6.6 Gwneud dewisiadau a dal ati
Ar hyn o bryd, efallai eich bod yn teimlo wedi'ch gorlethu gan yr holl opsiynau gwaith posibl, ac mae hynny'n ddealladwy. Gall y gwaith a'r myfyrio rydych yn eu gwneud ar y cwrs hwn deimlo'n heriol ar brydiau. Efallai bod llawer gormod o opsiynau yn eich tŷb chi, sy'n gwneud i chi deimlo'n ansicr. Er eich bod yn gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, nid yw'r teimladau hyn o reidrwydd yn beth gwael – gallant fod yn arwydd eich bod yn bwrw ati â'r newidiadau rydych am eu gwneud.
Felly, os byddwch yn teimlo'n ddigalon neu os na fydd yr awydd gennych i barhau i archwilio'r opsiynau, gallai rhai o'r awgrymiadau canlynol helpu:
- Rhowch flaenoriaeth i'r opsiynau y credwch y gallech wneud iddynt ddigwydd o fewn y tri i chwe mis nesaf yn unig.
- Ewch ati i raddio'r opsiynau – rhowch 3 phwynt iddynt os ydynt yn apelio'n fawr, 2 bwynt os oes ganddynt rywfaint o apêl a dim ond 1 pwynt os nad ydynt yn apelio i chi. Yna canolbwyntiwch ar yr un neu ddau opsiwn â'r sgorau uchaf.