Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.4 Ar y diwrnod

Pethau i'w cofio:

  • Peidiwch ag ysmygu cyn mynd i mewn i'r cyfweliad.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch hun â bagiau, papurau neu ymbaréls.
  • Cyrhaeddwch mewn da bryd fel eich bod yn cael amser i ymlacio.
  • Os bydd unrhyw oedi, ffoniwch.
  • Cofiwch fod angen i chi ddangos eich bod yn berson pwyllog a hyderus o'r cychwyn cyntaf.
  • Gwrandewch yn ofalus ac yn astud ar y cwestiynau; gofynnwch i'r cyfwelydd ailadrodd neu egluro cwestiwn os nad ydych yn ei ddeall.
  • Cofiwch fynd â chopi o'ch cais gyda chi.
  • Peidiwch ag anghofio diffodd eich ffôn symudol.

Sut rydych yn swnio

  • Swniwch fel pe bai gennych hyder ynoch chi eich hun.
  • Siaradwch yn glir. Peidiwch â gostwng eich llais tuag at ddiwedd brawddegau a pheidiwch â mwmian na siarad yn rhy gyflym.
  • Defnyddiwch iaith syml – ni ddylai ddrysu'r cyfwelydd na gwyro oddi wrth y cwestiwn. Ceisiwch osgoi defnyddio jargon neu ystrydebau.
  • Siaradwch yn gryno, byddwch yn benodol, a phenderfynwch pryd rydych wedi dweud digon. Gwyliwch ymddygiad y cyfwelydd, a fydd yn rhoi cliwiau i chi ynghylch p'un a ydych yn ateb y cwestiynau ac yn amseru eich atebion yn briodol. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch 'Hoffech chi i fi gario ymlaen?'
  • Defnyddiwch eich atebion i ddangos eich bod wedi gwneud ymchwil i'r cwmni ac wedi teilwra eich atebion yn unol â hynny.
  • Peidiwch â chyfyngu'r hyn rydych yn ei ddweud i'r hyn y maent eisiau ei glywed.
  • Sicrhewch eich bod yn ateb y cwestiwn sy'n cael ei ofyn.
  • Sicrhewch eich bod yn cyfleu'r cydbwysedd cywir o frwdfrydedd, cynhesrwydd, cyfeillgarwch a diffuantrwydd. Gwenwch!
  • Ceisiwch osgoi datganiadau negyddol.

Iaith y corff

  • Cerddwch ac eisteddwch gydag osgo da.
  • Ysgwydwch ddwylo'n gadarn am gyfnod byr. Mae angen i rai pobl ymarfer gwneud hyn.
  • Defnyddiwch eich ystumiau naturiol – does dim angen i chi edrych fel pe baech wedi rhewi.
  • Ceisiwch osgoi aflonyddu a chadwch eich dwylo i ffwrdd oddi wrth eich ceg.
  • Peidiwch â chroesi eich dwylo.
  • Sicrhewch eich bod yn cynnal cyswllt llygad da gyda'r person rydych yn siarad ag ef.