6.2 Dysgu sut i fireinio eich syniadau
Ni waeth pa mor glir ydych chi am yr opsiynau gwaith rydych yn eu ffafrio, mae'n ddefnyddiol ystyried pa mor dda maent yn cyfateb i chi fel person, eich amgylchiadau presennol a'ch cynlluniau bywyd. Yn yr adran hon, fe'ch gwahoddir i ddysgu mwy am un math o waith a'r hyn y byddai'n ofynnol i chi ei wneud.
Y ffordd orau o wneud hyn yw os gallwch nodi math penodol o waith neu lwybr gyrfa penodol sydd o ddiddordeb i chi. Er enghraifft, efallai eich bod wedi nodi gyrfa yn y sector manwerthu fel rhywbeth a fyddai'n addas i chi. Fel arall, efallai bod gennych ddiddordeb mewn gwaith gwirfoddol ac yn teimlo y byddai gweithio i fanc bwyd, neu elusen arall sy'n helpu pobl, yn werth chweil. Ni waeth sut rydych yn teimlo, mae angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil ar y cyfleoedd sydd ar gael i wneud y math hwn o waith.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi wybod ble i edrych, ac mae'n bosibl na fydd cymorth bob amser yn dod o'r lle amlycaf. Mae Tabl 1 yn rhestru'r bobl neu'r sefydliadau y gallech eu defnyddio, a'r wybodaeth y gallech ofyn amdani.
Ffynhonnell | Disgrifiad o wybodaeth |
Colofnau busnes papurau newydd | Gallant gynnwys erthyglau sy'n rhagfynegi pa sectorau cyflogaeth fydd yn recriwtio neu sy'n dirywio. |
Eich cysylltiadau lleol | Efallai y byddant yn clywed am swyddi lleol ac, os ydynt yn gwybod beth rydych yn chwilio amdano, gallant roi gwybod i chi. |
Gwefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol | Gwefan y llywodraeth sy'n cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau. |
Y Ganolfan Byd Gwaith | Yn ogystal â swydd wag â thâl, mae ganddi wybodaeth am waith gwirfoddol a'ch hawliau o ran chwilio am waith. |
Ffrindiau a theulu | Efallai y bydd ganddynt wybodaeth uniongyrchol am y math o waith rydych am ei wneud, yn gwybod a yw eu sefydliadau yn recriwtio neu'n diswyddo pobl mewn rhai meysydd, neu'n gwybod am gysylltiadau da y gallant eich cyflwyno iddynt. |
Tudalennau swyddi papurau newydd lleol | Maent yn rhoi syniad da o'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano ar gyfer mathau penodol o waith, a pha mor aml y mae'r swyddi hynny yn cael eu hysbysebu. |
Cylchgronau sefydliadau proffesiynol | Maent yn hysbysebu swyddi sy'n benodol i'w proffesiwn a gall hyn rhoi syniad da i chi o arbenigeddau yn y maes. |
Gwefannau sefydliadau proffesiynol | Maent yn egluro'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y math o waith a'r hyfforddiant sydd ar gael. |
Gwefannau sefydliadau | Mae llawer ohonynt yn cynnwys adran 'gyrfaoedd' neu 'gweithio gyda ni' sy'n nodi'r math o amgylchedd gwaith a gynigir a'r mathau o swyddi sydd ar gael. |
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol | Mae'n rhoi gwybodaeth am swyddi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac yn dadansoddi swyddi gweithlu'r DU yn ôl sector. Mae hefyd yn edrych ar newidiadau yn y diwydiant. |
Rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol | Ffynhonnell wybodaeth newydd sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â swyddi a sefydliadau. |
Rhaglenni radio | Gall rhaglenni lleol gyflwyno adroddiadau ar fusnesau newydd sy'n cael eu sefydlu yn yr ardal. |
Hysbysfyrddau cymunedol | O bryd i'w gilydd, byddant yn nodi hysbysebion ar gyfer swyddi lleol, fel gweithredu fel clerc i'r cyngor. |
Siambr Fasnach Leol | Gall cyfarfod â phobl drwy'r rhwydwaith hwn olygu y byddwch yn clywed am swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu. Mae hyn yn wir am lawer o rwydweithiau proffesiynol. |
Gweithgaredd 9
Yn y gweithgaredd hwn, bydd angen i chi ddewis tair o'r ffynonellau gwybodaeth posibl hyn y gallwch eu defnyddio nawr. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych, ond gall olygu mai chwilio ar y rhyngrwyd yw'r unig opsiwn sydd ar gael i chi ar hyn o bryd. Gallwch archwilio ffynonellau defnyddiol eraill ar adeg arall.
Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y tair ffynhonnell rydych am eu defnyddio a pham. Yna nodwch eich meddyliau yn y blwch isod. Er enghraifft, efallai bod gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector manwerthu ac felly'n penderfynu edrych ar wefannau archfarchnadoedd neu siopau adrannol. Efallai yr hoffech gadarnhau hefyd a oes cylchgrawn arbenigol ar gael ar gyfer y sector manwerthu a mynd i'ch llyfrgell leol i edrych ar un neu ddau gopi.
Sylwadau
Ar ddiwedd y gweithgaredd hwn, efallai y gwnaethoch ganfod mai chwilfrydedd pur oedd yn gyfrifol am y ffaith eich bod wedi dewis ffynonellau penodol, am eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo, neu am eu bod yn hawdd neu'n ymarferol, neu'n bleserus i chi mewn rhyw ffordd.
Cyn i chi fynd at eich ffynonellau am wybodaeth, mae'n hollbwysig eich bod yn gwybod beth rydych am ei ganfod o'r cychwyn cyntaf. Bydd y gweithgaredd nesaf hwn yn eich helpu i drefnu eich syniadau.