bod wedi cael eich gwahodd am gyfweliad. Beth yw eich pwyntiau gwerthu unigryw? Mae'r cwestiynau'n debygol o ganolbwyntio ar y canlynol:
- eich cyflawniadau
- eich cymhellion ar gyfer gwneud cais
- y cyfraniad rydych yn debygol o'i wneud.
- Paratowch drwy drefnu eich deunydd ymlaen llaw.
- Casglwch gymaint o enghreifftiau â phosibl o bethau rydych wedi'u gwneud sy'n dangos eich sgiliau'n glir. Darllenwch y cwestiynau anodd yn Adran 8.8 ac ewch ati i ymarfer rhai o'r atebion ar goedd.
- Meddyliwch am y sgiliau a allai fod yn bwysig er mwyn perfformio'n dda yn y swydd.
- Meddyliwch am adegau yn y gorffennol pan rydych wedi dangos y galluoedd sydd eu hangen, e.e. prosiectau llwyddiannus; rhyngweithio llwyddiannus â phobl eraill; darbwyllo cynulleidfa anodd; dadansoddi swm sylweddol o wybodaeth, ac ati. Peidiwch â chyfyngu'ch hun i enghreifftiau sy'n gysylltiedig â swyddi – efallai bod gennych dystiolaeth ardderchog sy'n ymwneud â'ch astudiaethau, eich hobïau neu weithgareddau eraill.
- Beth yw eich gwendidau a beth rydych yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad amdano?
- Pam na fyddech yn cyflogi eich hun? Meddyliwch am wrthddadleuon argyhoeddiadol.
- Ewch ati i ymarfer yr atebion sy'n ymwneud â meysydd gwan. Gofynnwch i gynghorydd gyrfaoedd neu ffrind neu gydweithiwr eich helpu. Ewch ati i ymarfer ar goedd, recordiwch yr atebion a gwrandewch arnynt eto.
- Cynlluniwch amseroedd teithio a chyrraedd ac, os yw'n bosibl, gwnewch ymarfer ffug.
- Penderfynwch beth i'w wisgo. Dangoswch eich bod yn gwybod 'rheolau' cyfweliadau drwy wisgo'n smart, sgleinio eich esgidiau ac ati. Mae gwisg geidwadol yn debygol o wneud argraff well na gwisg liwgar. Ewch ati i wisgo'r wisg gyflawn rai diwrnodau ymlaen llaw fel bod amser gennych i newid eich cynlluniau os nad yw'n teimlo'n iawn. Gwisgwch yn briodol i'r diwylliant. Os nad ydych yn siŵr am hyn, cymerwch gipolwg ar lenyddiaeth neu wefan y cwmni i gael syniad o'r ffordd y mae pobl yn gwisgo. Os nad oes unrhyw lenyddiaeth addas ar gael, gallech ffonio a gofyn i'r person ar y switsfwrdd neu ysgrifennydd y person sy'n cyfweld â chi.
- Ewch ati i baratoi rhai cwestiynau y byddech yn hoffi eu gofyn. Gall paratoi cwestiynau ddangos, er enghraifft, fod gennych ddiddordeb mewn datblygu o fewn y sefydliad a'ch bod yn awyddus i wneud hynny, e.e. 'Sut y caiff perfformiad a datblygiad eu hasesu?' neu 'Sut mae'r swydd yn debygol o ddatblygu yn ystod y ddwy flynedd nesaf?'.