Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Blogiau – Blaenau Gwent REACH

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Ysgrifennwyd y blogiau hyn gan aelodau o dîm BG REACH. Cawsant eu llunio ar adegau gwahanol a, gyda'i gilydd, maent yn ffurfio rhyw fath o gofnod o'r prosiect dros amser. Maent yn dangos sut beth oedd gweithio gyda chymunedau ysbrydoledig Blaenau Gwent.

Aelodau o dîm prosiect BG REACH gyda Grŵp Cymunedol Aberbîg.

Mwy na dim ond cyfres o weithdai ar y celfyddydau creadigol

1 Mawrth 2020

Gan Richard Marsden, Cyfarwyddwr Addysgu Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn Y Brifysgol Agored. Ef oedd Arweinydd Academaidd prosiect BG REACH.


Cafodd prosiect BG REACH ei greu mewn ansicrwydd a'i gyflwyno ar frys. Ar adeg ysgrifennu hwn, mae'r coronafeirws wedi llesteirio ei hynt hefyd. Ond eto i gyd, mae wedi blodeuo'n rhywbeth hyfryd; ymhell y tu hwnt i'm syniad annelwig ac anffurfiedig gwreiddiol.

Ar 5 Medi 2019, cyhoeddodd Ymchwil ac Arloesi yn y DU gronfa i gefnogi prosiectau ymchwil ‘seiliedig ar ardaloedd’ gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 21 Hydref 2019. Dim ond chwe wythnos oedd gennym felly i feithrin partneriaeth â'r Brifysgol Agored, Linc Cymru a Grŵp Cymunedol Aberbîg, i greu cynllun roedd pawb yn fodlon arno, a chyflwyno cais llwyddiannus. A dweud y gwir, roedd yn ras wyllt i gael popeth yn barod. Cawsom wybod bod y cais yn llwyddiannus ar 27 Tachwedd 2019, ond roedd gofyniad ynghlwm wrth y swm o ryw £37,500 roeddem wedi'i ennill – roedd yn rhaid i'r prosiect ddechrau ar 2 Rhagfyr 2019 – ymhen pum diwrnod! Aeth pawb ati fel lladd nadroedd, er bod prosesau biwrocrataidd iawn Y Brifysgol Agored o ran cyllid a phartneriaethau yn fwy o drafferth na'u gwerth.

Ond gwnaethom ddod i ben, a hynny'n bennaf diolch i waith caled a brwdfrydedd ein partneriaid yng Ngrŵp Cymunedol Aberbîg a Chartref Gofal Llys Glyncoed. Nhw fu'n brysur yn ennyn diddordeb pobl yn y prosiect, gan weithio ddydd a nos yn dosbarthu taflenni, cynnal digwyddiadau lansio, hyrwyddo'r prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol ac achub ar bob cyfle i siarad amdano. Diolch iddyn nhw, mae dros 100 o bobl wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau BG REACH ers dechrau mis Chwefror 2020.

Baneri yn dangos y gwahanol weithdai BG REACH

At hynny, mae BG REACH wedi dod yn llawer mwy na dim ond cyfres o weithdai ar y celfyddydau creadigol sy'n adeiladu tuag at arddangosfa. Y sesiynau hynny sydd wrth wraidd y prosiect o hyd ond, yn seiliedig ar awgrymiadau gan ein cyfranogwyr, mae llawer mwy wedi cael ei ychwanegu ato. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chôr ysgol gynradd leol ar gân am hanes lleol a gaiff ei pherfformio yn lansiad arddangosfa'r prosiect. Mae atgofion preswylwyr Llys Glyncoed bellach yn cael eu recordio a'u troi'n straeon digidol gan ddisgyblion ysgol uwchradd leol. Mae'r cerddi a'r straeon byrion a ysgrifennwyd gan bobl yn y gweithdai ysgrifennu creadigol yn cael eu recordio gan actor proffesiynol. Ac mae'r darnau a grëwyd gan aelodau o'r gymuned a oedd yn rhan o'r sesiynau celf weledol yn cael eu cyfuno i greu un croglun mawreddog. Nid oedd yr un o'r elfennau hyn yn rhan o'm syniad gwreiddiol ar gyfer y prosiect. Ac nid oedd yr un ohonynt yn rhan o'r cais am gyllid chwaith. Mae'r cyfan wedi datblygu'n ddigon annisgwyl, diolch i syniadau ein cyfranogwyr gwych.

Mae jargon ymchwil yn cyfeirio at y math hyn o beth fel ‘cydlunio’, ‘cydgynhyrchu’ a ‘chyd-greu’. Ond, yn ei hanfod, mae'n golygu gweithio gyda phobl fel partneriaid ymchwil yn hytrach na thestunau. Nid yw'n hawdd gwneud hyn bob amser; mae prifysgolion, cyrff cyllido a hyd yn oed cymdeithasau tai yn aml yn destun prosesau anhyblyg a dryswch biwrocrataidd. Ond mae'r prosiect hwn eisoes wedi dangos ei bod hi'n sicr yn werth gwneud yr ymdrech. Rwy'n ysu i gael ailddechrau! Ymlaen, BG REACH, ymlaen…!

Gweithdai celf / hanes celf

15 Mawrth 2020

Gan Dr Veronica Davies sydd yn addysgu Hanes Celf i'r Brifysgol Agored. Cynhaliodd y gweithdai celf weledol a oedd yn rhan o BG REACH.


Lansio'r gweithdai celf

Cymerodd hi gryn dipyn o amser i ddod o hyd i ganolfan gymunedol Aberbîg, lleoliad ein cyfres o weithdai, ar gyfer y digwyddiad lansio fore Sadwrn, ond pan wnaethom ni, cefais fy siomi ar yr ochr orau o weld pa mor addas oedd y lle ar gyfer y math o beth a oedd gennym mewn golwg – cyfuniad o hanes celf a gwaith celf ymarferol. Roedd y baneri a oedd yn hysbysebu'r gweithdai'n drawiadol, ac roedd hyd yn oed wal wag dda lle gallem daflunio sleidiau! Yr agwedd galonogol arall ar y bore oedd cael cwrdd â rhai o'r bobl a oedd wedi bod ynghlwm wrth y prosiect o'r dechrau'n deg, a rhai o'r unigolion a oedd â diddordeb yn y sesiynau oedd â llawer o gwestiynau am ein cynlluniau ac a oedd yn ysu i ddechrau arni. Gwnaethant hefyd roi llawer o wybodaeth i mi am Aberbîg a'r cyffiniau, a oedd yn awgrymu bod hen ddigon o gyfleoedd i grwydro a gweld y dreftadaeth leol, yn ychwanegol at yr hyn roeddwn i eisoes wedi ymchwilio iddo.

Yr wythnos gyntaf: bore Mercher

Roedd yn dda cael cwrdd â'r artist Andy O’Rourke ymlaen llaw, a ninnau eisoes wedi trafod y gweithdy cyntaf. Roedd y ffaith ei bod hi'n hanner tymor yn golygu bod pobl o bob oed yn bresennol. Ar ôl cael trefn ar y gwaith papur angenrheidiol, gwnaethom ddechrau gyda chyflwyniad sleidiau yn seiliedig ar y ‘Pitmen Painters’, sef grŵp o artistiaid a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn yr 1930au a'r 40au. Dewisais y pwnc hwn gan ei fod yn stori ddiddorol ynddo'i hun, a allai gysylltu â threftadaeth lofaol leol Aberbîg, a hefyd oherwydd ei bod yn ymddangos bod cysylltiadau rhwng yr hyn a wnaeth y ‘Pitmen Painters’ a'r hyn roeddem yn gobeithio ei gyflawni yn ein gweithdai. Tro Andy oedd hi wedyn, ac aethom ati i greu placiau ‘metelaidd’ yn seiliedig ar ddelweddaeth leol a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal, gan ymgorffori llythrennau Aberbîg gyda'r nod o ddechrau creu casgliad o waith i'w arddangos. Roedd hwn yn weithgaredd da iawn i ddechrau arno gan ei fod yn cyflwyno techneg a oedd yn newydd i'r bobl oedd yn cymryd rhan, ond un y gallai pawb ymuno ynddi i greu darn o waith y gallent fod yn falch ohono yn ystod yr amser a oedd ar gael ar gyfer y gweithdy.

Yr ail wythnos

Er gwaethaf llifogydd di-baid a gaeodd un o'r ffyrdd lleol, a rhybuddion eira, llwyddodd pob un ohonom i gyrraedd a chroesawyd cydweithiwr Andy, sef Kate, a ddaeth â deunyddiau gyda hi i bawb roi cynnig ar dechneg printio. Gyda hynny mewn cof, testun fy sgwrs hanes celf oedd gwaith print artistiaid, a oedd yn cynnwys print o'r Siartwyr yng Nghasnewydd a sbardunodd sgwrs. Roedd gennym grŵp ychydig yn wahanol y tro hwn, ond roedd pawb yr un mor frwdfrydig ac yn barod i gymryd rhan. Roedd y gwaith print a grëwyd gan y grŵp yn gymysgedd o ddelweddau lleol, fel ffigwr y Gwarcheidwad yn Six Bells, a rhai mwy cyffredinol, fel blodau. Unwaith eto, cafodd gwaith trawiadol ei greu a byddai'n dda ei gynnwys yn yr arddangosfa. Hefyd, bu amser i drafod ag ambell aelod o'r grŵp, gyda chymorth ychydig o sleidiau ar y gliniadur a phaentiad/gwaith collage mawr roedd Kate wedi'i wneud gyda grŵp gwahanol, sut y gallai rhai agweddau ar wniadwaith, neu decstilau'n fwy cyffredinol, gael eu hymgorffori yn y gweithdai, o ystyried y cyfyngiadau amser.

Y drydedd wythnos: prynhawn Gwener

Wrth i'r llifogydd gilio, clywn sïon bod haint ar ddod. Roedd llai o bobl y tro hwn, oherwydd hyn o bosibl, neu efallai am nad oedd y diwrnod/amser mor gyfleus. O ran hanes celf, gwnaethom ystyried genre 'golygfeydd o fywyd pob dydd' yn hanesyddol - roedd diddordeb mawr mewn gwaith y gellir ei weld yn lleol, e.e. yn Amgueddfa Cymru, ac yn y posibilrwydd o gynnal ymweliad fel grŵp. Sbardunodd paentiad Lowry o Six Bells yn benodol gryn drafod. Gwnaethom hefyd edrych ar fraslun Andy o sut y gallai'r gwaith rydym yn ei wneud gael ei arddangos, a chafwyd cefnogaeth gadarnhaol i hyn. Mae rhai pobl wedi penderfynu gweithio ar brosiectau hirach gyda chymorth ein hartistiaid, e.e. paentiad maint go iawn Barbara o dywysoges ryfelgar Geltaidd. Achubodd eraill ar y cyfle i greu rhai paentiadau llai o olygfeydd lleol gyda chymorth a chyngor Andy. Roedd yn ddiddorol, o safbwynt hanesydd celf, weld dylanwad y gwaith gan Lowry y gwnaethom edrych arno ar y rhain. Roeddem yn falch o gael y cyfle i weld rhywfaint o wniadwaith o fri a wnaed beth amser yn ôl gan un aelod o'r grŵp, sef Hilary: panel yn dangos Aberbîg mewn clogyn mawr.

Detholiad o deils o collage BG REACH

Y bedwaredd wythnos

Gwnaethom groesawu Kate yn ôl am ei hail sesiwn fel ein hartist gwadd. Mae'n amlwg bod pandemig y coronafeirws yn dechrau effeithio ar niferoedd, gan fod rhai pobl yn dewis aros gartref. Gan wybod pwy fyddai'n debygol o fod yn bresennol, ailedrychais ar y rhestr gynnar o themâu a awgrymwyd, gyda sleidiau ym maes 'Celf, gweithredu a phrotest' yn cysylltu â'r Celtiaid, y Siartwyr, celf posteri, baneri undebau glofaol, a phrosiect ‘save the canyon’ gan fod dau aelod, sef Hazel ac Emily, yn ailgydio mewn paentiad tirlun a collage yn seiliedig ar hyn. Fel roeddem wedi'i ddisgwyl cyn i'r gweithdai ddechrau, roedd pawb fwy neu lai yn bwrw ymlaen â'u prosiectau eu hunain neu brosiectau ar y cyd roeddent eisoes wedi'u dechrau erbyn hyn. Rwyf wir yn gobeithio y bydd dyhead o hyd i ailafael yn y rhain, ac y bydd rhai pobl eraill yn dychwelyd gobeithio, unwaith y gallwn ailddechrau'r gweithdai.

Harddwch a thalent Blaenau Gwent

12 Chwefror 2021

Gan Suzanne Bowers, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned – Linc Cymru


Beth ydych chi'n ei gael pan fyddwch chi'n cyfuno trigolion Blaenau Gwent, Y Brifysgol Agored a Chymdeithas Tai Linc Cymru? Prosiect ardderchog yn llawn talent, brwdfrydedd a hwyl!

Yn 2019 y cafodd BG REACH ei greu. Nod y prosiect oedd gwahodd trigolion Blaenau Gwent i archwilio eu treftadaeth gyfoethog drwy hanes, celf, ysgrifennu creadigol a cherddoriaeth. Roedd aelodau Grŵp Cymunedol Aberbîg yn gwbl gadarn am un peth: “Bob tro ni'n clywed am Flaenau Gwent ar y teledu neu yn y papurau newydd, mae mor negyddol bob amser; ni ddim moen hynny gyda'r prosiect yma. Ni am i bawb weld doniau a harddwch yr ardal.”

Pan ddechreuodd y tri phartner – Grŵp Cymunedol Aberbîg, Y Brifysgol Agored a Chymdeithas Tai Linc Cymru – siarad am greu BG REACH, roedd llawer o gyffro ond roedd cryn dipyn o ansicrwydd hefyd. Nid oedd aelodau'r grŵp cymunedol yn siŵr sut y byddai'r prosiect yn gweithio – a fyddai fel bod yn yr ysgol, gyda darlithwyr Y Brifysgol Agored yn defnyddio iaith ddieithr? Neu'n barnu gallu pobl? Roedd llawer o bobl yn bryderus iawn y byddent yn ail-fyw'r profiadau gwael a gawsant yn yr ysgol flynyddoedd yn ôl. Roedd angen i ni sicrhau bod agweddau pobl yn newid.

Nid oedd aelodau'r grŵp cymunedol yn siŵr sut y byddai'r prosiect yn gweithio – a fyddai fel bod yn yr ysgol?

Gwnaethom gysylltu â Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr i weld a fyddai rhai o'r disgyblion yn hoffi cymryd rhan. Cawsom ymateb cyflym yn dweud y byddai'n bleser ganddynt ymuno yn y prosiect. Gwnaethom esbonio yr hoffem i'r disgyblion gwrdd ag aelodau o sefydliad ‘Breaking Barriers Community Arts’.Byddent yn dysgu sut i gynnal cyfweliadau, sut i recordio sain a ffilmio fideo ac, yn olaf, sut i olygu'r deunydd. Ar ôl i'r disgyblion feistroli'r technegau, cawsant eu gwahodd i ymweld â Llys Glyncoed, cynllun Gofal Ychwanegol yng Nglynebwy, a recordio straeon y tenantiaid.

Gwnaethom benderfynu y byddai'n hyfryd pe gallai'r cyfarfod cyntaf rhwng y cenedlaethau gael ei gynnal mewn ffordd anffurfiol a hamddenol, felly gwnaethom gynnal Diwrnod Hen Bethau. Cafodd eitemau o ddegawdau yn ôl a oedd yn sbarduno atgofion eu gosod o gwmpas Llys Glyncoed a wnaeth alluogi'r disgyblion a'r tenantiaid i sgwrsio'n rhwydd. Cawsom berfformiadau gan gantorion mewn gwisgoedd 'fintej', ac ymunodd y disgyblion yn yr hwyl drwy ddawnsio a chydganu. Dywedodd un tenant, “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai diddordeb ganddynt yn yr hyn roedd gennym ni i'w ddweud, ond gwnaeth pob un ohonynt eistedd a gwrando a gofyn cwestiynau. Gwnes i fwynhau'r profiad”.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bu'r disgyblion yn ymweld â'r tenantiaid a gwnaethant lwyddo i recordio rhai atgofion hyfryd. Mae dau ddisgybl wedi penderfynu gwirfoddoli yn Llys Glyncoed ers hynny.

Celf

Dechreuodd y prosiect gyda sesiwn gelf a ddenodd lawer o bobl. Gwnaeth y bobl wir mwynhau gwrando ar Veronica a oedd wedi dod i siarad am hanes celf. Soniodd am grŵp o lowyr o Swydd Efrog a benderfynodd wahodd artist i'w sefydliad yn yr 1930au i ddangos iddynt sut i baentio. Dechreuodd rhai o'r glowyr ymddiddori cymaint ym myd celf fel y gwnaethant hwythau hefyd ddod yn artistiaid. Teimlai'r bobl gysylltiad â'r dynion hyn ar unwaith. Er i ni glywed llawer o sylwadau “Dw i ddim yn artistig iawn” o amgylch yr ystafell, defnyddiodd Andy a Kate o Malaky Arts eu sgiliau arbennig i gynorthwyo'r bobl i greu'r darnau cyntaf o waith ar gyfer y prosiect.

Lledaenodd y neges yn gyflym iawn fod y gweithdy cyntaf wedi bod yn llawer o hwyl, ac nad oedd fel amgylchedd ysgol o gwbl. Roedd y bobl i gyd mor gyfeillgar a'r tiwtoriaid yn bwrw ati gyda phawb arall. Hanes oedd nesaf. Dechreuodd Robert, y tiwtor, drwy drafod hen hanes Blaenau Gwent a Llwyth y Silwriaid – esboniodd fod olion o'r cyfnod hwnnw i'w gweld o hyd ar gopa Twmbarlwm. Dywedodd un aelod o'r grŵp, “Mae wedi rhoi awch i ddysgu i ni, ac rydym ni am wybod mwy”. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, aeth y grŵp hanes yn fwy ac yn fwy.

Ar ôl gwrando ar y sesiwn hanes am Lwyth y Silwriaid, dywedodd Babs fod yr hyn a glywodd wedi cael cymaint o effaith arni ei bod wedi penderfynu creu paentiad prydferth o Modron, Brenhines Geltaidd chwedlonol. Yn y paentiad hwn, roedd am gyfleu cryfder a phenderfyniad menywod, sydd wedi brwydro ochr yn ochr â dynion ers canrifoedd, boed hynny mewn llwythi neu yn ystod streic y glowyr; roedd eu cryfder yno i bawb ei weld.

Y paentiad modern yn cael ei ddatblygu Y paentiad modern yn cael ei ddatblygu

Cerddoriaeth

Roedd y sesiynau cerddoriaeth gyda Liz yn bleser pur, a dangosodd llawer o'r cyfranogwyr eu doniau arbennig drwy chwarae amrywiaeth eang o offerynnau. O amgylch y bwrdd, roedd y geiriau'n llifo a'r nodau'n cyfuno i greu darn unigryw o gerddoriaeth a oedd yn crynhoi treftadaeth Blaenau Gwent. Clywodd yr ysgol gynradd leol yn Six Bells am hyn ac roedd am gymryd rhan. Dywedodd yr ysgol wrthym fod ganddi gôr ac y byddai'n hoffi gweithio gyda Liz i gyfansoddi cân y byddai'r côr yn ei pherfformio yn ystod yr arddangosfa ffisegol. Roedd yn bleser gennym groesawu'r ysgol i'r prosiect.

Ysgrifennu creadigol

Rhoddodd y Liz arall gyfleoedd i bobl fwynhau ysgrifennu creadigol. Dywedodd rhai pobl eu bod yn teimlo bod rhoi eu meddyliau lawr ar bapur o fudd i'w llesiant. Roedd rhai wedi mwynhau ysgrifennu flynyddoedd yn ôl, ond nid oeddent wedi gwneud hynny ers tro oherwydd prinder amser. Ar ôl iddynt fynychu'r sesiynau, roedd eu bryd ar ysgrifennu unwaith eto. Cawsom wybod bod ysgrifennu am rywbeth cyfarwydd yn haws yn aml ac felly dechreuodd atgofion lifo'n ôl a chafodd hen straeon a oedd wedi mynd yn angof eu rhannu unwaith eto drwy waith ysgrifennu disgrifiadol, hyfryd. Mae cynifer o ddarnau wedi cael eu hysgrifennu, pob un ohonynt mor wahanol, pob un ohonynt wedi'u hysgrifennu mor gelfydd, rydych chi'n teimlo eich bod chi'n ymgolli yn yr atgofion hynny.

