Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.7 Eich paru chi a'r gwaith

Efallai bod eich gwaith ym Mloc 2 wedi datgelu materion ymarferol y gallech eu hwynebu os ydych am wneud math penodol o waith. Er enghraifft, efallai nad yw'r gwaith y byddai'n well gennych ei wneud ar gael yn eang yn eich ardal, neu efallai eich bod wedi darganfod bod y math o waith gwirfoddol rydych am ei wneud yn cael ei gyfyngu i brif swyddfa'r sefydliad, sy'n rhy bell i ffwrdd.

Gweithgaredd 13

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Cyn i chi adael i faterion fel hyn ddominyddu eich meddwl, ystyriwch yr amserlen sydd gennych ar gyfer dod o hyd i'r math o waith rydych yn ei ffafrio. Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi eich hun a nodwch yr atebion:

  • Pa mor hir rydych yn barod i weithio i ddatblygu eich gyrfa a chael y swydd rydych ei heisiau?
  • Oes gennych chi derfyn amser ar gyfer cael mynediad i'r swydd rydych ei heisiau?
  • Oes gennych chi amser i astudio ar gyfer unrhyw gymwysterau angenrheidiol?
  • Oes gennych chi unrhyw opsiynau eraill?
  • Oes ffyrdd eraill o gael mynediad i'r swydd?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai na fyddwch yn teimlo bod angen i chi ateb y cwestiynau hyn nawr, ac mae hynny'n iawn. Fel arall, os oes gennych bryderon, efallai yr hoffech nodi'r hyn rydych yn ei feddwl. Mae hyn yn eich galluogi i anghofio am y problemau am nawr a symud ymlaen. Gallwch wastad ddychwelyd i'r cwestiynau hyn a'ch myfyrdodau yn ddiweddarach.

Yn gynharach, gwnaethoch ystyried eich dewis swyddi yn seiliedig ar eich galluoedd, eich gwerthoedd, eich diddordebau a'ch amgylchiadau personol. Fel arfer, dim ond pan fyddwch yn dechrau edrych ar yr hyn sydd ar gael y byddwch yn darganfod nad yw mor hawdd â hynny i ddod o hyd i gyfleoedd swyddi sy'n cyfateb i'r hyn rydych yn ei ffafrio. Ceisiwch beidio â digalonni. Efallai y gallwch ailhyfforddi neu ddod o hyd i swyddi tebyg y gallwch wneud cais amdanynt. Efallai bod angen i chi feddwl yn fwy hyblyg er mwyn manteisio ar yr hyn sydd ar gael.

Cyn symud ymlaen i Weithgaredd 14, atgoffwch eich hun o'r hyn rydych eisoes wedi'i gyflawni. Dylech ond canolbwyntio ar y pethau rydych wedi'u gwneud, nid y pethau y gallech fod wedi'u hepgor. Bydd unrhyw beth y gallwch ei wneud ar y cwrs hwn yn wych, gan y bydd yn golygu eich bod yn symud ymlaen. Cofiwch y bydd gennych eich nodiadau y gallwch ddychwelyd atynt unrhyw bryd yn y dyfodol. Gallwch fynd i'r afael â phethau eto pan fyddwch yn teimlo'n barod ac yn abl i wneud hynny.

Gweithgaredd 14

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Yn gyntaf, darllenwch yn ôl drwy eich nodiadau a nodwch y math o waith rydych am ddod o hyd iddo. Nesaf, ewch ati i ystyried a yw unrhyw un o'r wyth opsiwn yn Adran 6.5 yn esgor ar ffyrdd o weithio nad oeddech wedi'u hystyried yn flaenorol. Er enghraifft, allwch chi gyfuno dau fath o waith rhan amser? Allech chi sefydlu busnes bach gartref, ochr yn ochr â'ch swydd bresennol os bydd angen? A fyddai'n ymarferol i chi wneud gwaith dros dro, fel ffordd o ddysgu mwy am y mathau o waith a chyflogwyr sy'n apelio atoch?

Gwnewch rai nodiadau mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol:

  1. Pa batrymau gwaith nad oeddech wedi'u hystyried yn flaenorol?
  2. A yw unrhyw un ohonynt yn apelio atoch? Os felly, pam?
  3. A allai unrhyw un ohonynt fod yn 'bont' neu'n 'garreg gamu' i'r gwaith rydych am ei wneud?
  4. Pa gwestiwn/cwestiynau ymchwil sy'n deillio o hynny? Beth allai fod angen i chi ei wybod er mwyn profi hyfywedd eich syniadau newydd?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Yn yr un modd â llawer o'r gweithgareddau ar y cwrs, bydd yr ateb a rowch yn bersonol i chi. Beth bynnag ydyw, mae'n cynrychioli cynnydd gwirioneddol yn y broses o gynllunio gyrfa – felly da iawn!