Mae'r artistiaid yn cynnwys cyfranogwyr mewn gweithdai a gynhelir yn Aberbîg a phreswylwyr Llys Glyncoed sy'n rhan o'r cynllun Gofal Ychwanegol a gwblhaodd eu teils yn ystod cyfnod clo pandemig Covid 19 yn 2020 ac 2021. Mae'r teils yn portreadu amrywiaeth
o bethau gwahanol. Gweler amrywiaeth o adeiladau, gerddi, coedwigoedd a chaeau, morluniau ac awyrluniau, ambell i wawr, ac ystod o anifeiliaid. Mae bob un, mewn ffordd wahanol, yn cynrychioli profiadau'r gwneuthurwr o fyw ym Mlaenau Gwent.
Harddwch yr ardal a'i threftadaeth naturiol yw'r thema sydd fwyaf amlwg ymhlith y teils. Mae coedwigoedd a chaeau yn ymddangos yn aml yn llawer ohonynt. Motif arall sy'n eithaf amlwg yw bryn yn ymestyn i gwrdd â'r awyr. Ceir ymdeimlad cryf o'r ffordd
mae'r dirwedd yn siapio bywyd yng Nghymoedd Gwent. Mae pobl yn byw bywyd yng nghymoedd gwyrdd cul rhwng cewri o gopaon; mae nifer o'r teils yn cynnwys bythynnod teras cloddwyr wedi cysgodi ar lethrau bryniau. Mae'r darluniau sy'n cynnwys defaid,
ceffylau ac adar yn pwysleisio'r wledigrwydd a chysylltiad â natur. Ar y llaw arall, mae'r lluniau o gŵn gwahanol yn awgrymu fod mynd â chi am dro yn un o'r prif ffyrdd mae rhai o'r artistiaid hyn yn mwynhau harddwch yr ardal.
Yn aml, cysylltir Blaenau Gwent gyda glo a dur, ac yn fwy diweddar gyda dirywiad trychinebus y diwydiannau hynny. Mewn ffordd, mae'r teils hyn yn gwrthateb y safbwynt hwnnw, ac yn pwysleisio dychweliad natur yn hytrach na goblygiadau dinistriol
ac economaidd dad-ddiwydiannu. Er hynny, cyfeirir yn uniongyrchol at orffennol diwydiannol y rhanbarth mewn sawl teilsen, yn aml ar ffurf traphontydd gwahanol. Mae un deilsen yn dangos pen pwll Cwmtyleri. Mae un arall yn dangos y Six Bells Guardian.
Cerflun uchel yn coffáu'r bobl a fu farw mewn trychineb lofaol yn 1960. Mae trydedd deilsen yn dangos eglwys debyg i Eglwys Crist yn Aberbîg, a adeiladwyd i wasanaethu cloddwyr Glofa'r Six Bells. Mae pedwaredd deilsen yn cyflwyno tirlun du trawiadol
gyda thoriadau o gloddwyr ar y tu blaen. Ac mae pumed deilsen yn cyfosod dyfeisgarwch diwydiant yn erbyn dirywiad yr 1980au, gan gwmpasu ei neges gyda phennawd trawiadol yn dweud 'y pris a delir am lo'.
Wedi'u gosod ynghyd â'r teils daearol tuag at y gwaelod a'r rhai mwy awyrog uwchben, mae effaith gyfunol yr holl waith celf yn drawiadol. Er bod effaith glo yn amlwg iawn mewn ambell i deilsen, mae'r brif neges yn canolbwyntio ar falchder
a phleser harddwch a chymeriad Blaenau Gwent heddiw. I'r trigolion yno, nid yw'r ardal yn gaeth i etifeddiaeth wanhaol oes ddiwydiannol a gollwyd, fel y tybir yn aml.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon