Ynglŷn â'r gwaith hwn
Artist amatur yw Raymond Mason, sy'n byw yn y Coed Duon, rhwng Glynebwy a Chaerffili. Er nad ydynt yn ymddangos felly ar yr olwg gyntaf, mae'r tri darn o waith celf a welir yma yn myfyrio ar Gymoedd Gwent a'r byd ehangach. Mae'n egluro hyn yn ei eiriau ei hun, ac mae ei baragraff olaf yn arbennig o ddadlennol.
‘Yn 15 oed, treuliais dair blynedd yn gweithio ym mhwll glo Britannia, i'r gogledd o Ystrad Mynach. Bu bron i mi golli fy mywyd dair gwaith, a gofynnodd glöwr i mi a oeddwn wedi gweld y goleuni eto, pan oeddwn ond yn 16 oed. Doedd gen i ddim syniad am beth roedd yn sôn, felly dywedais "na". Atebodd drwy ddweud, “fe wnei di un dydd”. Ychydig cyn i mi droi'n 18 oed, euthum i gwrdd â'r un dyn a dywedais wrtho fy mod bellach wedi gweld y goleuni. Roeddwn i'n bwriadu dianc rhag yr uffern hon ac ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol. Parhaodd fy nhad i weithio yn y pwll glo, felly mae gennyf gysylltiad â'r diwydiant glo. Gadawais fy nhreftadaeth ar ôl, ond heb ei anghofio.
Rydym yn cadw ein treftadaeth yn fyw drwy brosiectau megis BG REACH a lleoedd fel Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon. Euthum â grŵp o ymwelwyr ifanc o Bortiwgal i'r Big Pit unwaith, er mwyn iddynt weld sut beth ydoedd. Ni allent ddeall pam y byddai pobl yn dewis gweithio yn yr amgylchedd hwnnw. Dywedais wrthynt eu bod yn edrych ar ddarn o'n hanes diwydiannol; heb lo, ni fyddem wedi gweld chwyldro diwydiannol. Ar ôl tywyllwch y chwyldro diwydiannol, daeth y goleuni; roedd y cymoedd yn wyrddlas unwaith eto, roedd yr afonydd yn lân ac roedd yr awyr yn glir rhag mwg a mwrllwch. Dychwelodd pysgod i'r afonydd, ynghyd â bywyd gwyllt arall.
Roedd cymoedd de Cymru yn llawn o bobl dalentog iawn. Ar ôl diwrnod caled o waith yn y pwll glo, mae'n braf gallu ymlacio a dilyn eich hobi. Mae rhai yn bridio colomennod, rhai eraill yn paentio lluniau, ac mae rhai yn ysgrifennu straeon neu farddoniaeth. Mae'r cyfan yn falm i'r enaid. Nid yw eu paentiadau a'u gwaith ysgrifennu o reidrwydd yn ymwneud â'r amgylchedd y maent yn byw neu'n gweithio ynddo. Credaf fod y cysylltiad rhwng fy ngwaith celf a lle rwy'n byw yn deillio o awydd i symud i ffwrdd o edrychiad diwydiant trwm, gan gynnal treftadaeth ddiwydiannol fy nghymuned ar yr un pryd. Rwy'n hoffi gweld llun lliwgar ar wal ystafell fyw, felly efallai nad oes unrhyw gyswllt o gwbl rhwng ein cerddi a'n lluniau llachar a'n gorffennol diwydiannol tywyll ar wahân i'n hatgoffa i edrych ymlaen at ddyfodol disglair a lliwgar'.
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon