Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Ble nesaf?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau Cynllunio dyfodol gwell, a gobeithio bod y cwrs wedi'ch ysbrydoli i barhau i ddysgu. Nodir isod rai dolenni allweddol ar gyfer ble y gallech fod am fynd nesaf.

Datblygu eich gyrfa

Gwirfoddoli

Efallai yr hoffech ystyried gwirfoddoli i ymestyn a gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallai'r gwefannau hyn eich helpu i feddwl am eich opsiynau:

Mwy o gyrsiau anffurfiol am ddim

Mae Cynllunio dyfodol gwell yn un o gyfres o chwe chwrs. Efallai yr hoffech astudio un o'r pump arall.

Mae'r Brifysgol Agored hefyd yn cynnig rhagor o gyrsiau rhagarweiniol ar-lein a chyrsiau sgiliau ar gyfer astudio, y mae pob un ohonynt ar gael am ddim ar-lein.

Mae FutureLearn hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein y gallech fod am eu hystyried.

Y Brifysgol Agored

Efallai yr hoffech ystyried dilyn un o gyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored i'ch paratoi i astudio'n llwyddiannus tuag at gymhwyster addysg uwch a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau y gallech fod am eu hystyried.

Gwefan PEARL

Mae Addysg Rhan Amser ar gyfer Oedolion sy'n Dychwelyd i Ddysgu (PEARL) yn wefan ddefnyddiol i oedolion sy'n chwilio am gyfleoedd astudio rhan amser, gan gynnwys pob math o ddarpariaeth o gyrsiau am ddim nad ydynt wedi'u hachredu i gyfleoedd dysgu lefel uwch.