O ganlyniad i'r pleser newydd hwn mewn dysgu, mae aelodau Grŵp Cymunedol Aberbîg wedi trefnu cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer y ganolfan fel y gallant barhau i ddysgu ac annog hyn. Am waddol arbennig.

Ddeufis yn unig ar ôl dechrau'r prosiect, cyrhaeddodd pandemig COVID-19! Roedd y prosiect wedi bod yn datblygu'n dda gyda phobl yn gwneud ffrindiau newydd a phobl o'r tu allan i'r ardal yn dod i ymuno yn y gweithdai. Roedd pawb dan sylw yn benderfynol o barhau â'r prosiect ac felly symudwyd y sesiynau cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol ar-lein a chrëwyd pecynnau celf i'w dosbarthu o gwmpas Blaenau Gwent. Roedd y gwaith celf gorffenedig wir yn syfrdanol.

Mae canlyniadau'r prosiect hwn wedi bod yn anhygoel. Mae'r fflam yn sicr wedi'i thanio ym Mlaenau Gwent. Mae pobl wedi canfod bod dysgu'n hwyl, yn ddiddorol ac yn gyffrous. Maent wedi gallu magu hyder a darganfod eu doniau. Rwy'n credu bod y mwyafrif o'r bobl wedi cael eu synnu o weld eu gallu ac maent wedi darganfod pleser dysgu a chroesawu hyn. O ganlyniad i'r pleser newydd hwn mewn dysgu, mae aelodau Grŵp Cymunedol Aberbîg wedi trefnu cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer y ganolfan fel y gallant barhau i ddysgu ac annog hyn. Am waddol arbennig.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y prosiect gwych hwn – y tiwtoriaid o'r Brifysgol Agored am helpu pobl i deimlo'n gyfforddus a darganfod pleser dysgu a phawb a wnaeth gymryd rhan. Rydym yn gwerthfawrogi'r holl waith gwych a grëwyd yn ystod y prosiect hwn ac rydym yn edrych ymlaen at ei ddangos i'r gymuned ehangach yn ystod yr arddangosfa ar-lein yn hwyrach eleni ac yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng ngwanwyn 2022.

Beth sy'n gwneud BG REACH yn wahanol

18 Mawrth 2021

Gan Richard Marsden, Cyfarwyddwr Addysgu Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn Y Brifysgol Agored. Ef oedd Arweinydd Academaidd prosiect BG REACH.


Roedd llawer o'n syniadau ar gyfer prosiect BG REACH yn canolbwyntio, yn gywir ddigon, ar ei fuddiannau cymdeithasol. Y nod yw galluogi pobl i feithrin sgiliau newydd a chael profiadau newydd, mynegi eu hunain mewn ffyrdd newydd a, thrwy arddangosfa'r prosiect, fynd i'r afael â'r stigma sy'n aml yn gysylltiedig ag ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel Blaenau Gwent. Mae'n gyfle hefyd i ystyried y ffordd orau y gall prifysgolion hen-ffasiwn a chonfensiynol gydweithio â chymunedau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, fel cymdeithasau tai.

Ond mae BG REACH hefyd yn ddarn o waith ymchwil sy'n ystyried meddyliau a theimladau pobl am hanes eu hardal leol.

Y syniad yw bod teimladau pobl am y gorffennol yn dylanwadu ar eu ffordd o feddwl am y presennol. Hynny yw, mae cysylltiad pwysig rhwng hanes a hunaniaeth. Mae haneswyr yn tueddu i archwilio hynny drwy edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei adael ar ôl; o adroddiadau newyddion a chofnodion swyddogol i ddyddiaduron a llythyrau. Mae hynny'n iawn am hanner can mlynedd, can mlynedd neu fil o flynyddoedd yn ôl hyd yn oed. Ond nid yw'n gweithio cystal os ydych am ddysgu mwy am y gydberthynas honno heddiw.

