Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Pa mor fodlon ydwyf gyda'm hamgylchiadau presennol?

Mae gweithgaredd 4 yn canolbwyntio ar eich amgylchiadau presennol ac yn gofyn i chi nodi pa mor fodlon ydych gyda'ch gwaith mewn nifer o feysydd. Os nad ydych mewn gwaith â thâl ar hyn o bryd, meddyliwch am eich bywyd yn gyffredinol.

Gweithgaredd 4

Timing: Caniateir tuag 20 munud

Rhan 1

Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ac edrychwch drwy'r rhestr o ffactorau, gan gylchu neu dynnu sylw at y lefel sy'n berthnasol i'ch amgylchiadau presennol.

Rhan 2

Nawr ysgrifennwch baragraff yn seiliedig ar y dewisiadau a wnaethoch uchod, gan eithrio unrhyw eitemau a oedd 'Yn iawn' neu 'Yn ddigonol'. O'r eitemau sy'n weddill, allwch chi ddweud pa rai yw'r pwysicaf i chi a pham?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Gobeithio bod Gweithgareddau 2–4 wedi:

  • awgrymu'r hyn sydd bwysicaf i chi yn eich bywyd a'ch gwaith
  • eich helpu i nodi meysydd gwaith sy'n cyfateb i'ch diddordebau
  • egluro pam rydych yn fodlon neu'n anfodlon â'ch sefyllfa bresennol.

Efallai y bydd eich atebion yn dechrau awgrymu naill ai'r math o waith yr hoffech ei wneud neu'r math o sefydliad yr hoffech weithio iddo, yn ogystal â faint o waith y byddech yn hoffi ei wneud yn ddelfrydol. Bydd y gweithgaredd nesaf yn rhoi syniad gwell i chi o ble rydych yn sefyll ar y pwynt olaf hwn.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 3 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.