Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Beth rydw i wir ei eisiau o waith?

Nod gweithgaredd 2 yw eich annog i feddwl am eich gwerthoedd fel sail i'ch helpu i benderfynu ar y math o waith yr hoffech ei wneud. (Dylech gwblhau'r gweithgaredd hwn hyd yn oed os oes gennych syniad eisoes o'r maes yr hoffech weithio ynddo, gan y gallai eich helpu i gadarnhau'r penderfyniad hwnnw neu ei fwrw o'r neilltu.)

Mae meddwl am eich gwerthoedd yn golygu penderfynu ar yr hyn sy'n bwysig i chi mewn bywyd. Er enghraifft, efallai bod gennych ffydd grefyddol benodol sy'n rhoi gwerthoedd ac arweiniad ysbrydol penodol i chi ar sut i fyw eich bywyd. Efallai bod addysg yn hynod bwysig i chi, neu eich bod am geisio treulio amser gyda'ch teulu. Mae rhai pobl yn rhoi pwys ar fod yn rhan o dîm sy'n golygu llawer o gydweithio, tra bod pobl eraill yn canolbwyntio mwy ar gystadleuaeth a chyflawniad unigol.

Y broblem yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl, y rhan fwyaf o'r amser, yn meddwl yn ofalus am yr hyn sy'n bwysig iddynt ac yna'n gweithredu yn unol â hynny. Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn crwydro o un peth i'r llall ac yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd sy'n gwrthdaro â'u gwerthoedd sylfaenol. Dyma pam ei bod yn bwysig cymryd cam yn ôl o bryd i'w gilydd a chanolbwyntio ar eich gwerthoedd a ph'un a ydych yn byw eich bywyd yn unol â'r gwerthoedd hynny. Os nad ydych, gall hyn arwain at anfodlonrwydd ac anhapusrwydd gyda bywyd a gwaith. I ryw raddau, efallai mai'r rheswm am hyn yw nad ydych wedi treulio digon o amser yn nodi'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi. Ar y llaw arall, weithiau bydd pobl yn gwybod nad ydynt yn byw eu bywyd yn unol â'u gwerthoedd, ond maent yn teimlo bod amgylchiadau'n eu rhwystro ac na allant weld ffordd allan.

Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Cymerwch y prawf gwerthoedd gwaith [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i'ch helpu i benderfynu ar yr hyn rydych wir ei eisiau o waith. Peidiwch ag anghofio ei gadw neu e-bostio'r ddolen barhaol i'ch canlyniadau, sydd ar waelod y dudalen canlyniadau.

Gadael sylw

Beth oedd eich barn am y canlyniadau? A wnaeth unrhyw ganlyniadau eich synnu neu a oeddent fel roeddech yn ei ddisgwyl? A yw'r ymarfer hwn yn ei gwneud yn gliriach i chi beth sydd bwysicaf i chi o ran gwaith? Er enghraifft, a yw'n rhoi awgrym o'r math o waith rydych yn hoffi ei wneud neu'r math o sefydliad rydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn gweithio iddo?

Yn amlwg, mewn rhai mathau o waith, mae gwerthoedd fel gofalu (nyrsio), bod yn greadigol (dylunio graffig), cymryd risgiau (masnachu) ac ati yn bwysig iawn. Yn yr un ffordd, bydd gan gwmni gweithgynhyrchu, elusen, swyddfa papur newydd, awdurdod lleol, sefydliad ariannol ac ati 'ymdeimlad' gwahanol fel man gwaith. Ceisiwch feddwl am y rhai a fyddai fwyaf addas i chi a sut y byddai mathau gwahanol o waith yn cyd-fynd â gweddill eich bywyd. Beth yw'r ''ffit' orau i chi, o ystyried eich gwerthoedd a'ch amgylchiadau?

Er hyn, cofiwch mai eich gwerthoedd eich hun sy'n bwysig yma, felly gallwch anwybyddu neu ychwanegu at unrhyw un o'r datganiadau a newid trefn pwysigrwydd.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 1 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.