Cerddi neu ddarluniau, straeon neu ganeuon, a ddatblygwyd ac a fireiniwyd gan eu creawdwyr dros sawl wythnos neu fis; mae'r rhain yn ffynonellau gwybodaeth llawer mwy cyfoethog ac aml-haenog nag atebion i holiadur neu gyfres o ystadegau ymwelwyr.

Mae cymdeithasegwyr yn fwy tebygol o fynd i'r afael â'r pwnc drwy holiaduron a grwpiau ffocws, gan ofyn am farn pobl. Ond anfantais hyn yw ei fod yn rhoi pobl dan bwysau, gan ei gwneud hi'n anoddach i ganfod sut maent wir yn teimlo am eu gorffennol eu hunain a hanes yr ardal maent yn byw ynddi. Yn y cyfamser, bydd arbenigwyr treftadaeth yn ystyried yr atyniadau y mae pobl yn ymweld â nhw – y plastai, y safleoedd archaeolegol, yr amgueddfeydd – ac yn ceisio canfod o hynny beth mae pobl yn ei feddwl am y gorffennol. Ond fel arfer caiff y lleoedd hynny eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol yn hytrach nag aelodau o'r gymuned, ac yn aml byddant yn canolbwyntio mwy ar yr elît yn hytrach na phobl gyffredin.

Nid yw hynny i ddweud nad yw'r ymchwil a wneir gan haneswyr, cymdeithasegwyr ac arbenigwyr treftadaeth yn werth chweil. Ddim o gwbl. Fy mhwynt yn syml yw bod cyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. A dyna beth mae BG REACH yn ei wneud. Y syniad yw cefnogi pobl o Flaenau Gwent i rannu eu hatgofion, eu hanesion personol, a'u hymdeimlad o dreftadaeth leol drwy'r celfyddydau creadigol.

Gallai hynny olygu troi atgofion yn straeon, defnyddio chwedl leol i ysbrydoli cerddi neu lên feicro, cyfansoddi caneuon am hanes yr ardal, neu greu gwaith celf sy'n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog y sir. Bydd y darnau hyn yna'n cael eu dadansoddi er mwyn gweld beth y maent yn ei ddatgelu am gysylltiadau rhwng y gorffennol a'r presennol i'r bobl a'u creodd. Cerddi neu ddarluniau, straeon neu ganeuon, a ddatblygwyd ac a fireiniwyd gan eu creawdwyr dros sawl wythnos neu fis; mae'r rhain yn ffynonellau gwybodaeth llawer mwy cyfoethog ac aml-haenog nag atebion i holiadur neu gyfres o ystadegau ymwelwyr. Y cyfoeth creadigol hwn y mae elfen ymchwil BG REACH yn ceisio ei ddatgelu.

Byddai canlyniadau'r gwaith hwn yn ddiddorol iawn i unrhyw ran o Gymru. Ond maent yn arbennig o bwysig i leoedd fel Blaenau Gwent, gyda glamwr metropolitanaidd coridor yr M4 a rhamant diwylliant Cymraeg yn y Gogledd a'r Gorllewin yn taflu cysgod drostynt. Mae Cymoedd Gwent yn rhan o dreftadaeth angof Cymru, a gysylltir yn llygad y cyhoedd â thwf diwydiannol ac yna cwymp economaidd. Y gobaith yw y bydd BG REACH yn dangos bod llawer mwy i'r cymoedd na hynny i'r bobl sy'n byw yno.

Croeso Cynnes Cymreig yn Aberbîg

26 Mai 2021

Cerflun y Gwarcheidwad Cerflun y Gwarcheidwad yn edrych dros Barc Arael Griffin, tynnwyd y llun ar ymweliad ar ddechrau 2020

Gan Sarah Roberts, Cydlynydd Partneriaethau ar gyfer Y Brifysgol Agored yng Nghymru a hi wnaeth gydlynu prosiect BG REACH.


Bob tro roeddwn i a Suzy yn mynd i Aberbîg roedd yr haul yn tywynnu.

