4 Beth yw fy mhrif gyflawniadau?
Yng Ngweithgaredd 4, gofynnwyd i chi nodi cyflawniadau penodol – pethau rydych yn eu hystyried yn llwyddiannau personol. Gallai'r rhain fod yn gysylltiedig â gwaith, cydberthnasau neu bethau rydych yn eu gwneud yn eich amser rhydd. Er enghraifft, gallai'r ffaith eich bod wedi llwyddo i basio pob un o'ch arholiadau y tro cyntaf ddangos eich bod yn fyfyriwr ardderchog; gallai'r ffaith eich bod wedi pasio eich prawf gyrru ar eich pumed ymgais ddweud llawer am eich dyfalbarhad a'ch penderfyniad. Cofiwch, mae a wnelo hyn â'r pethau rydych chi'n eu hystyried yn llwyddiant – wedi'r cyfan, chi sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eich amgylchiadau personol a'r rhwystrau rydych wedi gorfod eu goresgyn er mwyn cyflawni nod penodol.
Gweithgaredd 5
Edrychwch yn ôl ar y llinell bywyd a luniwyd gennych yng Ngweithgaredd 1, y rolau rydych wedi'u chwarae a'r profiadau rydych wedi'u cael. Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a nodwch y cyflawniadau rydych yn fwyaf balch ohonynt. Yna, meddyliwch am y wybodaeth a'r galluoedd a ddefnyddiwyd gennych er mwyn cyflawni'r hyn a wnaethoch. Efallai eich bod wedi gorfod dysgu techneg newydd, neu ddefnyddio neu ddatblygu sgil a oedd gennych eisoes.
Mae Tabl 1 yn enghraifft o dabl sydd wedi'i gwblhau.
Dechrau'r Tabl
Yr hyn a gyflawnais | Sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau a ddefnyddiwyd/a oedd yn ofynnol |
---|---|
Pasio fy mhrawf gyrru | Roedd yn rhaid i mi ddangos bod fy sgiliau gyrru yn cyrraedd y safon ofynnol. Roedd yn rhaid i mi fod yn hyderus yn fy ngallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau. Roedd yn rhaid i mi basio prawf i ddangos fy mod yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr. |
Cymhwyso fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctid | Roedd yn rhaid i mi ddysgu sgiliau hyfforddi (theori ac ymarferol). Mae'n rhaid i mi allu cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc a'u rhieni. Wedi ennill cymhwyster cymorth cyntaf. Mae'n rhaid i mi hyrwyddo agwedd gadarnhaol ymhlith aelodau'r tîm ac arwain drwy esiampl. |
Dod yn rhiant | Roedd yn rhaid i mi ddysgu am yr hyn sydd ei angen ar fabanod a phlant bach i'w cadw'n hapus ac yn iach. Wedi dod i wybod am faeth da i blant a sut i ddelio â salwch cyffredin sy'n effeithio ar blant. Roedd angen i mi drefnu pethau'n well wrth gynllunio gwibdeithiau ac ati. |
Codi £6000 i elusen ganser drwy drefnu arwerthiant elusennol | Roedd yn rhaid i mi drefnu lleoliad. Wedi hyrwyddo'r digwyddiad a gwerthu tocynnau. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio fy rhwydwaith teulu a ffrindiau i gasglu eitemau ar gyfer yr arwerthiant. Roedd yn rhaid i mi drefnu darpariaeth arlwyo ac adloniant ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid i mi reoli'r gyllideb fel bod y digwyddiad yn codi'r swm a nodwyd fel targed. Defnyddiais sgiliau TG sylfaenol (Word, Excel a'r rhyngrwyd) i drefnu agweddau gwahanol ar y digwyddiad. Roedd yn rhaid i mi ddangos cymhelliant a phenderfyniad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant a sgiliau rhyngbersonol da er mwyn darbwyllo pobl i gymryd rhan a helpu allan. |
Sicrhau lle yn y coleg | Cefais fy niswyddo (o swydd heb ddyfodol) a phenderfynais fod angen i mi newid cyfeiriad fy ngyrfa. Cefais wybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd gan y ganolfan gwaith, fy llyfrgell leol a'r gwasanaeth gyrfaoedd. Penderfynais fy mod am weithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden a gwneud gyrfa ohono. Dysgais y byddai angen rhai cymwysterau arnaf er mwyn cychwyn ar y lefel gywir, felly ymchwiliais i gyrsiau perthnasol a oedd yn cael eu cynnal yn lleol a gwnes gais am le. Roedd yn rhaid i mi fynd i gyfweliad a darbwyllo'r cyfwelydd fy mod i'n wirioneddol ymrwymedig i'r cwrs (gwnaeth fy mhrofiad o hyfforddi tîm pêl-droed ieuenctid fy helpu yn hyn o beth). Roedd yn rhaid i mi ddangos fy mod i'n hyderus yn fy ngallu i wneud y cwrs a dangos sgiliau cyfathrebu da yn ystod y broses gwneud cais a'r cyfweliad. |
Pa rai o'r sgiliau neu'r rhinweddau a restrwyd gennych allai gael eu defnyddio mewn sefyllfa waith? Mae'n debygol y byddwch wedi nodi rhai 'sgiliau trosglwyddadwy' (fel sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu) a rhinweddau a fyddai'n ddefnyddiol mewn sawl math gwahanol o waith.
