Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Pa mor bwysig yw gwaith yn fy mywyd yn gyffredinol?

Yng Ngweithgaredd 4, y maes olaf y gwnaethoch ei ystyried oedd 'cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith'. Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn ystyried hyn yn fanylach oherwydd, cyn i chi fynd ati i ystyried yr hyn rydych am ei wneud, mae angen i chi fod yn glir ynghylch pa mor bwysig yw gwaith i chi. Mae hyn yn rhywbeth sy'n amrywio o berson i berson. Efallai eich bod yn uchelgeisiol iawn (hyd yn oed yn gaeth i'ch gwaith), neu efallai eich bod yn osgoi swyddi sy'n golygu eich bod yn gorfod gweithio oriau ychwanegol yn aml. Efallai eich bod wedi canfod eich hun mewn swydd sy'n cymryd drosodd ac yn golygu mai ychydig iawn o amser sydd gennych i'w dreulio gyda'r teulu, neu efallai y byddai'n well gennych ddod o hyd i swydd a all roi gwell cydbwysedd i chi rhwng eich gwaith a'r cartref.

Gall Gweithgaredd 5 eich helpu i ystyried hyn. Os nad oes gennych lawer o brofiad o waith â thâl, meddyliwch am y ffordd rydych yn mynd i'r afael â gweithgareddau neu brosiectau eraill rydych yn gysylltiedig â nhw.

Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   a graddiwch bob datganiad. Ceisiwch osgoi dewis gradd 3 'Ddim yn wir neu'n anwir', os yw'n bosibl. Yna adiwch eich sgorau ar gyfer y cwestiynau ag odrifau ac eilrifau. Tynnwch y sgôr ar gyfer cwestiynau ag eilrifau o'r sgôr ar gyfer cwestiynau ag odrifau, hyd yn oed os bydd yn rhoi rhif minws.

Beth oedd eich sgôr?

Gadael sylw

Os oes gennych sgôr plws (+), po fwyaf yw'r sgôr, y cryfaf yw'ch uchelgais. Os gwnaethoch sgorio +20, er enghraifft, byddech wastad yn rhoi gwaith yn gyntaf ac yn anelu'n uchel o ran eich cyflawniadau. Gellid hyd yn oed ystyried eich bod yn gaeth i'ch gwaith.

Os oes gennych sgôr minws (-), nid ydych yn ystyried mai gwaith yw'r agwedd bwysicaf ar eich bywyd. Ar ben isaf y raddfa (er enghraifft, os gwnaethoch sgorio –20), byddech yn rhoi eich bywyd cymdeithasol cyn gwaith, ni fyddech yn poeni rhyw lawer am ddatblygu eich gyrfa ac efallai y cewch eich ystyried yn berson didaro.

Os oes gennych sgôr mwy canolog, rydych yn sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden. Rydych yn poeni am wneud yn dda a datblygu yn y gwaith, ond nid ydych yn caniatáu iddo reoli eich bywyd.

A yw cwblhau'r gweithgaredd hwn wedi newid y radd a nodwyd gennych o ran 'cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith' yng Ngweithgaredd 4? A yw hyn fwy neu lai yn iawn i chi, neu a hoffech newid yr agwedd hon ar eich bywyd?

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 4 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.