6.3 Cwestiynau i'w gofyn
Os nad ydych yn gwybod beth hoffech chi ei wybod, ni fydd gennych unrhyw ffordd o ddechrau ymchwilio i gyfleoedd gwaith gwahanol – ni fyddwch yn gwybod ble i gychwyn! Felly, nod y gweithgaredd nesaf yw eich helpu i nodi rhai cwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt. Ar y cam hwn, gall y mathau hyn o gwestiynau fod yn ddefnyddiol:
- Beth yw argaeledd math penodol o waith?
- Beth yw natur math penodol o waith?
- A yw'r gwaith yn gysylltiedig â math penodol o sefydliad?
- Beth yw'r pethau ymarferol, fel cyflog, patrymau gweithio neu leoliad?
Pa un o'r cwestiynau hyn sydd bwysicaf i chi ar hyn o bryd? Gall eich ateb ddibynnu ar ba mor glir ydych chi am y math o waith rydych ei eisiau, eich cymhellion ar gyfer gwneud y gwaith a'r amserlen sydd gennych mewn golwg. Er enghraifft, os ydych eisoes yn gweithio ond yn brin o arian, efallai yr hoffech chwilio am waith ychwanegol a fydd yn cyd-fynd â'ch swydd bresennol. Yn yr achos hwn, byddai argaeledd gwaith ac agweddau ymarferol fel yr opsiwn i weithio ar y penwythnosau neu gyda'r nos yn bwysicach i chi. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn llwybr gyrfa ond yn ystyried sector cyflogaeth gwahanol, efallai y bydd gennych gwestiynau am y mathau o sefydliadau yn eich ardal a ph'un a oes gwaith ar gael.
Er mwyn eich helpu i benderfynu pa gwestiynau i'w hateb, yn y gweithgaredd nesaf rydych yn mynd i ystyried sefyllfa Christopher eto.
Gweithgaredd 10
Mae Christopher wedi penderfynu ei fod am fwrw ymlaen â'r syniad o fod yn fecanig. Ewch ati i ystyried pa gwestiynau y mae angen iddo eu gofyn, sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
- argaeledd y gwaith
- natur y gwaith
- mathau o sefydliadau
- elfennau ymarferol y gwaith.
Gadael sylw
Nid dyma'r unig gwestiynau y gellir eu gofyn, ond mae'n dangos sut y gall defnyddio'r categorïau gwahanol o gwestiynau eich helpu i nodi cwestiynau defnyddiol i'w hystyried.
- Sawl garej sydd yn fy nhref? (Argaeledd)
- Sawl swydd mecanig sy'n cael ei hysbysebu ar y funud/sydd wedi cael ei hysbysebu dros y chwe mis diwethaf? (Argaeledd)
- Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i fod yn fecanig? (Elfennau ymarferol)
- Beth mae mecanig car yn treulio'r rhan fwyaf o amser yn ei wneud? (Natur y gwaith)
- A yw mecanig car yn treulio'i holl amser yn trwsio ceir neu a oes tasgau eraill y mae angen iddo eu gwneud? (Natur y gwaith)
- A oes gwahaniaeth rhwng gweithio i gadwyn o garejys (fel Kwik Fit) a gweithio i garej annibynnol? (Math o sefydliad)
- Faint y gallaf ddisgwyl ei ennill fel mecanig? (Elfennau ymarferol)
- Faint o amser y byddai'n ei gymryd i mi hyfforddi fel mecanig? (Elfennau ymarferol)
Defnyddiwch y syniadau hyn ar gyfer cwestiynau pan fyddwch yn meddwl am eich sefyllfa eich hun yn y gweithgaredd nesaf.
Gweithgaredd 11
Atgoffwch eich hun o'r tair ffynhonnell wybodaeth a ddewiswyd gennych yng Ngweithgaredd 9, a nodwch dri chwestiwn y gallai fod yn ddefnyddiol i chi eu gofyn. Defnyddiwch y mathau o gwestiynau a restrir uchod i'ch helpu. Er enghraifft, efallai eich bod wedi rhestru 'Y Swyddfa Ystadegau Gwladol' fel un o'r ffynonellau y byddwch yn eu hystyried. Os felly, gallech ofyn y cwestiynau canlynol:
- Beth yw'r duedd ar gyfer datblygwyr meddalwedd yn y DU? A yw nifer y gweithwyr cyflogedig yn cynyddu neu'n gostwng?
- Ym mha sectorau diwydiant y mae'r rhan fwyaf o ddatblygwyr meddalwedd yn dueddol o gael eu cyflogi?
- Pa mor gyfoes yw'r ffigurau ar y wefan bresennol? A oes angen i mi gadarnhau hyn yn rhywle arall hefyd?
Fe welwch fod y cwestiynau yma yn ymwneud ag argaeledd yn bennaf. Fodd bynnag, bydd y math o gwestiwn a ofynnir gennych yn gysylltiedig â'r ffynhonnell berthnasol rydych yn ei defnyddio – dylech ystyried hyn yn ofalus wrth lunio eich cwestiynau eich hun.
Nawr ewch i'r [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau a nodwch y ffynonellau gwybodaeth a ddewiswyd gennych a'r cwestiynau a allai lywio'ch ymchwil. Mae'r tabl isod yn rhoi enghraifft o'r ffordd y dylech fynd ati i wneud hyn.
Tabl 2 Enghraifft o rai cwestiynau
Ffynhonnell wybodaeth | Fy nhri chwestiwn |
---|---|
Gwefan banc bwyd | A oes unrhyw fanciau bwyd yn agos at fy nghartref? A yw'n bosibl eu cyrraedd ar fws? Pa fath o waith y maent yn gofyn i wirfoddolwyr ei wneud?
|
Gadael sylw
Rydych yn mireinio eich syniadau wrth i chi weithio drwy'r broses hon. Ar hyn o bryd, dylech deimlo'n fodlon gyda'ch cynnydd. Eisoes, mae gennych:
- syniadau o'r gwaith rydych am ymchwilio iddo
- tair ffynhonnell wybodaeth rydych yn mynd i'w defnyddio
- rhai cwestiynau i'ch tywys pan fyddwch yn mynd at y ffynonellau gwybodaeth.
Nawr bod gennych restr o gwestiynau, gallwch ddechrau ymchwilio i'r hyn rydych am ei wybod.