Sut gallaf roi tystiolaeth o'm cyflawniadau?
Nawr eich bod wedi nodi eich galluoedd, byddai'n ddefnyddiol i chi feddwl am y dystiolaeth y gallwch ei rhoi i'w cefnogi. Gofynnir yn aml ar ffurflen gais i chi roi enghraifft o adeg pan wnaethoch ddefnyddio sgil penodol yn effeithiol neu ddangos gwybodaeth mewn maes penodol. Os ydych yn honni bod gennych alluoedd penodol, disgwylir i chi roi tystiolaeth i ategu'r honiad hwnnw.
Wrth feddwl am dystiolaeth, gall fod yn ddefnyddiol i chi feddwl am ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys eich astudiaethau, gwaith (tâl neu ddi-dâl) a hobïau. Er mwyn rhoi strwythur i'r hyn rydych yn ei ysgrifennu ar ffurflen gais, gallech ddefnyddio'r dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Camau gweithredu, Canlyniadau yn y Saesneg).
Gweithgaredd 6
Dyma ddwy enghraifft, sy'n defnyddio un neu ddau o'r cyflawniadau a nodwyd yn Nhabl 1, i ddangos sut y gellir defnyddio dull STAR os gofynnir i chi am eich sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu wrth wneud cais am swydd:
- Gweinyddol/trefnu: Er mwyn codi arian i elusen ganser (sefyllfa), trefnais arwerthiant elusennol llwyddiannus (tasg): llogi'r lleoliad, llunio amserlen ar gyfer y digwyddiad, sicrhau rhoddion ar gyfer yr arwerthiant gan ffrindiau, teulu a busnesau lleol, rheoli'r gyllideb a gwerthu tocynnau (camau gweithredu). Llwyddwyd i godi mwy na £6000 yn erbyn targed o £5000 (canlyniad).
- Cyfathrebu: Yn fy rôl fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctid (sefyllfa), mae'n rhaid i mi gyfathrebu'n effeithiol â grwpiau gwahanol o bobl; chwaraewyr, rhieni a swyddogion (tasg). Mae'n hanfodol fy mod yn nodi'n glir yr hyn rwy'n ei ddisgwyl gan y chwaraewyr o ran tactegau ac ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm. Mae'n rhaid i mi hefyd ddelio'n sensitif â dadleuon sy'n codi weithiau rhwng rhieni yng ngwres y funud a lleddfu sefyllfaoedd. Rwy'n cyfathrebu â swyddogion mewn ffordd broffesiynol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin â pharch camau gweithredu). Mae fy sgiliau cyfathrebu effeithiol yn golygu bod gemau yn cael eu chwarae yn yr ysbryd cywir ac mae'r ffaith mai fy nhîm i enillodd y tlws chwarae'n deg y tymor diwethaf yn dystiolaeth o hynny (canlyniad).
Nawr eich tro chi yw hi. Edrychwch yn ôl ar eich rhestr o gyflawniadau a'r galluoedd cysylltiedig. Meddyliwch sut y gallech ddefnyddio dull STAR i gyflwyno eich cyflawniadau ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad pe bai gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Cofiwch fod nodi a rhoi tystiolaeth o'ch galluoedd yn allweddol wrth farchnata eich hunan i gyflogwr.
Rydych nawr wedi cwblhau Adran 4 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.