Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.7 Cyfweliadau dros y ffôn

Mae nifer cynyddol o gwmnïau yn defnyddio'r ffôn ar gyfer cam cyntaf y broses gyfweld. Maent yn gwneud hyn mewn sawl ffordd:

  • Wedi'i awtomeiddio'n llawn: rydych yn cael llythyr sy'n rhoi rhif rhadffôn i chi ffonio. Rydych yn clywed rhestr o ddatganiadau ac yn pwyso rhif ar fysellbad y ffôn i nodi eich ateb.
  • Strwythuredig: trefnir amser sy'n gyfleus i bawb ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi a gaiff eu recordio a'u dadansoddi gan gyfwelwyr hyfforddedig. Nod y cwestiynau yw penderfynu a oes gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.
  • Sgrinio: cewch eich holi am agweddau gwahanol ar eich CV neu ffurflen gais er mwyn penderfynu a ddylid eich gwahodd i gael cyfweliad personol.
  • Ymarfer gwerthu: cewch gyfle i werthu cynnyrch dros y ffôn. Defnyddir y dechneg hon ar gyfer recriwtio staff gwerthu, marchnata a gwerthu dros y ffôn.

Mae'r cyngor sy'n dilyn am gyfweliadau wyneb yn wyneb yr un mor gymwys i gyfweliadau dros y ffôn, ond mae rhai pethau yn hynod bwysig:

  • Ceisiwch drefnu'r cyfweliad ar gyfer amser ac mewn man lle na fydd unrhyw un yn torri ar eich traws.
  • Cadwch eich cais ac unrhyw nodiadau eraill y gwnaethoch eu paratoi gyda chi.
  • Ystyriwch sut argraff y gallech ei gwneud dros y ffôn, gan ddefnyddio'r cwestiynau canlynol:
    • Ydych chi'n siarad yn ddigon uchel?
    • A yw eich llais yn glir neu a ydych yn dueddol o fwmian?
    • Ydych chi'n swnio'n hyderus ac yn frwdfrydig, neu'n undonog ac yn ansicr?
  • Peidiwch ag anghofio gwenu pan fyddwch yn siarad ar y ffôn, yn yr un modd ag y byddech yn ei wneud petaech yn siarad â rhywun wyneb yn wyneb. Ni fydd y cyfwelydd yn gallu gweld y wên ond bydd yn gallu ei chlywed.
  • Gall sefyll i fyny tra rydych yn siarad ar y ffôn wneud i chi swnio'n fwy hyderus.
  • Mae rhai ymgeiswyr yn gwisgo'r dillad y byddent yn eu gwisgo i gyfweliad er mwyn sicrhau eu bod yn barod yn feddyliol.