Bu llai o deithiau yno oherwydd y pandemig byd-eang a wnaeth droi popeth ben i waered, ond roedd pob ymweliad yn llawn brwdfrydedd, cynlluniau a phosibiliadau, gyda Suzy'n darparu'r siocled i roi hwb i ni ar ôl oriau o sgwrsio.

Cawsom ein cyfarch gan fenywod hyfryd Canolfan Gymunedol Aberbîg; roedd Pat, Babs, Jacqui a Hilary bob amser yn wên o glust i glust ac yn sicrhau bod y tegell wedi berwi. Mae sgyrsiau â'r modelau rôl cymunedol hyn bob amser yn braf, hyd yn oed pan fo pethau'n anodd, ac ni allwch beidio â chael eich ysbrydoli gan eu syniadau, eu hegni a'u dyhead ar gyfer eu cymuned, nid yn unig drwy brosiect BG REACH ond drwy amrywiaeth eang o gyfleoedd maent yn eu hystyried er budd y bobl o'u cwmpas.

A ninnau'n byw yng Nghaerdydd, byddem yn ceisio crwydro'r ardal yn ystod pob ymweliad. Wedi'r cwbl, nod BG REACH yw dathlu harddwch Blaenau Gwent; y lle, ei bobl, ei dreftadaeth, ac roedd Suzy, gyda'i brwdfrydedd dros hanes, bob amser yn fwy na pharod i yrru ffordd wahanol fel y gallem baru straeon hynod ddiddorol ein partneriaid yn Aberbîg â golygfeydd hardd yr ardal.

Roedd harddwch a thawelwch yr ardal, gyda thirnodau ac adeiladau hanesyddol trawiadol yma ac acw, yn ein hatgoffa pam ei bod yn bwysig dweud wrth bobl eraill am y fersiwn hon o Flaenau Gwent drwy brosiect BG REACH.

Ysgogi creadigrwydd yn Aberbîg

11 Mehefin 2021

By Liz Ford, Tiwtor Staff Saesneg, Y Brifysgol Agored


Bob tro y byddwn yn ymweld ag Aberbîg i gynnal cyfres o weithdai Ysgrifennu Creadigol, byddwn yn dod ar draws pethau newydd – pobl, ffrindiau a phrofiadau y byddaf yn eu cofio am byth.

Byddwn bob amser yn cael croeso cynnes yn y ganolfan gymunedol, ac yn cael paned o de, coffi a hyd yn oed bisgedi!

Ym mhob sesiwn, byddai rhywun newydd yn cyrraedd gyda phrofiadau gwych i'w rhannu â'r grŵp ac ysgrifennu amdanynt. Byddem yn trafod hanesion lleol ac yn clywed sawl stori ddiddorol am dyfu i fyny yn y gymuned a straeon ac atgofion am aelodau o'r teulu a ffrindiau, y mae rhai ohonynt wedi ymadael â ni erbyn hyn, ond sawl un ohonynt yn dal i fod yn rhan o'r gymuned fywiog a chynnes hon o bobl y mae'r ardal mor bwysig iddynt.

Byddai bob amser yn bleser gweld parodrwydd aelodau'r grŵp i rannu eu syniadau ag eraill. Byddai gan bawb rywbeth i'w ddweud, weithiau gormod i'w ddweud, a byddai'n rhaid torri ar draws ambell un a gofyn iddo ysgrifennu'r hyn roedd yn ei ddweud cyn iddo anghofio amdano yng nghanol y sgwrs. Roedd grŵp ysgrifennu'r merched sy'n ciniawa yn ychwanegiad poblogaidd iawn, yn enwedig ar ôl ambell ddiod, mae'n debyg, ar y ffordd!

Pan darodd y pandemig, a heb unrhyw ddewis arall, gwnaethom newid i gynnal y sesiynau ar-lein. Unwaith eto, roedd hi'n bleser gweld y parodrwydd i gyfrannu ac un noson, cawsom hyd yn oed gwmni myfyrwyr o Lebanon!/p>

Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn parhau mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn gobeithio'n fawr y gallwn gynnal ein cysylltiadau â chymuned Aberbîg. Rwy'n teimlo fel pe bawn wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?