Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.4 Dod o hyd i'ch atebion

Y cam nesaf yw dod o hyd i'r atebion i'ch cwestiynau. Mewn geiriau eraill, ewch ati i ymchwilio. Dyma'r math o weithgaredd y gallwch dreulio sawl awr yn ei wneud heb i chi sylweddoli. Mae hynny'n iawn os oes gennych ddigon o amser; fel arall, cadwch lygad ar y cloc a threuliwch hanner awr ar y mwyaf yn gwneud eich ymchwil. Os na fyddwch yn llwyddo i gael atebion i bob un o'ch cwestiynau nawr, dychwelwch i'r gweithgaredd yn ddiweddarach i'w orffen. Bydd gennych ddigon o amser ym Mloc 3 i edrych dros yr hyn rydych wedi'i wneud, a phenderfynu a oes unrhyw beth arall y gallwch ei wneud a fyddai'n atgyfnerthu eich cynllun gweithredu.

Gweithgaredd 12

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi profiad ymarferol i chi o ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a gwerthuso pa mor dda y mae eich dyheadau gwaith yn cyfateb i'r hyn sydd ar gael.

Yn gyntaf, edrychwch am atebion i'r cwestiynau a nodwyd gennych yng Ngweithgaredd 11. Treuliwch yr un faint o amser ar y tair ffynhonnell wybodaeth a nodwyd gennych fel rhai defnyddiol. Nodwch unrhyw wybodaeth y dewch o hyd iddi, yn ogystal â ffynhonnell y wybodaeth (rhag ofn y byddwch am ddod o hyd iddi eto).

Pan fyddwch wedi gwneud hyn, defnyddiwch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   i drefnu'r wybodaeth o dan y categorïau canlynol:

  • argaeledd y gwaith
  • natur y gwaith
  • mathau o sefydliadau
  • elfennau ymarferol y gwaith.

Gadael sylw

Os yw unrhyw un o'r pedwar categori yn wag, gall hyn fod yn arwydd o'r wybodaeth y mae angen i chi ei chyrchu o hyd, felly gwnewch nodyn o'r rhain hefyd. Gallwch ddychwelyd i'r cwestiynau yn ddiweddarach.

Nawr eich bod wedi cael cyfle i wneud rhywfaint o ymchwil i un math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo, cofiwch y prosesau hyn ar gyfer unrhyw gyfleoedd gwaith eraill a nodwyd gennych, i'w hystyried yn y dyfodol. Mae'n bryd meddwl mwy am y wybodaeth y gwnaethoch ei datgelu.